Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Tsietsnia

Oddi ar Wicipedia
Tsietsnia
Mathgweriniaethau Rwsia Edit this on Wikidata
PrifddinasGrozny Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,492,992 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 9 Ionawr 1993 Edit this on Wikidata
AnthemCân Shatlak
Pennaeth llywodraethRamzan Kadyrov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Moscfa, Ewrop/Moscfa Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg,Tsietsnieg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws Edit this on Wikidata
SirRwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd16,165 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDagestan,Crai Stavropol,Gogledd Osetia, Gweriniaeth Ingushetia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.4°N 45.7167°E Edit this on Wikidata
RU-CE Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholParliament of the Chechen Republic Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Pen Y Weriniaeth Tsietsniaidd
Pennaeth y LlywodraethRamzan Kadyrov Edit this on Wikidata
Map

Un oWeriniaethau HunanlywodraetholRwsia ywTsietsnia, yn llawnY Weriniaeth Tsietsniaidd, hefydChechnya (Rwseg: Чеченская республика,Tsietsnieg: Нохчийн Республика/Noxçiyn Respublika). Saif yn ardalGogledd y Cawcasws ac mae'n rhan o'rRhanbarth Ffederal Deheuol. Mae'r mudiad sy'n ymgyrchu am hunanlywodraeth yn defnyddio'r enwGweriniaeth Tsietsniaidd Itskeria. Enwir y weriniaeth ar ôl grŵp ethnig y Tsietsien. Yn y de, mae'n ffinio arGeorgia. Roedd y boblogaeth yn2004 yn 1,103,686, a'r brifddinas ywGrozny.

Wedi i'rUndeb Sofietaidd ddod i ben yn 1991, cyhoeddodd Gweriniaeth Tsietsniaidd Itskeria ei hun yn annibynnol. Yn dilynRhyfel Cyntaf Tsietsnia, llwyddodd y weriniaeth hon i ennill annibyniaethde facto, ond yn yrAil Ryfel Tsietsniaidd adfeddiannwyd y diriogaeth gan Rwsia, gyda difrod mawr.

Daearyddiaeth

[golygu |golygu cod]

Mae Tsietsnia yn weriniaeth sy'n cwmpasu 17,300 km2 (6680 mi sg) ac mae wedi'i lleoli yn rhan ganolog y Cawcasws. Mae tua 35% o'r diriogaeth yn cynnwys mynyddoedd uchel.

Gwledydd a rhanbarthau cyfagos

[golygu |golygu cod]

Dinasoedd a threfi gydag mwy na 20,000 o bobl yn byw ynddynt

[golygu |golygu cod]

Hanes

[golygu |golygu cod]

Yr 15eg ganrif a'r atodiad i Ymerodraeth Rwsia

[golygu |golygu cod]

Roedd Tsietsnia yn ran o'rYmerodraeth Otomanaidd ers y 15fed ganrif, yn 1577 aeth yrCosaciaid rhyddhaol o'rVolga yno ac ymgartrefu ar lannau'rAfon Terek, gan ffurfio cymuned o'r enw'rTalaith Cosac Terek. Yn 1783 llofnododd teyrnasoeddRwsia aGeorgia ygytundeb Georgievsk lle cyflwynodd yKartli-Kakheti i gael y talaith i ddod yn rhan o'r awdurdod ymerodrol Rwsieg fel amddiffynfa. Er mwyn sicrhau cyfathrebu uniongyrchol rhwngGeorgia a rhanbarthau eraillTranscawcasia, ceisiodd yrYmerodraeth Rwsia ehangu ei rheolaeth dros Tsietsnia, gan achosiRhyfel y Cawcasws ym 1817, yn enwedig yn yr ucheldiroedd derbyniodd yrbyddin ymerodrol Rwsieg lawer o wrthwynebiad gan y Tsietsniaid. Anfonwyd byddin o 250,000 o filwyr yn ei herbyn o dan orchymyn y CadfridogAleksandr Baryatinskij a lwyddodd i chwalu'r gwrthryfel dim ond ym 1859, 42 mlynedd ar ôl cychwyniad y rhyfel. Atodwyd Tsietsnia i'rYmerodraeth Rwsia ym 1783, er y bod digwyddodd lawer o gwrthryfeloedd cyfnodol yn yr ardal. Ymgorfforwyd Tsietsnia ac Ingushetia i'r Weriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Ymreolaethol Tsietieneg-Ingwsh ar adeg genedigaeth yr Undeb Sofietaidd ym 1917.

Yr gwrthryfel yn erbyn rheolaeth yr Undeb Sofietaidd

[golygu |golygu cod]

Yn ystod yrAil Ryfel Byd, cododd yTsietsniaid yn erbyn yRwsiaid gan obeithio manteisio ar ymrwymiad yfyddin Sofietaidd ar ffryntiau eraill i ennill annibyniaeth, ond unwaith wnaeth yFyddin Goch gwthio'r milwyr yrNatsïaid yn ôl, gorchmynnodd Stalin gosbau lem ar yTsietsniaid, gan gyhuddo nhw o gydweithio â'rNatsïaid (fodd bynnag, nid oes tystiolaeth hanesyddol ddilys i gefnogi'r cyhuddiad). Ar Chwefror 23, 1944, digwyddodd yrAlltudiad o Tsietsniaid a'r Ingwshetiaid; alltudiwyd hanner miliwn o ddinasyddion Tsietsieneg o'r Cawcasws i'rWeriniaeth Sofietaidd Kazakhstan mewn un noson.[1] Yma roedd y Tsietsniaid wedi'u wedi'u gwasgaru oddi wrth ei gylidd mewn ymgais i diradicaleiddio'r gwrthryfelwyr. Yn 1956 gorfodwyd y Tsietsniaid i addasu i'r polisiau newydd ynglŷn â'r defnydd a'r iaithRwsieg yn yrCawcasws.[2] Dim ond ym 1957 y caniatawyd iddynt ddychwelyd i'w rhanbarth.

Annibyniaeth Tsietsnia ar ôl gorffeniad yr Undeb Sofietaidd a'r Rhyfel Cyntaf Tsietsnia (1990au)

[golygu |golygu cod]

Ar ôlcwymp yr Undeb Sofietaidd yn Tsietsnia, ganed mudiad annibyniaeth a ddaeth i wrthdaro âRwsia a oedd yn anfodlon i gydnabod gwahaniad Tsietsnia a'r wlad. CyhoeddoddDzokhar Dudaev, arllywydd gwladgarwrol Y Weriniaeth Tsietsniaidd, annibyniaeth y genedl o Rwsia ym 1991, ni cytunwyd Arlywydd Rwsia,Boris Yeltsin, i hyn ac yna fel canlyniad dechreuodd yRhyfel cyntaf Tsietsnia. Ym 1994, anfonoddBoris Yeltsin 30,000 o filwyr i'r weriniaeth i atal ei gwahaniad o'rFfederasiwn, er gwaethaf i fyddinoedd Rwsia, a oedd ag offer gwael a digymhelliant, ddioddef hyd yn oed orchfygiadau sylweddol gan y gwrthryfelwyr[3], wnaethant lwyddo i reoli prifddinas y wlad,Grozny, ym mis Chwefror 1995. Llwyddodd i'r byddin Rwsieg hefyd i ladd yr Arlywydd Tsietsniadd,Dzokhar Dudaev, ar 21 Ebrill 1996, gyda thaflegryn.

Gwahanydd Tsietsnieg ger Plas yr Arlywydd yn Grozny, Ionawr 1995,

Ar 6 Mawrth 1996, ymdreiddiodd rhwng 1,500 a 2,000 o wrthryfelwyr Tsietsniaidd y prifddinas ac am dri diwrnod lansiwyd ymosodiadau annisgwyl mewn sawl ardal yno, gan lwyddo hyd yn oed i gipio arfau a bwledi. Dwy mis wedyn, ar 28 Mai 1996, datganodd Arlywydd Rwsia fuddugoliaeth ynGrozny, ar ôl "cadoediad" dros dro gydag yr Arlywydd Tsietsniaidd, dros droZelikhan Yandarbiyev,[4] ond parhaodd y lluoedd arfog â'r rhyfel. Ar 6 Awst 1996, dridiau cyn iYeltsin gael ei benodi’n arlywyddRwsia am yr ail dymor a phan symudwyd y rhan fwyaf o filwyr Rwsia i’r de i aros am y ymosodiad olaf yn y cadarnleoedd gwrthryfelol yn y mynyddoedd. Er hynny, lansiodd gwrthryfelwyr Tsietsniaidd ymosodiad syndod am y brifddinas. YmosododdShamil Basayev, wrth reoli tua 5000 o ddynion, ar Grozny ar 6 Awst 1996, gan lwyddo i feddiannu holl bwyntiau allweddol y ddinas. Roedd y llwyddiant yr ymosodiad gan yr gwrthryfelwyr a’r nifer uchel o garcharorion o Rwsia a cafodd eu dal wedi gorfodiAleksandr Lebed i drafod alofnodi cytundeb Chasavjurt, a gymeradwyodd fuddugoliaeth ddiffiniol Tsietsieneg. Yn diwedd mis Awst 1996, cytunoddYeltsin gydag arweinwyr Tsietieneg am gadoediad ynDagestan; arweiniodd at yr arwyddiad o'r cytundeb heddwch ym 1997. Ar ddiweddRhyfel Cyntaf Tsietsnia (1994-96) roeddAslan Maskhadov, pennaeth lluoedd y gwrthryfelwyr wedi arwyddo gadoediad gyda lluoedd arfog Rwsia ac yna fe etholwyd ef yn Arlywydd cyntaf Tsietsnia. EtholwydAslan Maskhadov i dymor o bedair blynedd mewn etholiad a gynhaliwyd o dan fonitro rhyngwladol ym mis Ionawr 1997. Fel canlyniad o'r rhyfel, gadawodd lawer o'r poblogaeth Rwsieg y wlad.[5]

Ail Rhyfel Tsietsnia

[golygu |golygu cod]

Ar ôl Rhyfel Cyntaf Tsietsnia, dinistriwyd y wlad yn economaidd ac yn seicolegol. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'r seilwaith, ynghyd â dinasoedd a gweithgareddau diwydiannol. Roedd gweithgareddau troseddol a’r blocâd economaidd parhaus ar ôl y rhyfel wedi cyrydu’r gwead economaidd-gymdeithasol a gadael y cae ar agor am dreiddiad mwy eithafol oWahhabiaeth, yn enwedig yn rhannau gwannach a tlotach y boblogaeth fel y di-waith a’r ifanc. Ym mis Awst 1999, goresgynnoddShamil Basayev (Cadfridog byddin jihadaidd Tsietsnia) a byddinau jihadaidd a nad oedd yn rhan o fyddin swyddogol Tsietsnia, arDdagestan.

Cofeb dioddefwyrArgyfwng Gwystlon Beslan, ymosodiad terfysgol a gynlluniwyd ganShamil Basaev yn 2004.[6]

Ar yr un pryd â goresgyniad tiriogaeth Dagestan, cynhaliwyd cyfres o ymosodiadau bom mewn rhai tai ymMoscfa aFolgodonsc ac mewn nhref ynNagestan,Bujnaksk. Ar 4 Medi 1999, roedd un o’r ymosodiadau hyn ar adeilad a oedd yn gartref i deuluoedd plismynRwsieg. Roedd yr ymosodiadau, a barhaodd am y pythefnos nesaf, wedi lladd cyfanswm o 362 o fob[7] l a anafu mwy na 1000.[8] Cyhuddodd awdurdodau Rwsieg, llywodraethBoris Yeltsin ar y pryd, ymwahanwyr Tsietsniaidd am yr ymosodiadau.[9]

Fodd bynnag, honnodd rhai gwleidyddion proffil uchel yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwysSeneddwrJohn McCain, fod yr ymosodiadau wedi’u paratoi gan wasanaethau cudd Rwsieg (yrFSB yn benodol) gyda’r nod o ryddhau ymgyrch yn erbyn yr ymwahanwyr Tsietsniaid i gyfiawnhau y goresgyniad yn Tsietsnia ym 1994.[10] Cadarnhawyd yr honiadau hyn yn ddiweddarach gan gyn asiant cudd Rwseg,Aleksandr Litvinenko, yn y llyfrBlowing Up Russia: Terror From Within.[11] Ar 30 Medi 1999, dechreuodd lluoedd Rwsieg oresgyniad Chechnya, gan bron fwrw'r brifddinasGrozny i'r llawr.[12] Yn 2001, cyhoeddodd Maskhadov archddyfarniad yn ymestyn ei swyddfa fel arlywydd am flwyddyn arall. Fodd bynnag, ni lwyddodd i gymryd rhan yn etholiadau arlywyddol 2003, o gofio bod y pleidiau ymwahanol wedi eu gwahardd o'r weriniaeth o dan y reolaeth y Rwsiaid. Hefyd roedd e wedi'i gyhuddo o fod yn rhan o luoedd ymwahanol. Gorfodwyd Maskhadov i encilio i'r mynyddoedd fel canlyniad i hyn.

Bu laddwydAslan Maskhadov gan wasanaethau Rwsieg ar 9 Mawrth 2005, yna daeth arweinydd newydd i'r gwahanyddion,Abdul Halim Sadulayev. Yn 2005 roedd ef wedi i ddiswyddo hen weinidogion diweddarMaskhadov, gan ddisodli nhw gyda ffigurau mwy eithafol felShamil Basayev. Ar 17 Mehefin 2006, lladdodd milwyr arbennig Rwsieg Sadulayev ac ar 9 Gorffennaf 2006, fe laddwydShamil Basayev; oherwydd ei troseddau terfysgol.[13] Ar 16 Ebrill 2009, cyhoeddwyd bod y gweithrediadau yn erbyn terfysgaeth yn Tsietsnia gan y lywodraeth Rwsieg wedi cael ei chau yn swyddogol a'u trosglwyddo i lywodraeth Tsietsnia yn llawn.[14]

Akhmad Kadyrov gydaVladimir Putin.

Y Weriniaeth Tsietsniaidd ar ôl y rhyfel

[golygu |golygu cod]

Mewn etholiad dan oruchwyliaeth ryngwladol ar 5 Hydref 2003, etholwyd y cyn arweinydd crefyddol ymwahanol (mwffti)Akhmad Kadyrov, yn arlywydd gydag 83 y cant o'r bleidlais.

CafoddAkhmad Kadyrov ei lofruddio yn stadiwm pêl-droed Grozny ar Fai 9, 2004 gan fom a blannwyd o dan lwyfan a daliodd lawer o unigolion pwysig arno. Cafodd ei danio yn ystod gorymdaith, ac ar ôl y digwyddiad, enwydSergey Abramov yn brif weinidog y weriniaeth dros dro. Fodd bynnag, maeRamzan Kadyrov (mab Akhmad Kadyrov) wedi bod yn Brif Weinidog er 2005, ac fe’i henwyd yn Arlywydd yn 2007.

Poblogaeth

[golygu |golygu cod]
Menywon Tsietsnieg yn gweddio

Mae'r mwyafrif o Tsietsniaid yn credu ynIslamSwffi; fel canlyniad o fod yn rhan o'rYmerodraeth Ottomanaidd.[15]

Yr ieithoedd a ddefnyddir yn y weriniaeth ywTsietsnieg acRwsieg. Mae'riaith Tsietsnieg yn perthyn i deulu iaith Vaynakh, neu'r teulu o ieithoedd Gogledd-canolog y Cawcasws.

Mae gan Tsietsnia un o'r poblogaethau ieuengaf ynRwsia.[16]

Yn ôl Cyfrifiad 2010, poblogaeth y weriniaeth yw 1,268,989;[17] i fyny o 1,103,686 a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2002.

Grwpiau ethnig

[golygu |golygu cod]

Grwpiau ethnig yn nhiriogaeth fodern y Weriniaeth Tsietsniaidd.[18]

Grwp

Ethnig

Cyfrifiad 1926Cyfrifiad 1939Cyfrifiad 1959Cyfrifiad 1970Cyfrifiad 1979Cyfrifiad 1989Cyfrifiad 2002Cyfrifiad 2010Cyfrifiad 2020
Nifer%Nifer%Nifer%Nifer%Nifer%Nifer%Nifer%Nifer%Nifer%
Tsietsniaid293,29867.3%360,88958.0%238,33139.7%499,96254.7%602,22360.1%715,30666.0%1,031,64793.5%1,206,55195.3%1,306,55197.4%
Rwsiaid103,27123.5%213,35434.3%296,79449.4%327,70135.8%307,07930.6%269,13024.8%40,6453.7%24,3821.9%16,3820.9%
Cwmiciaid2,2170.5%3,5750,6%6,8650.8%7,8080.8%9,5910.9%8,8830.8%12,2211.0%9,4110.7%
Afariaid8300.2%2,9060.5%4,1960.5%4,7930.5%6,0350.6%4,1330.4%4,8640.4%5,2640.4%
Nogiaid1620.0%1,3020.2%5,5030.6%6,0790.6%6,8850.6%3,5720.3%3,4440.3%3,1020.2%
Ingwshetiaid7980.2%4,3380.7%3,6390.6%14,5431.6%20,8552.1%25,1362.3%2,9140.3%1,2960.1%1,1210.1%
Wcreiniaid11,4742.6%8,6141.4%11,9472.0%11,6081.3%11,3341.1%11,8841.1%8290.1%13,7161.1%8,6390.4%
Armeniaid5,9781.4%8,3961.3%12,1362.0%13,9481.5%14,4381.4%14,6661.4%4240.0%
Eraill18,8404.13%18,6463.0%37,5506.3%30,0573.3%27,6212.8%25,8002.4%10,6391.0%

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "After 73 years, the memory of Stalin's deportation of Chechens and Ingush still haunts the survivors".OC Media (yn Saesneg). Cyrchwyd2020-12-23.
  2. "The Ingush People".linguistics.berkeley.edu. Cyrchwyd2020-12-23.
  3. Carlotta Gall (1998).Chechnya. Internet Archive. New York University Press.ISBN 978-0-8147-2963-2.
  4. "- The Washington Post".Washington Post (yn Saesneg).ISSN 0190-8286. Cyrchwyd2020-12-23.
  5. "РОССИЯ-ЧЕЧНЯ: цепь ошибок и преступлений".web.archive.org. 2017-02-09. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-09. Cyrchwyd2020-12-23.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  6. "CNN.com - Chechen 'claims Beslan attack' - Sep 17, 2004".edition.cnn.com. Cyrchwyd2020-12-23.
  7. "6 Convicted in Russia Bombing That Killed 68 - The New York Times".web.archive.org. 2017-03-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-21. Cyrchwyd2020-12-23.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  8. "CNN.com - Russia apartment bombs: Two jailed - Jan. 12, 2004".edition.cnn.com. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2021-02-24. Cyrchwyd2020-12-23.
  9. "Chechen Terrorism (Russia, Chechnya, Separatist)".Council on Foreign Relations (yn Saesneg). Cyrchwyd2020-12-23.
  10. "MCCAIN DECRIES "NEW AUTHORITARIANISM IN RUSSIA" - Press Releases - United States Senator John McCain".web.archive.org. 2017-06-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-18. Cyrchwyd2020-12-23.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  11. "Britain's Observer newspaper suggests Russian secret service involvement in Moscow bombings".World Socialist Web Site (yn Saesneg). Cyrchwyd2020-12-23.
  12. "Russia set to destroy Grozny".the Guardian (yn Saesneg). 1999-11-13. Cyrchwyd2020-12-23.
  13. "Reign of Terror: An Interview with Shamil Basayev | UC Berkeley Library".www.lib.berkeley.edu. Cyrchwyd2020-12-23.
  14. "Russia 'ends Chechnya operation'" (yn Saesneg). 2009-04-16. Cyrchwyd2020-12-23.
  15. "Chechens in the Middle East: Between Original and Host Cultures".Belfer Center for Science and International Affairs (yn Saesneg). Cyrchwyd2020-12-23.
  16. "Chechnya - New World Encyclopedia".www.newworldencyclopedia.org. Cyrchwyd2020-12-23.
  17. "ВПН-2010".rosstat.gov.ru. Cyrchwyd2020-12-23.
  18. "НАСЕЛЕНИЕ ЧЕЧНИ". Ethno-kavkaz.narod.ru. Cyrchwyd2013-04-19.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Tsietsnia&oldid=13293067"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp