dinas, provincial or territorial capital city in Canada, single-tier municipality, dinas fawr, y ddinas fwyaf, canolfan ariannol, census division of Canada
Dinas yngNghanada ywToronto, prifddinastalaithOntario. Roedd gan y ddinas boblogaeth o 2,794,356 yn 2021.[1] Toronto yw’r ddinas fwyaf yng Nghanada a’r 4edd yng Ngogledd America. Mae’n ganolfan bwysig i fusnes, arian, celf a diwylliant ac un o’r mwyaf cosmopolitaidd y byd.[2][3]
Mae pobl cynhenid wedi byw in yr ardal ers dros 10,000 o flynyddoedd.[4]
SefydlwydYork ym 1793 ar ôl pwrcas Toronto; daeth York yn brifddinas i Ganada Uwch.[5] Dioddefwyd y dref difrod mawr mewn brwydr yn y rhyfel yn erbynYr Unol Daleithiau ym 1812.[6] Newidiwyd enw York i Toronto ym 1834, a daeth Toronto yn brifddinas Ontario ym 1867.[7] Erbyn hyn, maint y ddinas yw 630.2 cilomedr sgwâr.
Iaith gyffredin y ddinas yw'r Saesneg, sy'n cael ei siarad gan y rhan fwyaf o'i bobl. Mae enw'r ddinas yn tarddu oddi wrth y gairMohawktkaronto, sy'n golygu 'man lle mae coed yn sefyll yn y dŵr'. Yn y gorffennol, roedd Toronto yn cael ei gweinyddu fel pum dinas annibynnol, a gafodd eu huno yn1996.
MaeEglwys Dewi Sant yn cynnal gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg, yn ogystal â chyrsiau ieithol.
MaeComisiwn Cludiant Toronto (Saesneg: Toronto Transit Commission) yn cynnig gwasanaethau bws, tramffyrdd a rheilffyrdd tanddaearol. Mae 11 tramffordd a 4 lein danddaearol[8].
Mae gan Toronto 2 maes awyr,Maes awyr Pearson aMaes awyr Billy Bishop. Mae gwasanaethau rhyngwladol yn cyrraedd Maes awyr Pearson. Mae Maes awyr Billy Bishop arYnys Toronto; defnyddir gan wasanaethau lleol.
Mae gwasanaethau fferri yn mynd o Toronto iYnys Ward,Ynys Canol aPwynt Hanlan[9], ac mae un arall, siwrnai 121 medr o hyd, i Faes Awyr Billy Bishop[10]..