Gelwir yr ochrau paralel[1] yn "sylfaen" (weithiau "seiliau") a'r ddwy linell arall yn "goesau", pan nad ydynt yn gyfochrog. Os ydynt yn gyfochrog yna gelwir hwythau'n "sylfaen". Mewn trapesiwm anghyfochrog, ni cheir dwy neu ragor o linellau o'r un hyd.
Mae'r diffiniad o'r trapesiwm wedi ei newid yn yr 50 mlynedd diwethaf; arferid ei ddiffinio fel "pedrochrheb bâr o linellau cyfochrog" - yn gwbwl groes i'r hyn ydyw heddiw.
Dawr'r termtrapesiwm o'rGroeg τραπέζιον (trapézion), sef "bwrdd bychan", bachigol y gair τράπεζα (trápeza), "bwrdd", sydd ei hun yn tarddu o iτετράς (tetrás), "pedwar" + πέζα (péza), "troed; ymyl".[2]
Ceir y defnydd cyntaf o'r gair yng ngwaith Marinus Proclus (412 - 485 ÔC), wrth iddo drafodYr Elfennau, ganEuclid.[3]
Mae'r diffiniad o'r trapesiwm wedi ei newid yn yr 50 mlynedd diwethaf; arferid ei ddiffinio fel "pedrochrheb bâr o linellau cyfochrog.
Ceir anghytuno a ddylid cyfri'rparalelogramau, sydd a dau bâr o linellau cyfochrog (paralel), hefyd yn drapesoidau. Mae rhaimathemategwyr yn diffinio'r trapesiwm fel "pedrochor gydadim ond un pâr o linellau paralel. Dyma'r diffiniad anghynhwysol, sydd yn eithrio'r paralelogramau.[4] Mae eraill[5] yn diffinio'r trapesiwm fel pedrochr gydago leiaf un pâr o linellau paralel, sef y diffiniad cynhwysol (inclusive). Mae hyn yn caniatau i'r paralelogramau gael eu hystyried yn fath arbennig o drapesoidau.[6]
Llin (neu segment) ganol y trapesiwm yw'r segment hwnnw sy'n uno pwynt canol y coesau. Mae'n baralel i'r sylfaen (neu'r 'seiliau'). Mae ei hydm yn hafal i gyfartaledd hyd sylfaenia ab y trapesiwm,[5]
Yr uchder yw pellterperpendicwlar y sylfaen/i. Os oes gan dwy sylfaen hyd gwahanol (a ≠b), gellir pennu uchderh y trapesiwm gan hyd ei bedair ochr, drwy'r fformiwla ganlynol:[5]
↑πέζα is said to be the Doric and Arcadic form of πούς "foot", but recorded only in the sense "instep [of a human foot]", whence the meaning "edge, border".τράπεζα "table" is Homeric.Henry George Liddell, Robert Scott, Henry Stuart Jones,A Greek-English Lexicon, Oxford, Clarendon Press (1940), s.v.πέζα,τράπεζα.
↑Gweler:Oxford English Dictionary, dan y gairtrapezoid.