Terry Higgins | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mehefin 1945 ![]() Hwlffordd ![]() |
Bu farw | 4 Gorffennaf 1982 ![]() o pneumocystis pneumonia, progressive multifocal leukoencephalopathy ![]() Ysbyty Sant Tomos ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
RoeddTerrence Higgins (10 Mehefin1945 –4 Gorffennaf1982) ymhlith y bobl gyntaf y gwyddys eu bod wedi marw o salwch cysylltiedig agAIDS yn y Deyrnas Unedig.[1]
Ganwyd Terry yn hen wyrcws "Priory Mount", rhan o'r ysbyty leol yn Hwlffordd,Sir Benfro. Marjorie oedd ei fam ond ni gofnodwyd enw ei dad ar ei dystysgrif geni. Wedi gadael ysgol yn y 1960au cynnar, ymunodd a'rLlynges Frenhinol[1]. Yn unig blentyn, ni ddatgelodd ei rywioldeb erioed i'w deulu. Byddai yn ymweld a'i dref enedigol yn achlysurol nes i'w fam farw yn 1974.[2]
Ymgartrefodd yn Llundain a roedd yn gweithio fel gohebydd Hansard ynNhŷ’r Cyffredin yn ystod y dydd ac fel barman clwb nos a troellwr disgiau gyda’r nos. Teithiodd i Efrog Newydd ac Amsterdam fel DJ yn y 1970au. Cymerwyd Terry yn wael tra'n gweithio yng nglwb nos Heaven a derbyniwyd ef i Ysbyty St Thomas,Llundain lle bu farw o niwmonia a leukoenceffalopathi amlffocal blaengar ar 4 Gorffennaf 1982. Ar y pryd nid oedd y feirwsHIV wedi ei ddarganfod.
Er cof amdano, daeth Martyn Butler[3] a Rupert Whitaker (partner Higgins) a ffrind agos Terry, Tony Calvert at ei gilydd i ffurfioYmddiriedolaeth Terry Higgins (a ailenwyd yn ddiweddarach ynYmddiriedolaeth Terrence Higgins)[4]. Cychwynwyd yr ymddiriedolaeth yn 1982 gyda grŵp o ffrindiau Terry ac aelodau eraill o'r gymuned, gan gynnwys Len Robinson a Chris Peel.[5] Roedd yn ymroddedig i atal lledaeniad HIV, hyrwyddo ymwybyddiaeth o AIDS, a darparu gwasanaethau cefnogol i bobl â'r afiechyd.