Treialon Nuremberg neuBrofion Nuremberg yw'r enw a ddefnyddir am nifer o achosion llys a gafodd eu dwyn gan lywodraethau yrUnol Daleithiau, yrUndeb Sofietaidd,y Deyrnas Unedig aFfrainc yn erbyn arweinwyr y llywodraeth Natsiaidd ynyr Almaen ar ddiwedd yrAil Ryfel Byd. Cynhaliwyd y profion yn ninasNuremberg yn yr Almaen rhwng1945 y1949. Y prif brawf oedd yr un a ddechreuodd ar20 Tachwedd1945, yn erbyn y prif arweinwyr. Nid oedd y diffinyddion yn cynnwys yr arweinwyr oedd wedi eu lladd eu hunain i osgoi cael ei dal, megisAdolf Hitler ei hun,Heinrich Himmler,Joseph Goebbels ac eraill, ond rhoddwydMartin Bormann ar ei brawf yn ei absenoldeb, gan nad oedd sicrwydd a oedd wedi ei ladd neu wedi dianc. Rhoddwyd 24 o bobl ar eu prawf yn yr achos hwn.