Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

The Guardian

Oddi ar Wicipedia
The Guardian
Tudalen blaenThe Guardian o fis Hydref 2009.
MathPapur dyddiol
FformatBerliner
PerchennogGuardian Media Group
GolygyddKatharine Viner
Sefydlwyd1821
Ymochredd gwleidyddolCanol-chwith
IaithSaesneg
PencadlysKings Place, 90 York Way, Llundain N1 9GU
Cylchrediad226,473[1]
Chwaer-bapurau newyddionThe Observer,
The Guardian Weekly
ISSNNodyn:Dolen chwilio ISSN
RhifOCLC60623878
Gwefan swyddogol(Saesneg)www.guardian.co.uk
Cost£1

MaeThe Guardian ynbapur newydd cenedlaetholPrydeinig sy'n rhan o'rGuardian Media Group. Fe'i cyhoeddir yn ddyddiol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn y fformatBerliner. Hyd at1959 ei enw oeddThe Manchester Guardian, yn adlewyrchu ei wreiddiau rhanbarthol; weithiau mae'r papur yn dal yn cael ei gyfeirio ato dan yr enw hwn, yn enwedig yngNgogledd America, er ei fod wedi'i sefydlu ynLlundain ers1964. (Mae gan y papur wasg argfraffu yn y ddwy ddinas).

Mae'rGuardian yn un o'r papurau newydd sy'n cydweithredu gydaWikiLeaks i gyhoeddi detholiadau o'r dogfennau cyfrinachol a gyhoeddir ar y wefan honno, yn cynnwys "Cablegate".

Atodlenni a Nodweddion

[golygu |golygu cod]

Ar bob diwrnod gwaith maeThe Guardian yn gynnwys yr atodlenG2 sy'n cynnwys erthyglau, colofnau, amserlenni teledu a radio, a'r croesair cyflym. Ers newid i'r fformat Berliner, mae yna adran chwaraeon (Sport) dyddiol ar wahân. Mae atodlenni wythnosol eraill yn cynnwys:

Dydd Llun
MediaGuardian,Office Hours
Dydd Mawrth
EducationGuardian
Dydd Mercher
SocietyGuardian (ymdrin â'rsector cyhoeddus Prydeinig a materion cysylltiedig)
Dydd Iau
TechnologyGuardian
Dydd Gwener
Film & Music
Dydd Sadwrn
The Guide (cylchgrawn amserlenni),Weekend (atodlen liw),Review (llenyddiaeth),Money,Work,Rise (ymdrin â gyrfaoedd ar gyfergraddedigion),Travel,Family

Gwobrwyon llenyddolawddogaeth lenyddol

[golygu |golygu cod]

MaeThe Guardian yn hyrwyddo dwy wobr lenyddol fawr: yGuardian First Book Award, a sefydlodd yn1999 fel olynydd i'rGuardian Fiction Award (a redodd ers1965), a'rGuardian Children's Fiction Prize, a sefydlodd yn1967. Ym mlynyddoedd diweddar mae'r papur hefyd wedi hyrwyddoGŵyl y Gelli yny Gelli Gandryll.

Golygyddion

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. http://www.pressgazette.co.uk/story.asp?storycode=48416
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=The_Guardian&oldid=11247639"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp