Talal, brenin Iorddonen |
---|
 |
Ganwyd | 26 Chwefror 1909  Mecca  |
---|
Bu farw | 7 Gorffennaf 1972  Istanbul  |
---|
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd,Trawsiorddonen,Gwlad Iorddonen  |
---|
Alma mater | - Coleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst

|
---|
Galwedigaeth | brenin neu frenhines  |
---|
Swydd | Brenin Gwlad Iorddonen, Crown Prince of Jordan  |
---|
Tad | Abdullah I, brenin Iorddonen  |
---|
Mam | Musbah bint Nasser  |
---|
Priod | Zein Al-Sharaf Talal  |
---|
Plant | Hussein, brenin Iorddonen, Y Tywysog Muhammad Bin Talal o Jordan, Tywysog El Hassan Bin Talal o Jordan, Tywysoges Basma Bint Talal o Jordan  |
---|
Perthnasau | Abdullah II, brenin Iorddonen  |
---|
Llinach | Hashimiaid  |
---|
Gwobr/au | Order of al-Hussein bin Ali, Urdd Goruchaf y Dadeni, Order of the Star of Jordan, Urdd yr Hashimites, Urdd Al Rafidain, Croes fawr teilyngdod milwrol, adran wen  |
---|
BreninGwlad Iorddonen o 1951 hyd 1952 oeddTalal I bin Abdullah (26 Chwefror1909 –7 Gorffennaf1972).
Ganwyd Talal ymMecca ym 1909. Ym 1929 daeth yn yr Iorddoniad cyntaf i raddio oAcademi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Gwasanaethodd fel swyddog yny Fyddin Arabaidd a bu'n ymladd yn erbyn yr Iddewon yn Jeriwsalem, Ramallah a threfi eraill ym Mhalesteina.[1] Priododd Zein al-Sharaf ym 1934 a chafodd tri mab, Hussein, Muhammad ac Hassan, ac un ferch, Basma. Bu farw'r Dywysoges Asma a'r Tywysog Muhsin yn ifanc.
Daeth Talal i'r orsedd yn sgil bradlofruddiaeth ei dadAbdullah I ar 20 Gorffennaf 1951. Yn ystod ei deyrnasiad byr lluniwyd cyfansoddiad rhyddfrydol i'r wlad a ddatganodd Gwlad Iorddonen yn rhan o'rgenedl Arabaidd. Yn ogystal gwnaed y llywodraeth yn atebol i'r senedd dan delerau'r cyfansoddiad, a chyflwynodd addysg orfodol am ddim i'r wlad.[1]
Ar 11 Awst 1952 datganodd Senedd Gwlad Iorddonen yr oedd Talal yn dioddef osgitsoffrenia ac yn anghymwys i deyrnasu, gan drosglwyddo'r goron i'w fabHussein.Ymddiorseddodd Talal heb brotest ac ymgartrefodd ynIstanbwl, a bu farw yno ym 1972.[2]