Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Terry Yorath

Oddi ar Wicipedia
Terry Yorath
GanwydTerence Charles Yorath Edit this on Wikidata
27 Mawrth 1950 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ionawr 2026 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr, rheolwr pêl-droed Edit this on Wikidata
Taldra1.88 metr Edit this on Wikidata
PlantGabby Logan Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auBradford City A.F.C., Vancouver Whitecaps,Leeds United F.C.,Tottenham Hotspur F.C.,C.P.D. Dinas Abertawe,Coventry City F.C.,Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Saflechwaraewr canol cae Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cyn chwaraewr a rheolwrpêl-droed oGymru oeddTerry Yorath (ganwydTerence Charles Yorath;27 Mawrth19507 Ionawr2026).[1] Fe'i ganwyd a'i magwyd yng Nghaerdydd.

Chwaraeodd iLeeds United,Coventry City,Tottenham Hotspur,Vancouver Whitecaps,Bradford City,Dinas Abertawe athîm cenedlaethol Cymru.

Ar ôl ymddeol o chwarae, daeth yn reolwr ar Bradford City, Dinas Abertawe,Dinas Caerdydd,Sheffield Wednesday, Cymru aLibanus.

Gyrfa clwb

[golygu |golygu cod]

Leeds United

[golygu |golygu cod]

Dechreuodd Yorath ei brentisiaeth gydaLeeds United gan arwyddo cytundeb proffesiynol gyda'r clwb yn 17 mlwydd oed[2]. Ond fe'i cafodd yn anodd sicrhau ei le yn nhîm llwyddiannus Leeds, gyda'r rheolwr, Don Revie, yn ffafrioBilly Bremner aJohnny Giles.

Rhwng 1967 a 1972 dim ond 14 gêm chwaraeodd Yorath dros Leeds ond yn ystod tymor 1972-73 llwyddodd i sicrhau ei le yn y tîm gan chwarae yn rownd derfynolCwpan FA 1973 ac yn rownd derfynolCwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop UEFA yn erbynA.C. Milan. Er colli'r ddwy rownd derfynol, llwyddodd Yorath i sicrhau medal y tymor canlynol wrth i Leeds gipio'r Bencampwriaeth ac ym 1975 daeth y Cymro cyntaf i chwarae yn rownd derfynolCwpan Ewrop[3] ond colli oedd hanes Leeds yn erbynBayern Munich.

Coventry City

[golygu |golygu cod]

Ym 1976, symudodd iCoventry City am £125,000[4] lle cafodd ei wneud yn gapten ar y clwb. Gorffennodd ySky Blues yn seithfed yn yr Adran Gyntaf ym 1977-78, dim ond unwaith erioed mae'r clwb wedi gorffen mewn safle gwell. Treuliodd Yorath dair blynedd gyda'r clwb gan chwarae 99 gêm a sgorio tair gôl cyn symud iTottenham Hotspur am £300,000 ym 1979[4].

Bradford City

[golygu |golygu cod]

Ar ôl cyfnod yn chwarae yn yrNASL gydaVancouver Whitecaps ymunodd âBradford City fel chwaraewr/hyfforddwr. Cafodd ei anafu yn ystodTrychineb Tân Bradford wrth neidio allan o ffenestr ar ôl arwain cefnogwyr allan o far yn yr eisteddle oedd ar dân[5].

Gyrfa rhyngwladol

[golygu |golygu cod]

Casglodd Yorath y cyntaf o'i 59 cap drosGymru yn erbynYr Eidal ynRhufain ym1969[6]. Cafodd y fraint o arwain ei wlad fel capten ar 42 achlysur.

Gyrfa rheoli

[golygu |golygu cod]

Cymrodd yr awenau gydaDinas Abertawe ym 1986 gan arwain y clwb i ddyrchafiad i'r Drydedd Adran ym 1987-88[7].

Ym 1989 cafodd ei benodi'n rheolwr rhan amser arGymru gan barhau yn ei rôl gydag Abertawe. Gadawodd Abertawe er mwyn ail ymuno â Bradford ond wedi llai na blwyddyn wrth y llyw ynValley Parade cafodd ei ddiswyddo a dychwelodd i Abertawe.

Ym 1991, wedi cyfnod siomedig, gadawodd Abertawe unwaith eto er mwyn canolbwyntio ar reoli Cymru. O dan reolaeth Yorath, sicrhaodd Cymru eu safle gorau erioed ar restr detholionFIFA ar27 Awst1993[8] a daeth Cymru o fewn trwch blewyn o gyrraeddCwpan y Byd Pêl-droed 1994. Yn dilyn eu methiant, ni chafodd cytundeb Yorath ei adnewyddu a chafoddJohn Toshack, oedd ar y pryd yn rheolwr arReal Sociedad, ei benodi'n rheolwr rhan amser. Ond ymddiswyddodd Toshack wedi dim ond un gêm - colled 3-1 yn erbynNorwy gyda'r cefnogwyr yn y gêm yng Nghaerdydd yn bloeddio eu haniddigrwydd tuag at y Gymdeithas Bêl-droed yn dilyn diswyddiad Yorath[9].

Bywyd personol

[golygu |golygu cod]

Roedd Yorath yn dad i bedwar o blant - Daniel, Louise, Jordan a'r cyflwynydd chwaraeonGabby Logan.[1]

Bu farw ei fab Daniel yn 1992 pan oedd yn 15 mlwydd oed. Roedd wedi bod yn chwarae pêl-droed yn yr ardd gyda'i dad pan gwympodd yn farw. Heb yn wybod iddo, roedd ganddo'r cyflwr cardiomyopathi hypertroffig sy'n effeithio'r galon. Ymgyrchodd ei deulu am sgrinio calon ar gyfer athletwyr ifanc sy'n chwarae'n rheolaidd ar lefel uchel, mewn ymgais i leihau'r risg.[10]

Bu farw Yorath yn 75 mlwydd oed yn dilyn cyfnod byr o salwch. Cafodd ei angladd ei gynnal ar 26 Ionawr 2026 yn Eglwys Babyddol The Imacculate Heart of Mary, Leeds. Roedd Côr Meibion Taf, o'i ddinas enedigol, yn rhan amlwg o'r gwasanaeth gan berfformioHen Wlad fy Nhadau,Ar Hyd y Nos,Danny Boy aYou'll Never Walk Alone.[11]

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
  • Terry Yorath,Hard Man, Hard Knocks (Caerdydd: Celluloid, 2004), hunangofiant

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1"Cyn-chwaraewr a rheolwr Cymru Terry Yorath wedi marw yn 75 oed", BBC Cymru Fyw, 8 Ionawr 2025; adalwyd 8 Ionawr 2025
  2. "Terry Yorath". League Managers' Association. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2015-06-02. Cyrchwyd2015-02-16.
  3. "Hanes Cwpan Pencampwyr Ewrop". BBC Chwaraeon. 2007-05-23.
  4. 4.04.1"Played for both: Coventry City footballers who have also turned out for Bradford City". Coventry Telegraph. 2014-08-08.
  5. "Gabby Logan's football star father 'lucky to be alive' after fleeing chip pan fire which destroyed his home". Daily Mail. 2011-09-07.
  6. "Rush job in Brescia the only Welsh win". Walesonline. 2002-10-14.
  7. "Yorath eyes promotion spot". WalesOnline. 2004-05-15.
  8. "FIFA: Wales rankings". FIFA. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2014-09-20. Cyrchwyd2015-02-16.
  9. Hughes, Dewi (12 November 2004)."Time for Toshack to deliver".BBC Sport. BBC. Cyrchwyd2004-11-12.
  10. "Y cyflwynydd Gabby Logan yn galw am brofion ar y galon".BBC Cymru Fyw. 2022-02-03. Cyrchwyd2026-01-09.
  11. "Cynnal angladd cyn-chwaraewr a rheolwr Cymru Terry Yorath yn Leeds".BBC Cymru Fyw. 2026-01-26. Cyrchwyd2026-01-26.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Terry_Yorath&oldid=14592179"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp