Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Tubas

Oddi ar Wicipedia
Tubas
Enghraifft o:dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth22,000 Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Map
Enw brodorolطوباس Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthLlywodraethiaeth Tubas Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.tubas.ps/ Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dinas ymMhalesteina ywTubas (Arabeg:طوباس‎; Tûbâs) a leolir ynyLan Orllewinol i'r gogledd-ddwyrain oNablus. ac i'r gorllewin oDdyffryn yr Iorddonen. Mae'n ddinas â dros 63,000 o drigolion, sy'n ei gwneud tua'r un faint âWrecsam, ac mae'n gwasanaethu fel canolfan economaidd a gweinyddolLlywodraethiaeth Tubas (sir Tubas). Mae ei ardal drefol yn cynnwys 227 hectar. Caiff ei lywodraethu gan gyngor trefol o 15 aelod ac mae'r mwyafrif o'i dinasyddion yn cael eu cyflogi mewnamaethyddiaeth neu wasanaethau cyhoeddus. Y maer yn y 2020au oedd Khalid Samir Abdel Razzek.

Tref hynafol yw Tubas a elwid gynt yn Thebes, un o drefiCanaan - a thref enwog am wrthryfela yn erbyn y Brenin Abimelech. Yn ystod diwedd y19g, yn ystod rheolaeth yrOtomaniaid ymMhalesteina, daeth llwythi'rArabiaid sy'n byw ynNyffryn yr Iorddonen i fyw i Tubas, a daeth yn dref fawr yn Ardal Nablus, sy'n arbennig o adnabyddus am ei ben a'igaws. Daeth o danFandad Prydain Palestina ym 1922, ac fe'i atodwyd ganGwlad yr Iorddonen ar ôl iddynt gipio’r dref ynRhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948, ac yna eimeddiannu gan Israel ers RhyfelChwe Diwrnod 1967. Mae ganAwdurdod Cenedlaethol Palestina reolaeth ar Tubas ers i'r ddinas gael ei throsglwyddo i'w hawdurdodaeth ym 1995.

Hanes

[golygu |golygu cod]

Cynhanes

[golygu |golygu cod]

Mae enw'r ddinasTubas yn deillio o'r gair CanaaneaiddTuba Syoys neu "seren lachar".[1] 

Mae olion archeolegol fel mynwentydd ac offer gwasguffrwyth yr olewydd yn dangos bod pobl wedi byw yn Tubas yn ystod oes goresgyniad y Rufeinig ymMhalestina.[1] SonioddSierôm fod Thebez yn 13milltir Rufeinig i'r dwyrain o Neapolis (Nablus). Heblaw am y stori Feiblaidd, ni wyddys unrhyw beth am Thebez cyn neu ar ôl y gwrthryfel.[2]

Yr Oes Otomanaidd

[golygu |golygu cod]

Yn 1596 ymddangosodd yngnghofrestrau treth yr Otomaniaid fel "Tubas". Roedd gan y dref boblogaeth o 41 o aelwydydd ac 16 gwr dibriod, pob un ynFwslim. Talodd y pentrefwyr gyfradd dreth sefydlog o 33.3% ar wenith, haidd, cnydau haf, coed olewydd, refeniw achlysurol, geifr, cychod gwenyn, a gweisg yr olewydd neu rawnwin; cyfanswm o 11,704 akçe.[3]

Ar ddiwedd yr 19g yn ystod rheolaeth yr Otomaniaid ym Mhalestina,ymfudodd grwpiau o Arabiaid a oedd yn perthyn i lwyth Daraghmeh - bugeiliaid a ffermwyr yn bennaf a oedd yn byw ynNyffryn yr Iorddonen i'r gogledd, oherwydd y tir ffrwythlon, ei agosrwydd at sawl nant neu fynnon, a'i uchel drychiad o'i gymharu â gwastadedd Dyffryn yr Iorddonen aWadi al-Far'a.[1][4] Roedd y llwyth Daraghmeh wedi byw yn Nyffryn yr Iorddonen ers y 15g ac yn ychwanegol at Tubas, fe wnaethant drefedigaethu yn y pentrefi cyfagosː Kardala, al-Farisiya, Khirbet al-Malih, Kishda, Yarza, a Ras al-Far'a. Yn fuan ar ôl iddynt sefydlu yn Tubas, daeth Arabiaid oNajd,Syria, Transjordan,Hebron aNablus gerllaw i ymgartrefu yn yr ardal.[1] Yn ystod y cyfnod hwn, daeth Tubas yn safle gwrthdaro rhwng teuluoedd 'Abd al-Hadi a Tuqan yn Nablus ac ymosododd yBedowiniaid o ardaloedd i'r dwyrain o'r ddinas.[4] Nid oedd y teulu Jarrar yn byw yno, ond nhw oedd yn gweinyddu Tubas, gan ei fod wedi'i leoli o fewnnahiya ("isranbarth") Mashariq al-Jarrar.[5]

Roedd Tubas yn un o'r pentrefi mwyaf yn Rhanbarth Nablus ac roedd mwyafrif y trigolion yn byw mewn tai neu bebyll wedi'u hadeiladu o fwd er mwyn gweithio ar eu tiroedd pell yn Nyffryn Iorddonen ac i bori eu diadelloedd defaid a geifr.[6] Yn ôl y teithiwr Herbert Rix, o’i gymharu â threfi eraill o’i faint yn Samaria, roedd Tubas yn “llewyrchus” ac roedd ganddo doreth o bren sych yn barod ar gyfer coed tân.[7] Roedd tubas, yn wahanol i'r pentrefi yng ngweddill yr ardal, yn dibynnu ardda byw ac nidolewydd am incwm. Roedd cynhyrchion da byw yn cynnwys caws, menyn wedi'i egluro, rygiau gwlân, pebyll, rhaffau, a bagiau brethyn.[8] Yn 1882 sefydlwyd ysgol bechgyn yn y dref.[9]

Nododd Cronfa Archwilio Palestina fod y Samariaid yn arfer credu bod beddrodAser, a elwir yn lleol fel Nabi Tota ("y proffwyd da"), wedi'i leoli yn Tubas. Gwasanaethodd y beddrod fel cysegrfa yn nhraddodiad y Mwslimaidd lleol.[10]

Oes Mandad Prydain

[golygu |golygu cod]

Ym 1917,cipiodd Byddin Prydain wlad Palesteina a chwalwyd rheolaethyr Otomaniaid. Ar ôl rheolaeth llym dan lywodraeth filwrol, cafodd ei ad-drefnu ym 1922 – 23 ac ymgorfforwyd Tubaso fewn Mandad (neu reolaeth) Prydain.

Yng nghyfrifiad 1922 o Palestina roedd gan Tubas boblogaeth o 3,449; 3,441 o Fwslimiaid[11] a 7 o Gristnogion Uniongred.[12] Yng nghyfrifiad 1931, roedd gan Tubas, (gan gynnwys Kashda a Jabagia) 773 o dai a phoblogaeth o 4,097, yn Fwslimiaid yn bennaf, a 29 o Gristnogion.[13]

Oes Gwlad yr Iorddonen

[golygu |golygu cod]

Yn sgilRhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948, ac ar ôl Cytundebau Cadoediad 1949, daeth Tubas o danlywodraeth Gwlad Iorddonen.

Yn 1955 agorwyd yr ysgol gyntaf i ferched.[9]

Yn 1961, roedd y boblogaeth yn 5,709,[14] tra ym 1964, roedd gan Tubas boblogaeth o 5,880.[15]

Ôl-1967

[golygu |golygu cod]
Map y Cenhedloedd Unedig 2018 o'r ardal, yn dangos trefniadaumeddiannaeth Israel.

Ers yRhyfel Chwe Diwrnod ym 1967, mae Tubas wedi bod danfeddiant Israel.

Trosglwyddwyd Tubas ireolaeth Awdurdod Cenedlaethol Palestina (PNA) ym 1995 o dan y Cytundeb Dros Dro ar y Lan Orllewinol a Llain Gaza. Yn ystod cyfnodau Gwlad Iorddonen ac Israel, roedd y ddinas o dan weinyddiaeth Llywodraethiaeth Nablus, ond ym 1996, datganodd y PNA fod Tubas a'r ardal gyfagos yn ardal etholiadol, ac yn ddiweddarach, yn ardal weinyddol annibynnol - Llywodraethiaeth Tubas.

Nid yw Tubas wedi gweld cymaint o drais yn ygwrthdaro rhwng Israel a Phalestina âNablus aJenin gerllaw, ond digwyddodd nifer o ddigwyddiadau yn ystod yrAil Intifada, a ddechreuodd yn 2000. Ym mis Ebrill 2002,lladdodd lluoedd Israel (IDF) chweaelod gweithredol o Hamas yn y dref, gan gynnwys Ashraf Tamza Daraghmeh - prif gomander Hamas yn Tubas a'r ardal gyfagos.[16][17] Ar 31 Awst, 2002, taniodd hofrennydd Apache Israel bedair taflegryn Hellfire at gar sifiliaid, yr amheuir ei fod yn cario cadlywydd Brigadau Merthyron al-Aqsa lleol, a chartref cyfagos. Yn lle hynny, lladdwyd pump o sifiliaid, gan gynnwys dau o blant, dau yn eu harddegau acactifydd Fatah 29 oed a gyhuddwyd o fod yn aelod o Frigadau al-Aqsa. Cyhoeddodd Gweinidog Amddiffyn Israel, Binyamin Ben-Eliezer, ddatganiad yn mynegi “edifeirwch” dros ladd sifiliaid. Disgrifiodd Ben-Eliezer y cyrch yn Tubas fel “camgymeriad”, ac addawodd y byddai’r fyddin yn ymchwilio i’r digwyddiad.

Daearyddiaeth

[golygu |golygu cod]
Lleoliad Tubas (wedi'i farcio mewn coch) yn yLan Orllewinol

Mae Tubas wedi'i leoli yn yLan Orllewinol ogleddol gyda drychiad o 362 metr (1,188 tr)uwch lefel y môr, ond mae'r rhan fwyaf o Lywodraethiaeth Tubas wedi'i leoli yn Nyffryn yr Iorddonen i'r de.[1] Mewn arolwg tir yn 1945 roedd gan Tubas ynghyd â maesdrefi Bardala a Kardala yn cynnwys 31,312 hectar, lle roedd 220,594 yn anheddiadau dynol a'r gweddill yn eiddo cyhoeddus.[18] Yn 2005 cyhoeddwyd fod yr arwynebedd yn cynnwys 29,512 hectar, gyda 2,271 ohonynt yn gartrefi a tua 150,000 yn cael eu defnyddio at ddibenion amaethyddol ac mae tua 180,000 wedi'i alltudio ganIsrael ar gyfer canolfannau milwrol.[19]

Mae gandd y ddinas hinsawdd gymedrol; mae'r haf yn boeth ac yn sych, a'r gaeaf yn oer a gwlyb. Y tymheredd blynyddol ar gyfartaledd yw 21 °C (70 °F), a'r gyfradd lleithder flynyddol ar gyfartaledd yw 56%.[1]

Addysg

[golygu |golygu cod]

Yn 2004–05, roedd gan Tubas ddeuddeg ysgol; pedwar ar gyfer dynion, tri ar gyfer menywod a phump yn gymysg.; cyflogwyd 4,924 o fyfyrwyr a 191 o athrawon. Yn ogystal, mae chwe meithrinfa wedi'u lleoli yn y ddinas, ac mae ganddyn nhw gyfanswm o 620 o ddisgyblion ifanc. Yn 1997, ygyfradd llythrennedd oedd 86%; roedd menywod yn cynnwys 78.3% o'r boblogaeth anllythrennog. O'r boblogaeth lythrennog, cwblhaodd 25.7% addysg elfennol, cwblhaodd 23.3% addysg baratoadol a chwblhaodd 22.1% addysg uwchradd neu uwch.[1] Mae llawer o fyfyrwyr ledled Dyffryn yr Iorddonen yn derbyn eu haddysg yn Tubas.[9] Mae ganBrifysgol Agored Al-Quds sydd wedi'i lleoli ynJeriwsalem, gampws yn Tubas o'r enw Rhanbarth Addysgol Al-Quds Open University-Tubas. Yn 2006, cofrestrwyd 1,789 o fyfyrwyr yn y brifysgol, roedd ganddi 90 o athrawon a 24 o weithwyr eraill.

Mosgau ac eglwysi

[golygu |golygu cod]

Mae Tubas yn cynnwys chwemosg. Y prif fosgiau yw Mosg Abd ar-Rahan,Mosg al-Tawled, Mosg Umar ibn al-Khattab, a Mosg Shaheed.[1] Mae Eglwys Uniongred y Drindod Sanctaidd hefyd wedi'i lleoli yn Tubas, yn rhan ogleddol y ddinas. Adeiladwyd yr eglwys ym 1976 i wasanaethu'r gymuned Gristnogol Uniongred fach a cheir ynddi ystafell weddi, neuadd gymrodoriaeth, swyddfa, a llyfrgell i blant.[20] Ceir hen balas, sy'n eiddo i deulu Sawafta yn Tubas hefyd.[1]

Gweinyddu

[golygu |golygu cod]

Gan mai Tubas yw prifddinas (a dinas fwyaf)Llywodraethiaeth Tubas, mae'n gweithredu fel prif ddarparwr gwasanaethau trefi a phentrefi'r llywodraethiaeth. Ynddi hi mae holl swyddfeyddAwdurdod Cenedlaethol Palestina sy'n gwasanaethu'r llywodraethiaeth wedi'u lleoli yn y ddinas. Mae 21 o sefydliadau'r llywodraeth yn Tubas, gan gynnwys swyddfa bost, swyddfa Weinyddiaeth Lafur Palestina, swyddfa Gweinyddiaeth Amaeth Palestina, swyddfa Gweinyddiaeth Materion Cymdeithasol Palestina, yr adran dân a gorsaf heddlu.[1]

Cludiant

[golygu |golygu cod]

Bysiau a thacsis yw'r prif ddull o deithio yn Tubas. Cyfanswm hyd y ffyrdd palmantog yw 10,000 metr a cheir 10,000 metr o ffyrdd gyda phalmant hefyd a 25,000 o ffyrdd heb wyneb caled.

Mae Tubas wedi ei leoli ar Briffordd 588 wedi'i gysylltu â phrif ffordd Ramallah-Nablus (Priffordd 60) gan rwydwaith o gyrchfannau gogledd-ddwyreiniol y ffordd, sy'n mynd trwy bentrefiAzmut, al-Badhan a Ras al-Far'a. Mae wedi'i gysylltu âJenin drwy ffordd ogleddol sy'n mynd trwy 'Aqqaba, Zababdeh ac yn olaf i Jenin.[1] Mae'n eitha hawdd teithio iWlad yr Iorddonen trwy Briffordd 57 sydd wedi'i chysylltu â Phriffordd 588 ychydig i'r de o Tubas.[21]

Gofal Iechyd

[golygu |golygu cod]

Mae'r ddinas yn cynnwys pumcanolfan iechyd sy'n cael eu rhedeg gan amrywiol sefydliadau gan gynnwysCilgant Coch Palestina. Nid oesysbytai yn Tubas, nac yn Llywodraethiaeth Tubas; rhaid i breswylwyr deithio i Nablus i gael triniaeth ysbyty, ond mae yma ddau ambiwlans yn Tubas ar gyfer cludo mewn argyfwng. Mae pedwar clinig yn y ddinas, gyda dau yn cael eu rhedeg gan sefydliadau anllywodraethol, un ganAwdurdod Cenedlaethol Palestina ac un yn eiddo preifat. Fodd bynnag, nid oes gan y clinigau offer ac arbenigwyr modern. Yn ogystal, ceir deg fferyllfa yn Tubas.[1]

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
  • Rhestr o ddinasoedd a weinyddir gan Awdurdod Cenedlaethol Palestina

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.001.011.021.031.041.051.061.071.081.091.101.11Tubas City Profile Applied Research Institute - Jerusalem.
  2. Bromiley, 1995, p.825
  3. Hütteroth and Abdulfattah, 1977, p. 125.
  4. 4.04.1Finn, 1867/1877, pp.92–93
  5. Doumani, 1995, p.
  6. Doumani, 1995,Notes
  7. Rix, 1907, pp.157-159
  8. Doumani, 1995,The Hinterland of Nablus
  9. 9.09.19.2Irving, 2012, p. 236.
  10. Conder, 1881, p.201
  11. Barron, 1923, Table IX, Sub-district of Nablus, p.24
  12. Barron, 1923, p.47
  13. Mills, 1932, p.65
  14. Government of Jordan, 1964, p.13
  15. Stendel, Ori. (1968).
  16. Yesterday's Strike on a Terror Squad in TubasIsraeli Ministry of Foreign Affairs. 2002-04-06.
  17. "Palestinians who were the object of a targeted killing in the West Bank". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2010-02-23. Cyrchwyd2009-12-04.
  18. Government of Palestine, Department of Statistics.
  19. Tubas City Fact Sheet Applied Research Institute - Jerusalem.
  20. al-Mashni, Osama.
  21. Satellite view of Tubas

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Tubas&oldid=11083628"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp