Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Troedfawr

Oddi ar Wicipedia
Delwedd honedig o'r Troedfawr o'r ffilm Patterson-Gimlin

Creadurmytholegol, sy'n debyg iepa, ywTroedfawr (Saesneg:Bigfoot neu 'Sasquatch'). Dywedir ei fod yn byw mewn coedwigoedd gan amlaf, yn bennaf yngNgogledd America. Fel arfer caiff Troedfawr ei ddisgrifio fel creadur mawr, dwy-droediog a blewog. Ceir creaduriaid tebyg iddo mewn chwedloniaeth nifer o wledydd ledled y byd a'r enghraifft fwyaf enwog yw'rIeti yn yrHimalayas.

Ystyria'r gymuned wyddonol fod Troedfawr yn gyfuniad o chwedloniaeth, cellwair a cham-weld. Er fod gan bodolaeth Troedfawr yn amheus, mae'n un o'r esiamplau gorau o gryptoswyddiaeth ac mae wedi datblygu i fod yn symbol poblogaidd.

Disgrifiad Ohono a'i Ymddygiad

[golygu |golygu cod]

DisgrifirTroedfawr fel creadur mawr, tebyg i epa sydd a thaldra'n amrywio o 6 i 10 toredfedd(1.8-3.0 medr) ac yn pwyso dros 500 pwys (230 kg) ac wedi'i orchuddio gan flew brown neu goch tywyll. Dywed tystionau fod ganddo lygaid mawr, talcen amlwg a thalcen isel; disgrifir top ei ben fel un crwn yn debyg i ben gorila gwrywaidd. Dywedir hefyd fod ganddo arogl cryf, annymunol gan y bobl sydd wedi dod ar ei draws. Mae'r olion traed sydd wedi rhoi ei enw iddo wedi cael eu mesur yn 24 modfedd (61 cm) o hyd ac 8 modfedd o led (20 cm). Tra bod gan y mwafrif o greaduriaid tebyg bum bys ar eu traed, honnir bod y castiau a wnaed o draed Troedfawr yn dangos unrhyw beth o ddau i chwech bys. Dywed rhai hefyd bod ganddo grafangau, sy'n awgrymu ei fod yn dod o deulu anifeiliaid fel eirth, sydd yn meddu ar bedwar bawd a chrafangau. Dywedid hefyd fod Troedfawr yn bwyta cig a llysiau ac yn dod allan yn bennaf yn y nos.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Troedfawr&oldid=7513213"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp