Afon Tuedd (River Tweed): y ffin hanesyddol rhwng yrAlban aLloegr; enw'r ardal yn Saesneg, lle gorwedd yr afon, yw'rBorders. Ystyr y gair Cymraeg "tuedd" yn y13g a chyn hynny oedd "ochr", "ffin" neu "gyffiniau".
Ystyr y termtueddu at rywbeth, yw closio neu ffafrio, gogwyddo neu symud tua rhyw gyfeiriad arbennig. Rhoi mwy o bwysau neu sylw i un ddadl na'r llall, felly yw tuedd, neubias: ochri gydag un math o grefydd, un set o bobl, rhywedd, meddylfryd wleidyddol ayb. Ond mae'r gair 'tuedd' yn llawer hŷn na hyn, ac i'w gael yngNgwaith Dafydd Benfras yn y13g, pan oedd y gair yn cyfeirio at ardal, ffin, cyffiniau neu gyfeiriad.[1] Yr hyn sy'n gyffredin rhwng y ddau ystyr, yw'r syniad o 'ochr'. Yn yrAlban, ceirAfon Tuedd, ac fe'i lleolir ar y ffin rhwng yr Alban a Lloegr, man a elwir ynThe Borders, yn Saesneg.
Yr hyn sy'n groes i duedd yw di-duedd, niwtraliaeth neu feddwl agored. Yn fras, cyfeiria'r erthygl hon at ddwy agwedd o'r gair: y fathemateg a'r ochr wleidyddol.
Mewnmathemateg, ac yn benodol, o fewnystadegaeth, mae tuedd yn faes a astudir, ac a ddiffinir fel y "canlyniad sy'n wahanol i'r amcangyfrif a ddisgwylir".
Mewn geiriau eraill, mae ystadegyn yn 'dueddol os gaiff ei gyfrifo i fod yn eithaf gwahanol i baramedrau poblogaeth (neu'rparamedrau ystadegol) a gyfrifwyd. [Nodyn: 'paramedr ystadegol' yw maint, sy'n indecs oddosbarthiad tebygolrwydd. Caiff ei ystyried fel rhif y boblogaeth (ystadegol) neufodel ystadegol]. Dyma rai mathau:
tuedd wrth ddethol, a elwir hefyd yn "duedd Berksonian". Yma, mae rhai unigolion yn fwy tebygol o gael eu dewis i fod yn rhan o'r sampl, nag eraill.
tuedd wrth ganfod. Er enghraifft, efallai fod meddygon yn fwy parod i chwilio amglefyd y siwgr mewn cleifion sy'n dioddef odewdra, na chleifion tenau.
tuedd wrth ddadansoddi'r ystadegau
asesiadau addysgol: profion o fewn y byd addysg, lle ceir tuedd wrth osod y prawf, neu wrth farcio'r prawf.
tuedd wrth ariannu, sy'n digwydd yn aml, wrth i'r asiantaeth sydd wedi'i dethol i weinyddu'r profion geisio plesio'r corff sy'n eu cyflogi, ac felly maen nhw'n euog o droi'r dŵr i'w melin eu hunain.
tuedd wrth gyhoeddi'r canlyniadau; mae hyn yn digwydd pan fo'r cyhoeddiad terfynol yn cael ei gadw oddi wrth rhan o'r boblogaeth, drwy ei gyhoeddi'n fewnol, neu mewn rhai cyfryngau'n unig.[2][3][4]
Adroddiad ym mhapur newyddThe Guardian yn honni fod gan y BBC duedd yn erbynannibyniaeth i'r Alban yn 2014.
Ceir hefydduedd gwleidyddol, a ystyrir yn beth annheg, lle rhoddir mwy o bwysau ar un ochr y ddadl na'r llall, un blaid yn fwy na'r lleill. Ystyrir fod sylwebaeth y BBC ar faterion sy'n ymwneud â Chymru yn ochri fwy gyda'rstatus quo yn Lloegr, gan rai, er enghraifft y modd y maen nhw'n rhoi sylw i deulu brenhinol Lloegr, fel pe bai hynny'n haeddu sylw mewn gwlad arall sydd yn ei hanfod yn ddemocrataidd, sosialaidd.[5][6] Gan eraill, ystyrir fod tuedd y BBC yn erbyn datganoli'r Alban am y misoedd cynRefferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 wedi cael effaith gref ar farn pobl.[7][8][9][10]
Gall cyflyru pobl, heb iddynt wybod hynny liwio eu barn, a chreu tuedd annheg o blaid neu yn erbyn rhywbeth neu rywrai. Effaith bias systematig, fel hyn, yw creu rhagfarn - barn sydd wedi'i blannu, dros amser ym meddyliau pobl a gellid dweud fod pobl fel hyn yn unllygeidiog a'u meddwl yn gaeedig. Yr hyn sy'n groes i duedd yw niwtraliaeth neu feddwl agored.
Ers dyfodiad cyhoeddi, a'r gallu i greu llyfrau, un set o bobl yn unig a oedd a'r sgiliau angenrheidiol i ddarllen eu gwaith, a'r cyfoeth i fforddio llyfrau. Ar hyd y canrifoedd, mae cyhoeddwyr wedi ceisio llywio barn pobl drwy eu cyhoeddiadau; felly hefyd ar y we a'rcyfryngau cymdeithasol heddiw.[11]
↑golwg360.cymru; GwefanGolwg 360; teitl: ‘Gormod o sylw i fabi Will a Kate’ medd gwylwyr; adalwyd 20 Chwefror 2019.
↑golwg360.cymru; teitl - “For Wales, see England” – ymateb AS i ffrae Pont Hafren; adalwyd 20 Chwefror 2019.
↑www.rt.com/uk; teitl y gwaith:BBC accused of anti-independence bias after editing out Salmond’s reply to ‘bank exodus’ question; adalwyd 20 Chwefror 2019.
↑www.telegraph.co.uk; teitl y gwaith:Andrew Marr accused of bias over Scottish independence; adalwyd 20 Chwefror 2019.
↑theguardian.com;The Guardian teitl y gwaith:Civil servants accused of bias during Scotland's independence referendum; adalwyd 20 Chwefror 2019.