Tiwnis[1] (Arabeg: تونس,Tiŵ-nis) ywprifddinas a dinas fwyafTiwnisia. Fe'i lleolir ar lannauLlyn Tiwnis yng ngogledd-ddwyrain y wlad. MaeTiwnis Fwyaf yn cynnwys nifer o faerdrefi poblog ar lanGwlff Tiwnis, gan gynnwysCarthago aSidi Bou Saïd, ac ar y bryniau isel i'r dwyrain a'r de o'r ddinas ei hun. Rhennir y ddinas yn ddwy ran. Ymedina yw'r hen ddinas gaerog a nodweddir gan strydoedd cul a rhai o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth traddodiadol yn y wlad. O'i chwmpas ceir yVille Nouvelle, y rhan newydd o'r ddinas a noddweddir gan strydoedd llydan,pensaernïaethFfrengig, a siopau a chaffis canoldirol. Mae'r gyferbyniaeth rhwng y ddwy Diwnis hyn - yrArabaidd a'rEwropeaidd - yn rhan o swyn a chymeriad y ddinas. Mae tua 728,455 (2004) o bobl yn byw ynddi (amcangyfrifir poblogaeth o tua 1.5 neu hyd at 2 filiwn ar gyfer Tiwnis Fwyaf).
Mae Tiwnis wedi bodoli ers cyfnod dinas Carthago a'rFfeniciaid. Credir fod yr enw yn ffurf ar enwTanit, prif dduwies y Carthaginiaid. Ceir yr enw (Tynes) ar fapiau o'r 5g CC. Ond lle digon di-nod oedd Tiwnis mewn cymhariaeth â Carthago ei hun. Ar ôl cwymp y ddinas enwog honno i'rRhufeiniaid ceir bwlch yn hanes Tiwnis. Pan ddaeth yrArabiaid i Diwnisia a chipio Carthago o ddwylo'rYmerodraeth Fysantaidd yn695 penderfynoddHassan bin Nouman adeiladau ar safle Tiwnis yn hytrach na Carthago. Mae sefydlu'r medina yn dyddio o gyfnod Hasan. Cloddiwydcamlas i'w gysylltu â Llyn Tiwnis i'r dwyrain. Yn732 codwydmosg ysblennyddZitouna yng nghanol y medina.
Yn y 9g symudodd y rheolwrFfatimidIbrahim ibn Ahmed II ei lys oKairouan i Diwnis a ddaeth yn brifddinas y wlad am gyfnod byr. Symudwyd y brifddinas iMahdia ond adferwyd statws Tunis ar ôl i'rAlmohadiaid gwncweruGogledd Affrica yn1160. Roedd y cyfnod dan reolaeth yrHaffsidiaid (1229 -1574) yn oes aur i'r ddinas. Treblodd y boblogaeth a chodwyd nifer o fosgiau,medresau asouqs. Sefydlwyd prifysgol ym Mosg Zitouna a oedd ymhlith yr enwocaf yn y bydIslamaidd.
Dioddefodd y ddinas yn yr ymgiprys am rym rhwng rheolwyrOtomanaidd Tiwnisia aSbaen pan ddinistiwyd rhannau o'r ddinas a diorseddwyd yr Haffsidiaid. Dan reolaethSinan Pasha, a gipiodd y ddinas yn1574, dechreuodd Tiwnis flodeuo eto. Ymsefydlodd nifer o ffoaduriaid Islamaidd oAndalucía - yMorisgiaid - yno a daeth ton arall o ffoaduriaid oIddewon o ardalLivorno ynYr Eidal hefyd i osgoi erledigaeth grefyddol.
Syrthiodd Tiwnis i feddiantFfrainc yn1881. Yn ystod y saith ddegawd nesaf codwyd nifer o adeiladau ganddynt a chreuwyd yVille Nouvelle ar batrwm grid rhwng y medina a Llyn Tiwnis. Erbyn heddiw y 'ddinas newydd' yw calon y brifddinas.
Mae'r ddinas yn gorwedd ar wddw o dir dyrchafedig rhwng llyn hallt Sebkhet Nejoumi i'r gorllewin a Llyn Tiwnis i'r dwyrain. O'r sgwâr deniadol wrth y fynedfa i'r medina, a elwirPlace de la Victoire, mae stryd llydan hirAvenue Habib Bourguiba yn ymestyn am dros hanner milltir trwy ganol yVille Nouvelle. Roedd y gamlas a gloddiwyd yn nyddiau Hassan bin Nouman yn rhedeg ar hyd safle'r stryd cyn i'r Ffrancod ei llenwi.Avenue Habid Bourguiba yw canol y ddinas. Ceir nifer o fanciau, caffis stryd canoldirol a gwestai yno. O'i phen dwyreiniol mae morglawd dros Lyn Tiwnis yn cludo ffordd arheilffordd y TGM iLa Goulette a Gwlff Tiwnis.
Y brif atyniad dwristaidd yn Nhiwnis yw'rmedina gaerog sy'n labyrinth o strydoedd cul, siopau bach o bob math, ardaloedd dosbarth gweithiol, medresau, souqs, a mosgiau; mae ar restrUNESCO oSafleoedd Treftadaeth y Byd. Fe'i rhennir yn ardaloedd a enwir fel rheol ar ôlsant, souq neu fosg. Yng ngogledd y ddinas newydd ceirAmgueddfa'r Bardo, un o'r lleoedd gorau yn y byd i weld mosaigs Rhufeinig. Mae' parciau yn cynnwys yBelvedere a'i sŵ yn y gogledd.
ArAvenue Habib Bourguiba mae Eglwys Gadeiriol St Vincent a St Paul yn adeilad Ffrengignewydd-Othig trawiadol. O flaen y gadeirlan ceir cerflun o'r hanesydd canoloesol arloesolIbn Khaldoun. Ar y rhodfa hefyd ceir y Theatr Ddinesig a Place 7 Novembre a'i ffynnon. Ond ar y cyfan nid yw Tiwnis yn ddinas dwristaidd. Mae twristiaid paced yn aros yn y trefi glan môr yng nghanolbarth y wlad a'r de ac felly mae'r ddinas wedi cadw ei chymeriad brodorol a'i diwylliant unigryw sy'n ymdroi o gwmpas y caffis pafin niferus.
Yn y ddinas fwyaf, a elwir weithiauTiwnis Fwyaf, mae lleoedd o ddiddordeb yn cynnwys safleoedd archaeolegolCarthago, porthladd a thref glan môrLa Goulette,Sidi Bou Saïd a'i phensaernïaeth Andalwsaidd aLa Marsa i'r gogledd, ar Gwlff Tiwnis a'rMôr Canoldir. I'r dwyrain, i gyfeiriadgorynysCap Bon, maeHammam Lif ar lan y gwlff yn boblogaidd gan ddinesyddion Tiwnis fel lle i ymdrochi ac ymlacio.
Gwasanaethir Tiwnis gan rwydwaith o gludiant cyhoeddus sydd ymhlith y gorau ynAffrica. Maetramiau yn rhedeg i nifer o leoedd yn y ddinas ac ar ei gyrion. MaeRheilffordd y TGM yn cysylltu Tiwnis a maerdref bellLa Marsa, gan alw yn nhair gorsaf Carthago a lleoedd eraill ar ei ffordd. Ceirrheilffordd faerdrefol sy'n rhedeg o Diwnis ar hyd glan ddeheuol Gwlff Tiwnis iRades,Hammam Lif a threfi eraill. Mae nifer fawr o fysus a tacsis yn rhedeg yn y ddinas yn ogystal. O'r orsaf yng nghanol y ddinas mae trenau'n cysylltu Tiwnis âBeja aJendouba yn y gogledd-orllewin aHammamet,Sousse aSfax yn y de. Gwasanaethir Tiwnis ganMaes Awyr Tiwnis-Carthago, prif faes awyr rhyngwladol y wlad.