Mae "Tocio" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Am ddefnyddiau eraill, gwelerTocio (gwahaniaethu).
Tokyo
Math
metropolitan prefecture, capital of Japan, cyrchfan i dwristiaid, metropolis, dinas global, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, dinas fawr,taleithiau Japan, metropolis, canolfan ariannol
Prifddinas,talaith a dinas fwyafJapan ywTōkyō (ynganiad Japaneg, 東京,Tokyo neuTocio yn Gymraeg). Fe'i lleolir yn nwyrain canolbarth ynysHonshu, ar lan yCefnfor Tawel. Daw rhannau helaeth o daleithiau cyfagos Tokyo ynghyd i ffurfioArdal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 37,900,000(2016)[1][2]. Dyma, felly, dinas fwyaf poblog y byd. Er mai ffigwr llai o tua 14,264,798(2022) miliwn o bobl sy'n byw yn Tokyo ei hun fe ddaw miloedd o bobl yno i weithio neu i astudio yn ystod y dydd.[3] Mae'r dref yn ganolfan wleidyddol, economeg, diwylliannol ac academaidd i'r wlad ac mae'rTenno, Ymerawdwr Japan, yn byw yng nghanol y ddinas.
Yn wreiddiol yn bentrefpysgota, o'r enw Edo, daeth yn ganolfan wleidyddol amlwg ym 1603, pan ddaeth yn sedd y siogyniaeth[4] Tokugawa. Erbyn canol y18g, roedd Edo yn un o'r dinasoedd mwyaf poblog yn y byd gyda dros filiwn o bobl.[5] Yn dilyn diwedd y siogyniaeth ym 1868, symudwyd y brifddinas ymerodrol yn Kyoto yma, ac ailenwyd hi'n 'Tokyo' (yn llythrennol: "prifddinas ddwyreiniol").
Cafodd Tokyo ei difrodi gan Ddaeargryn Great Kantō yn 1923, ac eto gan gyrchoedd bomio’r Cynghreiriaid yn ystod yrAil Ryfel Byd. Gan ddechrau yn y1950au; ailadeiladwyd ac ehangwyd y ddinas yn gyflym, gan fynd ymlaen i arwain adferiad economaidd Japan ar ôl y rhyfel. Ers 1943, mae Llywodraeth Fetropolitan Tokyo wedi gweinyddu 23 ward arbennig ydalaith ('Dinas Tokyo' gynt), amryw drefi gwelyau yn yr ardal orllewinol, a dwy gadwyn o ynysoedd anghysbell.
Tokyo yw'r economi drefol fwyaf yn y byd yn ôlcynnyrch mewnwladol crynswth (GDP), ac mae'n cael ei chategoreiddio fel dinas Alpha + gan y Rhwydwaith Ymchwil a Dinasoedd y Byd (World Cities Research Network). Rhan o ranbarth diwydiannol sy'n cynnwys dinasoeddYokohama,Kawasaki, aChiba, Tokyo yw prif ganolfan busnes a chyllid Japan. Yn 2019, roedd yno 36 o gwmnïau Fortune Global 500.[6] Yn 2020, roedd yn bedwerydd ar y Mynegai Canolfannau Ariannol Byd-eang, y tu ôl i Ddinas Efrog Newydd, Llundain, aShanghai.[7] Yn Tokyo mae tŵr talaf yn y byd sef y 'Tokyo Skytree' a chyfleuster dargyfeirio dŵr llifogydd tanddaearol mwya'r byd: MAOUDC.[8] Llinell Metro Ginza Tokyo yw'r llinell metro danddaearol hynaf yn Nwyrain Asia (1927).[9]
Fe ddaw'r enw o gyfunoTō- (dwyrain) a-kyō (prifddinas) i greu 'Prifddinas Ddwyreiniol'. Roedd prifddinasoedd eraill yn bod cyn Tokyo, er enghraifftKyoto aNara yn ardalKansai.
Yn wreiddiol, gelwid Tokyo yn Edo (江 戸), gair cyfansawdd o kanji o 江 (e, "cildraeth, cilfach") ac 戸 (i, "mynediad, giât, drws").[10] Mae'r enw, y gellir ei gyfieithu fel "aber", yn gyfeiriad, felly, at leoliad yr anheddiad gwreiddiol yng nghymer Afon Sumida a Bae Tokyo. Yn ystod Adferiad Meiji ym 1868, newidiwyd enw'r ddinas i Tokyo.[11]
Un odaleithiau Japan yw dinas Tokyo, ond mae strwythr go arbennig ganddi hi: 23 o wardiau arbennig gyda 8,134,688 o bobl yn byw ynddyn nhw mewn 621.3 km², ardal sy'n cynnwys 'dinasoedd' llai a nifer o ynysoedd yn yCefnfor Tawel, rhai ohonyn nhw yn ddigon pellenig. Mae neuadd y ddinas wedi ei lleoli yn ardal brysurShinjuku.
Sefydlwyd Tokyo ym1457 ond yr enw gwreiddiol oeddEdo (江戸). Ym1603 daeth yn brif ddinas ysiogyniaeth Tokugawa, ond roedd y Tenno yn dal i fod ynKyoto, gwir brifddinas y wlad. Daeth y Shogunat i ben ym1868 a gorchmynnoddMeiji Tenno i newid enw y dref i Tokyo a symud y brif ddinas yno.
Yn ystod y cyfnod Edo, mwynhaodd y ddinas gyfnod hir o heddwch o'r enwPax Tokugawa, ac mewn heddwch o'r fath, mabwysiadodd Edo bolisi o ynysu ei hun o'r byd mawr, ac ni chafwyd unrhyw fygythiad milwrol difrifol i'r ddinas.[12] Fe wnaeth absenoldeb rhyfel ganiatáu i Edo neilltuo mwyafrif ei adnoddau i ailadeiladu (yn dilyn tanau cyson, daeargrynfeydd, a thrychinebau naturiol dinistriol eraill). Fodd bynnag, daeth y cyfnod hir hwn o neilltuaeth i ben gyda dyfodiad y Comodore Americanaidd Matthew C. Perry ym 1853. Gorfododd y Comodore Perry fod porthladdoedd Shimoda a Hakodate yn agor, gan arwain at gynnydd yn y galw am nwyddau tramor newydd a chanlyniad hynny oedd cynnydd difrifol mewn chwyddiant.[12][13]
Ar ôl y rhyfel tyfodd yr economi yn gyflym. Ym1964 cynhaliwyd yGemau Olympaidd yn y ddinas. Ers y1970au mae llawer o bobl wedi symud i Tokyo o gefn gwlad Japan ac yn ystodbwrlwm economaidd yr1980au roedd hi'n ddinas fywiog yn llawn siopau, tafarndai, busnesau ac fe adeiladwyd tai ledled y ddinas. Daeth y bwrlwm economaidd i ben yn y1990au, ond er hynny mae Tokyo yn ganolfan economaidd pwysig iddwyrain Asia a gweddill y byd.
Ar20 Mawrth1995 bu ymosodiad terfysgol gan ddefnyddionwy nerfauSarin mewn trên tanddaearol ganAum Shinrikyo. Cafodd 12 o bobl eu lladd a miloedd yn dioddef canlyniadau'r ymosodiad.
Canolbarth economeg Siapan yw Tokyo. Lleoliad pencadlysoedd y mwyafrif o fusnesau fel y wasg, teledu, telethrebiaeth, bancio, yswiriant, ac ati, yw Tokyo ac mae'r mwyafrif o fusnesau tramor yn y dref, hefyd.