Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Ton

Oddi ar Wicipedia
Ton
Mathosgiliad Edit this on Wikidata
Yn cynnwyston ardraws, ton arhydol Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Patrwm sy'n teithio, o ronynnau neu feysydd ffisegol sy'n dirgrynu, ywton, nid oes unrhyw mater yn cael ei symud namyn egni'r don sy'n cael ei drosglwyddo trwy'r mater, a gellir ddefnyddio tonnau i symud negeseuon o un lle i'r llall. Mae'n rhaid i lawer o donnau deithio trwygyfrwng, megis tonnau sain, ond nid fellytonnau electromagnetig - sy'n gallu teithio trwy wagfa. Gellir rhannuton yn ddau gategori sef ardraws neu arhydol.

Tonfedd ac osgliad ton

Priodweddau tonnau

[golygu |golygu cod]
  • Gall tonnau cael euhadlewyrchu. Rhai esiamplau o adlewyrchiad ton yw adlais sain, cyfarpar mesur dyfnder sonar ac unrhyw beth sydd ddim yn fynhonnell golau ac sy'n weladwy.
  • Gall tonnau cael euplygu. Wrth i donnau arafu a chroesi ffin megis gwydryn maent yn newid cyfeiriad ac felly'n plygu.

Tonnau arhydol

[golygu |golygu cod]
Tonhydredol neuarhydol

Mewntonnau arhydol mae'r gronynnau'n symud yn ôl ac ymlaen ar hyd cyfeiriad teithio'r don. Gweler cyfres ogywasgiadau athyniadau o fewn y don. Esiamplau o'r rhain ywtonnau sain athonnau seismig cynradd (tonnau P).

Tonnau ardraws

[golygu |golygu cod]
Tonardraws yn teithio

Mewntonnau ardraws, bydd y gronynnau'n symud yn ôl ac ymlaen mewn cyfeiriad sy'n normal i gyfeiriad y ton. Esiamplau o'r rhain yw tonnau dŵr athonnau seismig eilradd (tonnau S). Mae'r tonnau electromagnetig yn donnau ardraws hefyd, ond nid mater sy'n trosgwyddo'r dirgryniadau ar gyfer y rhain ond meysydd trydanol a magnetig.

Mesur tonnau

[golygu |golygu cod]

Mae nifer o unedau i'w mesur mewn ton:

  • Tonfedd (λ{\displaystyle \lambda }) = Mesurir mewn metrau fel uned SI. Hyd un don gyfan yw tonfedd, ac fe'i mesurir o frig i frig neu o gafn i gafn.
  • Amledd (f) = Mesurir mewn Hertz (Hz), sef maint y dirgryniadau mae'r don yn ei wneud pob eiliad
  • Cyflymder (v) = Mesurir mewn metrau yr eiliad, dyma pa mor gyflym mae'r don yn symud.
  • Osgled (y) = Yn gyffredinol, maint y newid i'r newidyn sy'n osgiladu, a achoswyd gan y don – er enghraifft, y pellter uchaf mae gronyn yn cael ei symud o'i fan cychwyn.

Hafaliad

[golygu |golygu cod]

Mae perthynas syml yn bodoli rhwng amledd, tonfedd a chyflymder ton:

 ν=λf{\displaystyle ~\nu =\lambda f}

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Chwiliwch amton
ynWiciadur.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Ton&oldid=11581492"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp