Tripoli (Arabeg: طرابلس Ṭrāblos neu Ṭrēblos, yn lleol Ṭrōbles,Groeg: Τρίπολις, Tripolis) yw ail ddinasLibanus o ran poblogaeth, gyda tua 500,000 o breswylwyr. 80% o'r boblogaeth ynsunnimwslemaidd. Saif tua 85 km i'r gogledd oBeirut.
Mar Tripoli yn hen ddinasFfenicaidd, gyda thystiolaeth am bobl yn byw ar y safle yn1400 CC. Arferai fod yn ganolwynt cynghrair oedd yn cynnwysTyrus,Sidon acArados, ac felly y cafodd ei henw, sy'n golygu "y ddinas driphlyg". Gerllaw mae dinasEl Mina, sy'n cael ei chysylltu a Tripoli fel Tripoli Fwyaf.
Cipiwyd y ddinas gan yCroesgadwyr yn1109, pan losgwyd llyfrgell enwog Tripoli, yDar al-Ilm. Cipiwyd hi yn ôl gan fyddinoeddIslam yn1289, a dinistrwyd hen ran y ddinas.
Dechreuoddgwrthdaro Gogledd Libanus 2007 o ganlyniad i ymladd rhwngFatah al-Islam, mudiad milwriaethus Islamiaidd, a Lluoedd Arfog Libanus ar 20 Mai, 2007 ynNahr al-Bared, gwersyll ffoaduriaidPalesteinaidd ger Tripoli.