Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Turtur dorchog

Oddi ar Wicipedia
Turtur dorchog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Urdd:Columbiformes
Teulu:Columbidae
Genws:Streptopelia
Rhywogaeth:S. decaocto
Enw deuenwol
Streptopelia decaocto
(Frivaldszky, 1838)
ŴyStreptopelia decaocto

Mae'rDurtur Dorchog (Streptopelia decaocto) yn aderyn sydd â hanes diddorol iawn. Yn wreiddiol yr oedd i'w chael yn y gwledydd rhwng de-ddwyrainEwrop aJapan, ond tua dechrau'rugeinfed ganrif dechreuodd wladychu ardaloedd newydd. Erbyn diwedd y 1950au yr oedd wedi cyrraedd gwledyddPrydain, ac yn fuan wedynIwerddon. YnSgandinafia mae'n nythu ymhell i'r gogledd erbyn hyn.

Ymddengys i'r Durtur Dorchog gyrraedd yBahamas trwy ddamwain, ac oddi yno lledaenodd iFlorida ac erbyn hyn i ran helaeth oUnol Daleithiau America. Un yn ymgartrefu'n hawdd mewn unrhyw leoliad. Nid yw'naderyn mudol, er y gellir gweld symudiadau weithiau, yn enwedig mewn tywydd oer.

Mae'n nythu mewn coed, yn dodwy dau wy ar y tro. Gall nythu nifer o weithiau mewn blwyddyn. Gellir gweld yr aderyn yma o gwmpas gerddi yn aml iawn, ac mae'n medru bod yn ddof iawn. Mae'n golomen weddol fychan, gyda phlu llwyd golau, a gwyn ar flaen y gynffon. Daw'r enw o'r hanner coler ddu ar y gwegil.

Yn y gaeaf gall cryn nifer o adar gasglu yn haid, yn enwedig lle mae digonedd o fwyd ar gael.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Turtur_dorchog&oldid=10954734"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp