Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Tir Arnhem

Oddi ar Wicipedia
Tir Arnhem
Mathrhanbarth o Diriogaeth y Gogledd, cyrchfan i dwristiaid Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlArnhem Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTop End Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstralia Awstralia
Cyfesurynnau12.73°S 134.59°E Edit this on Wikidata
Map

Rhanbarth oDiriogaeth y Gogledd,Awstralia, ywTir Arnhem.[1]

Ymwelodd Ewropeaid â'r rhanbarth hwn yn gyntaf ym1623 pan hwyliodd Willem Joosten van Colster, capten gydaChwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain, ei longArnhem drwyWlff Carpentaria. Enwir yr ardal ar ôl y llong, a enwyd yn ei thro ar ôl dinasArnhem, ynyr Iseldiroedd.

Prif dref y rhanbarth ywNhulunbuy, sydd 600 cilomedr i'r dwyrain oDarwin. Mae'r rhanbarth yn gorchuddio 97,000 cilomedr sgwâr o dir. Mae gan Tir Arnhem boblogaeth o tua 16,000, ac mae 12,000 ohonynt ynGynfrodorionau Awstralaidd.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Gareth Jones (gol.),Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Tir_Arnhem&oldid=11015693"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp