Maetandem yn fath ofeic (a weithiautreic) sydd wedi ei ddylunio i gario dau berson. Mae'r term tandem yn cyfeirio at y trefniant seddu, (un tu ôl i'r llall yn hytrach nag ochr yn ochr) yn hytrach na'r nifer o reidwyr.
Yn wreiddiol, adeiladwyd tandems ganasio dau ffram beic gyda'i gilydd i greu beic dau berson. MaePatentau sy'n ymwneud â beiciau tandem yn dyddio o ddiwedd y19g.[1] Mae technoleg gyfoes wedi gwella cynllun fframiau a darnau ac mae tandem modern wedi ei adeiladu i'r un ansawdd a beic mynydd neu feic rasio ffordd cyfoes.
Tra bod gan dandem ddwywaith y pŵer pedalu, ac ond ychydig fwy o golled ffrithiant yn y gadwyn, mae ganddo'r un gwrthiant gwynt a beic arferol a gallent bwyso llai na dwywaith beic arferol felly gall ycymhareb pŵer i bwysau fod yn debyg i feic sengl. Gall tandems gyrraedd cyflymderau cymharol gyflym, yn arbennig ar dirwedd gwastad, lawr allt neu rholio. Nid ydynt o reidrwydd yn arafach ar elltydd chwaith ond mae hyn i'w weld yn wir weithiau, yn rhannol oherwydd yr angen am lefel uchel o gydsymud sydd ei angen rhwng y reidwyr er mwyn peidio gwastraffu pŵer, yr arbennig os ydy gallu corfforol y ddau reidiwr yn wahanol iawn ac yn gofyn am gyfaddawdaucadens neu'r lefel o ymdrech.
Ar dandem confensiynol, mae'r reidiwr ar y blaen yn llywio'r beic. Adnabyddir ef fel ycapten, ypeilot neu'rllywiwr; y rediwr ar y cefn yw'rtaniwr neu'rôl-lyngesydd. Ar y rhan fwyaf o'r tandemau mae dau set o granciau sydd wedi eu cysylltu'n fecanyddol trwy'r gadwyn ac yn troi ar yr un cyflymder.
Defnyddir tandem yn aml mewn cystadlaethau megis yGemau Paralympaidd gyda thanwyrdall a rhai sydd âgolwg wedi amharu sydd angen captan â golwg llawn.
Mae rhai cynlluniau megis y DaVinci yn galluogi pedalu annibynnol gyda defnydd nifer o olwynion-rhydd. Mewn cynllun arall, mae'r reidiwr ar y cefn yn gyrru'r olwyn ôl gyda'r pedalau ac mae'r reidiwr ar y blaen yn gyrru'r olwyn flaen gyda'i draed a'i ddwylo.[2]
Mae tandem hefyd ar gael ar ffurftreic; mae gan y treic tandem confensiynol ddilyniant bach ond cysegredig ym Mhrydain, ac mae ar gael fel cynllyn â un neu ddwy olwyn yn cael eu gyrru.
Gall tandem gael mwy na dau reidiwr gan fod y gair yn cyfeirio at y trefniant seddu yn hytrach na'r nifer o reidwyr. Cyfeirir at feiciau ar gyfer tri, pedwar neu bump o reidwyr fel "triphlyg" neu "tripledi", "cwadiau" neu "pedrybledau", a "pumledi". Un sy'n gyfarwydd i nifer o wylwyr teledu ym Mhrydain ydy'r "trandem" a reidwyd ganThe Goodies. Tandem dau berson yn wreiddiol gyda sedd ychwanegol "ffug", adeiladwyd beic cyflawn tri person ar eu cyfer ganRaleigh.
Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.
Gan fod y farchnad ar gyfer beiciau tandem yn llai na'r farchnad am feiciau sengl, mae llawer llai o gynhyrchwyr tandem. Mae rhai cynhyrchwyr yn arbenigo mewn adeiladu tandemau yn ogystal â chwmnïau beiciau sengl sy'n cynnig modelau tandem. Mae rhai cynhyrchwyr tandem presennol yn cynnwys: