Trawsiorddonen, Emirad Trawsiorddonen (Saesneg:Emirate of Transjordan neu'n fyrach,Transjordan) neu, weithiau, Glan Ddwyreiniol yr (Iorddonen);Arabeg: إمارة شرق الأردن ʾImārat Sharq al-ʾUrdun, oedd rhan ddwyreiniol ardalPalesteina Mandad Prydain, a grëwyd ganGynghrair y Cenhedloedd ar ôl yRhyfel Byd Cyntaf. CynigioddWinston Churchill yng Nghynhadledd Cairo yn 1921 i rannu'r Mandad yn ddwy ran ar hydafon Iorddonen aGwlff Aqaba. Ym mis Gorffennaf 1922, pan benderfynwyd ar y testun mandad, roedd y maes mandad hwn yn cynnwys dwyrain a gorllewin yr Iorddonen. Wedi annibyniaeth yn 1946, galwyd y diriogaeth ynGwlad Iorddonen.
Ar 25 Mai 1923, rhannwyd Tiriogaeth Mandad Palesteina yn ddau rannu'n weinyddol. Roedd yr enw Palesteina o'r foment honno a ddefnyddiwyd ar gyfer yr ardal i'r gorllewin o Iorddonen. Enwyd rhan ddwyreiniol yr Iorddonen yn Trawsiordonen. Roedd y ddwy ardal yn dal o dan fandad Prydeinig. Penodwyd Abdullah o Iorddonen yn Emir (tywysog) Trawsiorddonen dan gytundeb dros dro. Roedd y cytundeb hefyd yn golygu y gallai Abdullah hefyd ddod yn Emir arSyria pe gallai'r Deyrnas Unedig berswadio Ffrainc i ildio Syria. Roedd y Deyrnas Unedig wedi methu ag anrhydeddu'r ymrwymiadau a wnaed yn flaenorol ar gyfer annibyniaeth i'r Arabiaid.
Amman, y brifddinas, yn 1940Cynhaliwyd Etoliad Gyffredinol gyntaf Trawsiorddonen ar 2 Ebrill 1920Cynnig Llywodraeth Prydain i gynnwys Trawsiorddonen gyda Phalesteina Mandad o dan yr hyn a alwyd yn "Erthygl 25"
Yn ôl y gytundeb ag Abdullah, cytunwyd na fyddaiIddewon yn cael ymsefydlu yn nhiriogaeth newydd a ddaeth i fod yn Trawsiorddonen gan mai Palesteina oedd i fod eu "mamwlad". Gwaharddwyd hefyd i Drawsiorddonen uno gyda'r drefedigaeth Brydeinig newydd,Irac - sef y tair talaith Twrcaidd oedd yn creu Mesopotamia cyn y Ryfel Mawr.
Ar 23 Mai 1923 cydnabuwyd bod yr Emirad yn wladwriaeth ar wahân gan y Prydeinwyr ac ar y 25ain cafodd ei wahanu'n bendant oddi wrth fandad Palesteina. Ym mis Mai 1925 cynhwyswyd ardaloeddAqaba aMa'an yn yr Emirad. Ar 28 Chwefror 1928, cydnabu'r Prydeinwyr fod Trawsiorddonen yn wladwriaeth annibynnol o dan warchodaeth Prydain. Crewyd Cyfansoddiad i'r tiriogaeth yn 1928[1] gan gynnwys Senedd gyda etholaeth cyfyng.
Addaswyd yfaner genedlaethol ar 16 Ebrill 1928, i'r model presennol, lle'r oedd y seren saith pwynt yn symbol o bob un o saith talaith Syria Fawr (yr oedd yr Hashemiaid yn dal i ddeisyfu ei reoli) - Aleppo, Damascus, Libanus, tiriogaeth y Druise (Hawran/Hauran), tiriogaeth yrAlawitaid, Palesteina, a Thrawsiorddonen, ac ar gyfer pob un o saith pen cyntaf yCoran. Roedd dosbarthiad y tir yn weddol gyfartal a heb greu gwahaniaethau cymdeithasol mawr. Yn 1938, amcangyfrifwyd bod y boblogaeth yn 300,000 (ychydig yn uwch yn ôl pob tebyg) ac roedd ganal-Salt yr un boblogaeth o hyd tra bod Amman wedi codi i tua 20,000.[2]
Yn ystod yrAil Ryfel Byd, chwaraeodd milwyr Trawsiorddonen rôl fawr yn y rhanbarth gyda milwyr Prydain. Hefyd, ar ddiwedd y rhyfel, mae Abdallah yn honni i'r Saeson annibyniaeth ei wlad. Daw'r Mandad Prydeinig i ben ar 22 Mawrth 1946.[3] Ar 25 Mai, wnaeth Trawsiorddonen ddatgan ei hannibyniaeth. Ar ôl concwest Dwyrain Jerwsalem a'rLan Orllewinol ym 1948, enwid y wlad yn swyddogol daeth yn Deyrnas Iorddonen Hashemitaidd yn 1949. Er, y parhaoedd rai i'w alw'n Trawsiorddonen am beth amser wedi hynny oherwydd arfer.
Daeth Mandad Prydain i ben ar 22 Mawrth 1946 ac ar 25 Mai 1946, daeth Trawsiorddonen yn annibynnol fel TeyrnasHashimaidd, yrIorddonen bresennol. Noder i fandad Trawsiorddonen ddod i ben ddwy flwyddyn yn gynt na'r hyn a fwriadwyd ar gyfer ei chwaer diriogaeth,Palesteina.
Ar 24 Ebrill 1950, wedi'r rhyfel yn erbyn gwladwriaeth newydd-anedig,Israel yn 1947-48, meddiannodd TrawsiorddonenY Lan Orllewinol a DwyrainJerwsalem yn ffurfiol. Yn ogystal, newidiwyd yr enw o 'Trawsiorddonen' (sef, "ochr arall yr Iorddonen") i 'Wlad Iorddonen', gan fod y wlad bellach ar y naill ochr i'r Iorddonen. Dim ond y Deyrnas Unedig a Phacistan oedd yn cydnabod yr atodiad hwn, tra bod y rhan fwyaf o wledydd Arabaidd yn ei wrthod yn gryf.