Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Teyrnas

Oddi ar Wicipedia

Gwlad neuwladwriaeth a reolir ganbrenin (teyrn) neu frenhines neu sydd â brenin neu frenhines yn bennaeth y wladwriaeth ywteyrnas. Nid yw teyrnas yn gyfystyr âgwlad o reidrwydd; mae'rDeyrnas Unedig yn cynnwys tair gwlad (Yr Alban,Cymru aLloegr) ac un dalaith (Gogledd Iwerddon), er enghraifft; cafodd ei chreu trwy goncwest a chyfunoteyrnas Lloegr atheyrnas yr Alban.

Cymru

[golygu |golygu cod]

YngNghymru cafwyd sawl teyrnas yn y gorffennol; erbyn yr Oesoedd Canol roedd tair teyrnas yn y wlad, a elwir ynDair Talaith Cymru, sefteyrnas Deheubarth,teyrnas Gwynedd atheyrnas Powys. Llwyddodd rhai o frenhinoedd y teyrnasoedd hyn i uno'r rhan fwyaf o'r wlad a'i rheoli - e.e.Hywel Dda,Rhodri Mawr,Gruffudd ap Llywelyn,Llywelyn Fawr aLlywelyn ap Gruffudd - ond ni pharhaodd yr undod yn ddigon hir i Gymru fel gwlad dyfu'n deyrnas sefydlog.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod amwleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Chwiliwch amteyrnas
ynWiciadur.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Teyrnas&oldid=1552173"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp