Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Teutones

Oddi ar Wicipedia
Teutones
Enghraifft o:grwp ethnig hanesyddol Edit this on Wikidata
Rhan oGermaniaid Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01hpcl edit this on wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Crwydriadau a brwydrau'r Teutones a'r Cimbri

Llwyth Almaenig yn wreiddiol oJutland (Denmarc heddiw) oedd yTeutones. Credir eu bod wedi rhoi eu henw i ardalThy yng ngogledd Denmarc. Tua diwedd yrail ganrif CC ymfudodd nifer fawr o’r Teutones gyda llwythau yCimbri a’rAmbrones tua’r de i chwilio am diriogaethau newydd i’w sefydlu. Efallai fod hyn oherwydd effeithiau llifogydd yn ei tiriogaethau eu hunain.

Yn113 CC daethant i gysylltiad a’rRhufeiniaid am y tro cyntaf, ac enillasant fuddugoliaeth dros fyddin Rufeinig dan y conswlPapirius Carbo. Enillasant hwy a'r Cimbri nifer o fuddugoliaethau eraill dros y Rhufeiniaid; yn105 CC ymMrwydr Arausio roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag mewn unrhyw frwydr ersBrwydr Cannae.

Yn y blynyddoedd nesaf bu’r llwythau Almaenig yn crwydro o gwmpasSbaen, cyn symud yn ôl tua’r Eidal. Yma, ymwahanodd y Teutones a’r Ambrones oddi wrth y Cimbri. Yn102 CC gorchfygwyd y Teutones a’r Ambrones gan fyddin Rufeinig danGaius Marius ymMrwydr Aquae Sextiae gyda lladdfa enfawr. Cymerwyd eu brenin,Teutobod, yn garcharor.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Teutones&oldid=13262186"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp