Ganed Trajan yn y ddinasRufeinigItalica (Santiponce heddiw), heb fod ymhell o ddinasHispalis (Sevilla heddiw), rhan o dalaithBaetica. Roedd ei dad, oedd a'r un enw, yn un o ddilynwyr pwysicafVespasian. Dilynodd Trajan yr yrfa gyhoeddus draddodiadol, gan ddod yn gonswl yn91. Priododd Ulpia Plotina, ond ni fu ganddynt blant.
Yn ystod teyrnasiadNerva daeth Trajan yn rhaglaw talaithGermania Superior. Mabwysiadodd Nerva ef fel mab ac fel olynydd iddo. Roedd Trajan yn filwr galluog, ac ar ôl dod yn ymerawdwr parhaodd i ymladd arAfon Rhein acAfon Donaw. Ni ddaeth i Rufain am y tro cyntaf fel ymerawdwr hyd y flwyddyn99. Bu'n ymladd llawer yn erbyn yDaciaid, oedd yn byw yn yr ardal sy'n awr ynRwmania. Bu dau ryfel yn erbynDecebalus, brenin Dacia, a gorchfygwyd ef gan Trajan, gan greu talaith Rufeinig newyddDacia. AdeiladwydColofn Trajan yn Rhufain i goffhau ei fuddugoliaeth. Tua'r un pryd crëwyd talaithArabia Petraea.
Yr ymerodraeth Rufeinig ar ei heithaf yn117, ar ddiwedd teyrnasiad Trajan
Yn113 dechreuodd rhyfel yn erbyn yParthiaid. CipioddCtesiphon, prifddinas Parthia, yn115, ac ymgorfforwydArmenia,Asyria aMesopotamia yn yr ymerodraeth. Bu farw Trajan ar ei ffordd yn ôl o'r brwydro yma, ynSelinus, gerllaw yMôr Du, ar yr8 Awst117. Yn ystod teyrnasiad Trajan y cyrhaeddodd yr ymerodraeth Rufeinig ei maint eithaf. Dewisodd TrajanHadrian fel ei olynydd.