Tlodi yw'r cyflwr pan fo unigolyn neu gymuned yn cael ei amddifadu o'r hyn a ystyrir yn hanfodol er mwyn mwynhau y safon byw isaf sy'n dderbyniol i gymdeithas a'r bodlonrwydd sy'n dod gyda hynny. Mae diffinio 'tlodi' yn anodd, ac yn amrywio o wlad i wlad, ond cytunir yn gyffredinol fod hanfodion bywyd yn cynnwys adnoddau elfennol fel cael digonedd ofwyd,dŵr sy'n ddiogel i'w yfed, a chysgod rhag yr elfennau; at hyn gellid ychwanegu adnoddau cymdeithasol fel mynediad atwybodaeth,addysg,gofal iechyd, statws cymdeithasol, llais mewngwleidyddiaeth, a'r cyfle i gyfathrebu'n ystyrlon â phobl eraill a chwarae rhan mewncymdeithas.
Gellid diffinio 'tlodi' mewn termau cymhariaethol yn ogystal, e.e. gwahaniaeth mewnincwm neugyfoeth, ac mae cyflwr tlodi yn cael ei gysylltu â phethau fel diffyg dosraniad adnoddau a grym. Yn aml mae gwahanolwladwriaethau a chyrff yn defnyddio eu mynegeion penodol eu hunain i ddiffinio'r ffin rhwng tlodi a safon byw derbyniol.
Gall tlodi cael ei weld yn nhermau tlodion fel grŵp, ac yn yr ystyr yma mae sawlcenedl yn cael ei hystyried yn "dlawd": term mwy niwtral a derbyniol heddiw yw "gwledydd sy'n datblygu". Er bod tlodi ar ei waethaf a'i amlycaf i'w gael yn y byd sy'n datblygu, neu'r "trydydd fyd", ceir rhywfaint o dlodi ymhob gwlad a rhanbarth o'r byd bron. Yn ngwledydd datblygedigy Gorllewin mae hyn yn cynnwys grwpiau difreintiedig fel pobl ddigartref agetos.
Mewn termau crefyddol mae 'tlodi' yn aml wedi bod yn llw crefyddol, yn gyflwr a dderbynnir yn wirfoddol, e.e. gan fynachod.