Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Traeth baner las

Oddi ar Wicipedia

Maetraeth baner las yn draeth morol neu ddŵr croyw adloniadol sy'n ateb gofynion llym o ran safonau'r dŵr trwy gydol y cyfnod nofio blaenorol. Rhoddir statws baner las i farinas hefyd.

Rhoddir statws baner las i draethau mewn dros 30 o wledydd ynEwrop,De Affrica,Seland Newydd,Canada a'rCaribi yn seiliedig ar safonau a meini prawf a osodir ac a reolir gan y mudiad di-elw, Sefydliad dros Ymgyrch Addysgu Amgylcheddol (Sa:Foundation for Environmental Education (FEE) Campaign).

Rhaid i draeth sy'n ateb gofynion statws draeth las sicrhau safon glendid y dŵr, diogelwch, darpariaeth gwasanaethau a rheolaeth amgylcheddol cyffredinol. Darperir cyfleoedd nofio glân a diogel mewn awyrgylch di-gŵn.

Dynoda'r hawl i hedfan Baner Las ar draeth neu ddyfroedd adloniadol fod safonau amgylcheddol uchel yno a chaiff ei ystyried yn bluen yng nghap awdurdodau lleol a darparwyr cyfleusterau adloniadol ar y dŵr.

Yn 2008, roedd ganSbaen 455 o draethau baner las, tra bod ganGwlad Groeg 430 aTwrci 258. Mae yna 41 o draethau yngNghymru sydd wedi derbyn statws baner las.[1]

Cymru

[golygu |golygu cod]
Prif:Traethau baner las Cymru

Ceir 38 o draethau glas yng Nghymru.

Traethau Baner Las Cymru ers 2012.
Yn 2013 roedd 33 traeth a 5 marina wedi'u cofrestru. Mae'r map hwn yn lleoli traethau a gofrestrwyd fel rhai "baner las" ers 2012, gan gynnwys:
1Abergele, 2Llandrillo yn Rhos, 3Llanddona, 4Porth Dafarch, 5Bae Trearddur, 6Cei Newydd, 7Traethau Dinbych y Pysgod, 8Saundersfoot, 9Port Einon, 10Bae Caswell

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg)Blue Flag Beaches of Wales 2009[dolen farw] 08-08-2009. Adalwyd 11-05-2009

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae ganGomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Traeth_baner_las&oldid=10866250"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp