Enghraifft o: | math o ddawns, math o ddigwyddiad ![]() |
---|---|
Math | dawns werin, digwyddiad ![]() |
Digwyddiad Cymreig, ble mae pobl yn dod ynghyd iddawnsio gwerin ywtwmpath dawns neutwmpath dawnsio. Mae'r gair 'twmpath' yn golygu 'cynulliad o bobl', ac yn hanesyddol mae wedi'i ddefnyddio hefyd i gyfeirio at achlysuron pan fyddai pobl yn dod at ei gilydd i chwarae gemau, mewn 'twmpath chwarae'.[1] Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r gair 'twmpath' yn cael ei ystyried yn gyfystyr â thwmpath dawns. Yn yr20g buUrdd Gobaith Cymru yn noddwr brwd o'r twmpathau, yn enwedig yng ngwersylloeddNglan Llyn aLlangrannog.
Mae'r twmpath fel arfer yn ddigwyddiad anffurfiol ac ni fydd y bobl sy'n cymryd rhan wedi ymarfer o flaen llaw nac yn brofiadol fel dawnswyr gwerin. Bydd y twmpath yn cynnwys nifer o ddawnsfeydd unigol sy'n cael eu dysgu ar y pryd. Yn ystod y noson, mae rhyddid i ddawnswyr adael neu ymuno â dawnsfeydd unigol fel y mynnant, yn hytrach na bod disgwyl iddynt gymryd rhan yn yr holl ddawnsfeydd o'r dechrau i'r diwedd.[2]
Bydd person neu bersonau penodol yn cael y dasg o 'alw' y twmpath, sef cyflwyno'r ddawns i'r rhai sy'n bwriadu cymryd rhan ynddi ac yna'u helpu i gyflawni'r ddawns i gyfeiliant sydd naill ai'n fyw neu wedi'i recordio. Ymhlith y galwyr mwyaf nodedig yng Nghymru maeDei Tomos.
Erbyn yr21g roedd twmpath dawns yn aml yn cael ei gynnal i ddathluGŵyl Dewi neu fel rhan o ddathliadpriodas.