| Thomas Hobbes |
|---|
 Portread o Thomas Hobbes gan John Michael Wright (1617–1694) |
| Ganwyd | 5 Ebrill 1588  Westport  |
|---|
| Bu farw | 4 Rhagfyr 1679  Swydd Derby, Hardwick Hall  |
|---|
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr  |
|---|
| Alma mater | |
|---|
| Galwedigaeth | gwyddonydd gwleidyddol,mathemategydd, athronydd,economegydd,gwleidydd,hanesydd, cyfieithydd,ysgrifennwr, tiwtor yn y cartref, athronydd y gyfraith  |
|---|
| Cyflogwr | - Sir Gervase Clifton, 1st Baronet
- William Cavendish
- William Cavendish
- William Cavendish, dug 1af Newcastle

|
|---|
| Adnabyddus am | Leviathan, De Cive, De Corpore, De Homine  |
|---|
| Prif ddylanwad | Platon,Aristoteles,Hugo Grotius,Francis Bacon  |
|---|
| Mudiad | empiriaeth, determinism, legal positivism  |
|---|
| llofnod |
|---|
 |
Athronydd gwleidyddol ac awdur oSais oeddThomas Hobbes (5 Ebrill1588 –4 Rhagfyr1679), a oedd yn byw yn ystod cyfnodRhyfeloedd Cartref Lloegr. Sefydlodd ei lyfrLeviathan (1651) seiliau y rhan fwyaf o athroniaeth wleidyddoly Gorllewin. Yn ogystal â'rLefiathan, un o'i weithiau eraill sy'n trafod yr un themau ywDe Cive ("Y Dinesydd"). Mae gwaith Hobbes yn trafod natur dyn a'r angen am lywodraeth i'w reoli.
Yn ôl Hobbes ein teimladau/nwydau ni sy'n ein rheoli, mae chwantau yn codi o'n natur ni. Casgliad pennaf Hobbes am ein natur ydy ein bod ni yn gyfartal yn gorfforol. Yr hyn a olyga yw ei bod hi'n bosib i'r gwanaf o ddyn drechu'r cryfaf drwy fod yn gyfrwys neu drwy dwyllo. Cred fod pawb ar yr run raddfa yn ycyflwr naturiol, yn gorfforol ac yn ddeallusol. Does neb yn derbyn rhagoriaeth neb arall drostynt. Felly yn y cyflwr naturiol cred pawb y gallent lwyddo cystal ar llall. Dydy hyn ddim yn broblem ond os ydyn nhw eisiau run peth, gyda'r chwant ar yr un gwrthrych, mae ymryson yn siŵr o ddigwydd. YnDe Cive mae Hobbes yn dweud na thro pobl yn syth at drais ond mae'n rhybuddio y gallasech redeg fewn i rywun or-falch felly y dylech fod yn barod am ymryson bob amser.
Oherwydd ynatur ddynol a'r tensiynau rhwng dynion noda Hobbes fod angen yLefiathan. Mae'r enwLefiathan yn dod oLyfr Job a llyfrau eraill yn yBeibl, lle sonnir amLefiathan - anifail anhygoel o fawr a greuwyd gan Dduw i greuofn ar bobl, yn enwedig y balch; cyfeirir at Lefiathan fel duw meidrol. MaeLefiathan Hobbes yn dod i fodolaeth ar sail cytundeb. Cydnabod y bydd natur dyn yn drech arnom ni i gyd, a chytuno felly i greu bwystfil mawr i ofalu amdanom ni. MaeLefiathan yn gytundeb i greu trydydd person sydd uwchlaw ni i gyd. Mae'rLefiathan uwchlaw’r gyfraith, does dim modd dwyn yLefiathan o flaen y gyfraith, does dim hawl beirniadu’rLefiathan yn gyhoeddus a does dim rhaniad grym i ddigwydd, yLefiathan yw'r sofran yn unig.