MaeTonga (yn swyddogolTeyrnas Tonga; yn y Tongaeg:Puleʻanga Fakatuʻi ʻo Tonga) yn wlad sofran, ac yn wlad ynys ymMholynesia, sy'n rhan oOceania. Mae ganddi 171 o ynysoedd - gyda phobl yn byw ar 45 ohonynt nhw. Cyfanswm arwynebedd y wlad yw tua 750 cilometr sgwar (290 milltir sgwar) a hynny wedi ei wasgaru dros arwynebedd o tua 700,000 o gilometrau sgwar (270,000 milltir sgwar)yn Ne'rCefnfor Tawel. O 2021 ymlaen, mae gan Tonga boblogaeth o 104,494,[1] gyda 70% ohonynt yn byw ar y brif ynys, sefTongatapu. O'i hamgylch maeFfiji aWallis a Futuna (Ffrainc) i'r gogledd-orllewin,Samoa i'r gogledd-ddwyrain,Caledonia Newydd (Ffrainc) aFanwatw i'r gorllewin,Niue (y diriogaeth dramor agosaf) i'r dwyrain, a Kermadec (Seland Newydd) i'r de-orllewin. Mae Tonga tua 1,800 cilometr (1,100 mi) oYnys y Gogledd, Seland Newydd ac mae'n aelod oGymanwlad Lloegr.
Daeth gwareiddiad Lapita i fyw i Tonga am y tro cyntaf tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, sef gwladfawyr (neu 'wladychwyr') Polynesaidd a esblygodd yn raddol ei hunaniaeth ethnig ei hun, gyda iaith adiwylliant unigryw. Roeddent yn gyflym i sefydlu sylfaen bwerus ar draws De'r Môr Tawel, a gelwir y cyfnod hwn o ehangu a gwladychu Tonga yn Ymerodraeth Tui Tonga. O reolaeth y brenin Tongan cyntaf,ʻAhoʻeitu, tyfodd Tonga'n bŵer rhanbarthol. Gorchfygodd ac aeth ati i reoli rhannau o'rMôr Tawel, o rannau oYnysoedd Solomon a'r cyfan oCaledonia Newydd aFfiji yn y gorllewin i Samoa a Niue a hyd yn oed cyn belled â rhannau oPolynesiaFfrengig heddiw yn y dwyrain. Daeth Tuʻi Tonga yn enwog am ei dylanwad economaidd, ethnig, a diwylliannol dros y Môr Tawel, a barhaodd hyd yn oed ar ôl chwyldro Samoaidd y13g a darganfyddiad Ewropeaid o'r ynysoedd yn 1616.[2]
Rhwng 1900 a 1970, roedd gan Tonga statws gwladwriaeth warchodedig Brydeinig hy roedd Lloegr wedi'i meddiannu, ei gwladychu. Gofalodd y DU am faterion tramor Tonga o danGytundeb Cyfeillgarwch Tonga, ond ni ildiodd Tonga eisofraniaeth i unrhyw bŵer tramor. Yn 2010, cymerodd gam pendant i ffwrdd o'i brenhiniaeth absoliwt draddodiadol a daeth ynfrenhiniaeth gyfansoddiadol gwbl weithredol, ar ôl i ddiwygiadaudeddfwriaethol baratoi'r ffordd ar gyfer ei hetholiadau cynrychioliadol cyntaf. Fel a ddigwyddodd yn Lloegr, daeth y brenin a'r frenhines yn ddim mwy na phwped.
Mewn llawer o ieithoedd Polynesaidd, gan gynnwys Tongeg, mae'r gair yn deillio ofakatonga, sy'n golygu 'tua'r de'.[3][4][5] Enwir yr archipelago hefyd gyda'r enw hwn oherwydd dyma'r grŵp mwyaf deheuol ymhlith grwpiau ynysoedd gorllewin Polynesia.[6] Mae'r gairtonga yn gytras â'r gairHawäieg "kona", sy'n golygu "yr ochr lle chwytha'r gwynt", sef tarddiad yr enw ar gyferArdal Kona yn Hawaii.[7]
DyfodiadAbel Tasman i Tongatapu, 1643; darlun gan Isaack Gilsemans
Yn ôl mytholeg Tonganaidd, lluniodd y duw Maui grŵp o ynysoedd o'r cefnfor, gan ymddangos gyntaf ynTongatapu, Ynysoedd Ha'apai a Vava'u, gan integreiddio i'r hyn a ddaeth yn Tonga heddiw.[8]
Roedd grŵp a siaraant yr ieithoeddAwstronesaidd yn gysylltiedig â'r hyn y mae archeolegwyr yn ei alw'n ddiwylliant Lapita. Roedd y grwp (neu'r bobl) yma i'w cael o Ynys Melanesia iSamoa, gan ehangu ymhellach a phreswylio yn Tonga rhwng 1500 a 1000 BC.[9] Mae ysgolheigion yn dal i ddadlau yn union pryd y setlwyd Tonga am y tro cyntaf, ond mae dyddiothoriwm diweddar yn cadarnhau bod gwladfawyr wedi cyrraedd y dref breswyl gynharaf y gwyddys amdani, Nukuleka, erbyn 888 CC, ± 8 mlynedd.[10] Rhannwyd hanes rhag-gyswllt Tonga trwy hanes llafar, a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth.
Erbyn y12g, roedd y Tonganiaid a brenin Tongan y Tui Tonga, wedi ennill enw da ar draws canol y Môr Tawel – o Niue, Samoa, Rotuma,Wallis a Futuna,Caledonia Newydd i Tikopia, gan arwain rhai haneswyr i sôn am Ymerodraeth Tonga yn Nhwi yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'n hysbys bod rhyfeloedd cartref wedi digwydd yn Tonga yn y15g a'r17g.
Daeth pobl Tongan ar draws gwladychwyr Ewropeaidd am y tro cyntaf yn 1616, pan ymwelodd llong Iseldiraidd yr <i>Eendracht</i>, dan arweiniad Willem Schouten, â'r ynysoedd gyda'r diben o fasnachu. Yn ddiweddarach, cyrhaeddodd fforwyr eraill o'r Iseldiroedd, gan gynnwys Jacob Le Maire (a ymwelodd ag ynys ogleddol Niuatoputapu); acAbel Tasman (a ymwelodd â Tongatapu a Ha'apai) yn 1643. Ymhlith yr ymwelwyr Ewropeaidd nodedig diweddarach oeddJames Cook, o Lynges Lloegr, a hynny yn 1773, 1774, a 1777; fforwyr Llynges Sbaen Francisco Mourelle de la Rúa yn 1781; Alessandro Malaspina yn 1793; ycenhadon cyntaf o Lundain yn 1797; a gweinidoggyda'r Methodistiaid Wesleaidd, y Parchedig Walter Lawry, yn 1822.
Wedi'i leoli ynOceania, mae Tonga ynarchipelago ynNe'r Môr Tawel, yn union i'r de o Samoa a thua dwy ran o dair o'r ffordd o Hawai'i i Seland Newydd. Rhennir ei 171 o ynysoedd, yn dri phrif grŵp - Vava'u, Ha'apai, a Tongatapu - sy'n gorchuddio llinell gogledd-de 800 cilometr (500 mi) o hyd.
Mae'r ynys fwyaf,Tongatapu, lle mae prifddinasNuku'alofa wedi'i lleoli, yn gorchuddio 257 cilometr sgwar (99 milltir sgwar). Yn ddaearegol, mae ynysoedd Tongan o ddau fath: mae gan y rhan fwyaf sylfaengalchfaen a ffurfiwyd o ffurfiannau cwrel wedi codi; mae eraill yn cynnwys calchfaen a orchuddiwyd gan sylfaenfolcanig .
Mae gan Tonga hinsawdd fforest law drofannol gyda chyfnod cynnes rhwng Rhagfyr ac Ebrill, pan fydd y tymheredd yn codi uwchlaw 32 °C (89.6 °F), a chyfnod oerach (Mai-Tachwedd), gyda thymheredd nad yw'n codi'n aml uwchlaw 27 °C (80.6 °F). Mae'r tymheredd a'r glawiad yn amrywio o 23 °C (73.4 °F) a 1,700 milimetr (67 modfedd) arTongatapu yn y de i 27 °C (80.6 °F) a 2,970 milimetr (117 modf) ar yr ynysoedd mwy gogleddol yn nes at y Cyhydedd.
On the Edge of the Global: Modern Anxieties in a Pacific Island Nation (2011) by Niko Besnier. Stanford, CA: Stanford University Press,ISBN978-0-8047-7406-2
Islanders of the South: Production, Kinship and Ideology in the Polynesian Kingdom of Tonga (1993) by Paul van der Grijp. Leiden: KITLV Press.ISBN90 6718 058 0
Identity and Development: Tongan Culture, Agriculture, and the Perenniality of the Gift (2004) by Paul van der Grijp. Leiden: KITLV Press.ISBN90 6718 215 X
Manifestations of Mana: Political Power and Divine Inspiration in Polynesia (2014) by Paul van der Grijp. Vienna and Berlin: LIT Verlag.ISBN978-3-643-90496-6
Becoming Tongan: An Ethnography of Childhood by Helen Morton
A Guide to the Birds of Fiji and Western Polynesia: Including American Samoa, Niue, Samoa, Tokelau, Tonga, Tuvalu and Wallis and Futuna by Dick Watling
Guide to the Birds of the Kingdom of Tonga by Dick Watling
↑see writings of Ata of Kolovai in "O Tama a Aiga" by Morgan Tuimaleali'ifano; writings by Mahina, also coronation edition of Spasifik Magazine, "The Pacific Islands: An Encyclopedia," edited by Lal and Fortune, pp. 133–
↑"Tonga".Merriam-Webster.com Dictionary, Merriam-Webster. Cyrchwyd1 June 2022.
↑Churchward, C.M. (1985)Tongan grammar, Oxford University Press