Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Triaglog gyffredin

Oddi ar Wicipedia
Triaglog gyffredin
(Valeriana officinalis)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Plantae
Ddim wedi'i restru:Angiosbermau
Ddim wedi'i restru:Ewdicotau
Ddim wedi'i restru:Asteridau
Urdd:Dipsacales
Teulu:Caprifoliaceae
(neu Valerianaceae)
Genws:Valeriana
Rhywogaeth:V. officinalis
Enw deuenwol
Valeriana officinalis
L.

Perlysieuynblodeuol ydy'rTriaglog gyffredin (Lladin:Valeriana officinalis; Saesneg:Valerian) gyda blodau gwyn neu binc persawrus. Gelwir triaglog yn "llysiau Cadwgan", "felarian", a'r "feddyges fach" hefyd yn y Gymraeg[1]. Yng Nghymru mae'n blodeuo rhwng Mehefin a Medi a thyf drwy Ewrop, rhannau o Asia ac fe'i tyfwyd yn ddiweddar yn America lle mae'n cael ei fasnachu cryn lawer. Yn yr 16eg roedd y triaglog yn cael ei dyfu i wneudpersawr. Yn yr un teulu mae'r Triaglog coch.[2]

Caiff ei beillio gan yglöyn byw yn yr haf.[3]

Rhinweddau meddygol

[golygu |golygu cod]

Mae'r hadau, y dail a'r gwreiddiau'n cael eu defnyddio ar gyfer eu rhinweddau iachusol.

Caiff y planhigyn ei ddefnyddio i leddfustraen,lladd poen achur pen.[4] Fe'i defnyddir hefyd ar gyferanhunedd (insomnia), i ymlacio'rcyhyrau ac i atalanhunedd[5] Mae rhai defnyddwyr yn gorfod ei gymryd am wythnosau llawer cyn iddo weithio, ond caiff effaith sydyn ac uniongyrchol ar ddefnyddwyr eraill. Y cynhwysion sy'n weithredol yw'r olew, indoidau ac alcaloidau, sydd i gyd yn cynorthwyo'r corff iymlacio.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi
  2. Llun o'r traiglog coch
  3. Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri[dolen farw]
  4. "Gwefan rhannol Gymraeg". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2009-03-05. Cyrchwyd2009-04-23.
  5. The Health Store Magazine; Rhifyn Tachwedd-Rhagfyr 2012.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Triaglog_gyffredin&oldid=10945002"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp