Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Tutsi

Oddi ar Wicipedia
Tutsi
Enghraifft o:grŵp ethnig Edit this on Wikidata
MamiaithKirundi,kinyarwanda edit this on wikidata
Poblogaeth2,000,000 Edit this on Wikidata
CrefyddCatholigiaeth edit this on wikidata
Rhan oBanyarwanda Edit this on Wikidata
GwladwriaethRwanda,Bwrwndi,Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo,Tansanïa,Wganda Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp ethnigAffricanaidd yn byw ynBwrwndi,Rwanda a rhannau oWeriniaeth Ddemocrataidd y Congo yw'rTutsi (hefydWatutsi aBatutsi).

Dywedir fod y Tutsi yn wreiddiol oDdwyrain Affrica, efallaiEthiopia, a'u bod wedi ymfudo i Rwanda a Bwrwndi yn yr11g. Yn y16g, ffurfiwyd teyrnasoedd Tutsi yn yr ardaloedd hyn. Yn draddodiadol, roedd y Tutsi yn ffermwyr gwartheg ac yn ffurfio dosbarth o uchelwyr yn Rwanda a Bwrwndi, tra'r oedd yrHutu yn tyfu cnydau, a dan reolaeth y Tutsi. Gwaherddid priodasau rhwng Hutu a Tutsi.

Yn yr20g, bu llawer o derfysg rhwng y Tutsi a'r Hutu. Yn1994, lladdwyd rhwng 500,000 a miliwn o bobl gan ddau filisia Hutu ynHil-laddiad Rwanda, a ddechreuodd ar6 Ebrill pan saethwyd i lawr awyren yn cynnwys Arlywydd Rwanda,Juvénal Habyarimana. Lladdwyd Habyarimana, oedd yn aelod o'r Hutu. Yn y tri mis nesaf, lladdwyd nifer fawr o'r Tutsi, a hefyd rhai Hutu oedd yn gwrthwynebu'r milisia.

Canran Hutu, Tutsi a Twa yn Rwanda a Bwrwndi

[golygu |golygu cod]
TutsiHutuTwa
Rwanda9%90%1%
Bwrwndi16%83%1%
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Tutsi&oldid=12941759"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp