Tref hanesyddol achymuned ynSir Fynwy,Cymru, ywTrefynwy[1][2] (Saesneg:Monmouth). Dyma brif dref y sir. Saif ar lannauAfon Mynwy, tua 2filltir (3.2km) o'r ffin âLloegr. Saif y dref 36 milltir (58 km) i'r gogledd-ddwyrain oGaerdydd a 127 m (204 km) i'r gorllewin oLundain. Mae'n fwy na thebyg mai "Aber Mynwy" oedd yr enw gwreiddiol a cheir cofnod ohono'n dyddio nôl i 1136 (Aper Myngui ac Aper Mynuy). Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 8,547. YmroellaLlwybr Treftadaeth Trefynwy drwy'r dref.
Nodweddir Oes Newydd y Cerrig, neu'r cyfnod Neolithig yng Nghymru gan ddechrau ffermio. Credir fod hyn yn dyddio o tua 4000 CC. Yn 2012, tra'n tyllu mewn ystâd o dai o'r enw 'Parc Glyn Dŵr' yng nghanol Trefynwy, darganfu Martin Tuck o Gymdeithas Archaeoleg Trefynwy olion crannog - tŷ enfawr, hir; mae'r ystâd o dai hwn ar dir fferm 'Crofft-y-Bwla'. Yn 2015 datgelwyd fod yr olion yn mynd yn ôl i'rOes Efydd ac y bu yno waith adeiladu cychod mewn llyn enfawr, sydd wedi diflannu ers ychydig cyn dyfodiady Rhufeiniaid. Darganfuwyd ffosydd twfn, metr o led, yn sianeli hirion dros bridd a losgwyd ac a ddyddiwyd iOes Newydd y Cerrig gan system dyddio radiocarbon: 5,000 o flynyddoedd yn ôl (2,917 CC). Mae hyn yn golygu fod y crannog hwn yn Nhrefynwy yn 2,000 o flynyddoedd yn hŷn nag unrhyw anhediad-llyn drwy Gymru a Lloegr.[6]
GorweddaiTeyrnas Erging, yn bennaf, yn yr hyn sydd erbyn heddiw yng ngorllewinSwydd Henffordd ynLloegr. Canol y deyrnas oedd yr ardal rhwng afonyddMynwy aGwy (Swydd Henffordd), ond ymestynnai hefyd i'rSir Fynwy fodern ac i'r dwyrain o afon Gwy lle ceir safle trefRufeinigAriconium (ynWeston under Penyard heddiw); credir fod yr enw 'Erging' yn deillio o enw'r dref honno a oedd, mae'n bosibl, yn brifddinas y deyrnas fechan.
Yn 1067 codwyd castell Normanaidd. Yn y Canol Oesoedd, ffurfiai'r afon un o ffiniauRhwng Gwy a Hafren. Yn y cyfnod yma gallai llongau gyrraedd cyn belled a Threfynwy. MaePont Mynwy yn bont sydd wedi'i chryfhau'n filwrol yn unigryw yngngwledydd Prydain. Yn ddiweddarach daeth y dref o fewn goruchwyliaeth yLancastriaid a hi ydy tref genedigolHarri V, brenin Lloegr (20 Mawrth 1413).
Mae Trefynwy'n ganolfan dwristaidd eitha poblogaidd gan ei bod wed'i lleoli ynNyffryn Afon Gwy a ddynodwyd ynSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hefyd ynardal Gadwraeth Arbennig, yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth eithriadol o blanhigion dŵr a geir yn ei dalgylch.[7] Ceir hefyd amrywiaeth o bysgod, sy'n cynnwys poblogaeth sylweddol oeogiaid, ac ymhlith y rhywogaethau llai cyffredin, poblogaeth o'rGwangen (Alosa fallax). Yn nhalgylch afon Gwy y ceir y boblogaeth fwyaf o'rDyfrgi yng Nghymru. Nid oes llawer o broblemaullygredd ar hyd yr afon.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.