![]() | |
Math | dinas â phorthladd, teyrnas,diwylliant,pobl,gwareiddiad, diwylliant archeolegol, dinas hynafol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penrhyn Iberia ![]() |
Gwlad | Sbaen ![]() |
Gerllaw | Afon Guadalquivir ![]() |
Cyfesurynnau | 37°N 6.2°W ![]() |
![]() | |
Hyd at yr20g, credai haneswyr mai gwareiddiad, diwylliant a dinasyr Henfyd oeddTartessos (Groeg: Τάρτησσος), a leolwyd ar benrhynIberia. Ers yr 20g, fodd bynnag, profwyd mai ardal gyfoethog iawn o gwmpasHuelva,Sbaen ydyw, gyda phorthladd mewn lleoliad masnachol hynod bwysig. Yma, canfyddwyd oddeutu cant o feddfaeni, neu gerrig bedd ac arnynt ysgrif yr iaith Geltaidd.
Fe'i disgrifiwyd yn gyntaf gan y Groegiaid (gan gynnwysHerodotus) ac roedd yr ardal yn nodedig am ei mwynau,arian atun. Yn ôl Hesychius lleolwyd "dinas Tartessos ger 'Colofnau Hercwles' (Culfor Gibraltar) a bod ynoffuredau ac anifeiliaid mytholegol milain iawn". Credwyd, tan yn ddiweddar, fod y ddinas, ers rhai canrifoedd, o dan y môr.
Yn 2009, cyflwynodd yr AthroJohn Koch, o'rBwrdd Gwybodau Celtaidd ynAberystwyth, ddamcaniaeth newydd a chwyldroadol iawn fod bron i gant o gerrig beddau yn ardal Tartessos, deSbaen wedi'u hysgrifennu yn yr iaith Geltaidd, ac yn dyddio i gychwynOes yr Haearn. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol fel papur, ac yna fel llyfr.[1] Dywed ymhellach, fod y Tarteseg yn perthyn i deulu'rIeithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn benodol, yn iaith Geltaidd, gynnar.[2] Er bod anghytundeb ynglŷn â hyn, mae'r dystiolaeth yn cynyddu.
Dyma'r ysgrifen (dwy fil a hanner o flynyddoedd oed) ar un o'r cerrig hyn:[3]
Yn ôl Koch, dyma gyfieithiad o'r sgript (Ffenicaidd):