Gwlad ynNwyrain Asia ydyTaiwan, a gaiff ei adnabod yn swyddogol felGweriniaeth Tsieina (Tsieineeg traddodiadol: 台灣), Pescadores, Quemoy, Matsu, Pratas. Prifddinas y wladwriaeth yw Taipei, ar ynys Taiwan. Yn ffinio â'r weriniaeth maeGweriniaeth Pobl Tsieina i'r gorllewin,Japan i'r dwyrain a'r gogledd-ddwyrain a GweriniaethY Philipinau (neu'r Philipinau) i'r de.Taipei ydy'r brifddinas swyddogol yn ogystal â chanolbwynt diwylliant ac economeg y wlad.
Hyd at 10,000 o flynyddoedd yn ôl, pan gododd lefel y môr, roedd yr ynys yn sownd yn y tir mawr.Cafwyd hyd i olion dyn ar yr ynys sy'n dyddio'n ôl i rhwng 20,000 a 30,000 o flynyddoedd.[1]Ychydig dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl ymfudodd ffermwyr o dir mawr Tsieina i'r ynys; credir mai'r rhain yw cyndeidiau Brodorion Taiwan. Roedd eu hiaith yn perthyn i ieithoedd Awstralaidd. Yn y 13g setlodd Tsieiniaid Han ar ynysoedd Penghu ond roedd brodorion Taiwan yn anghroesawgar tuag atynt. Dim ond ychydig bysgotwyr fedrai sefydlu yno, tan yr 16g.[2]
Gwladychwyd rhannau o'r ynys gan Iseldirwyr (Vereenigde Oost-Indische Compagnie) a Sbaenwyr yn 1626. Roeddent ill dau'n awyddus i ddefnyddio'r ynys fel troedle i farchnata. Yn dilyn cwympBrenhinllin Ming daeth unoliaethwr Mingaidd i'r ynys, sef dyn o'r enw Koxinga gan hel yr Iseldirwyr (1662) ac ymosod ar dir mawr Tsieina. Lladdwyd ei ŵyr yn 1683 gan Shi Lang o dde Fujian, fe unwyd Taiwan gydaQing.
Yn rhyfeloedd Sino-Japan 1894-1895, gorchfygwyd yr Ymerodraeth Qing gan Japan a chychwynwyd ar unwaith ar y gwaith o ddiwydiannu'r ynys e.e. porthladdoedd a rheilffyrdd. Erbyn 1938 roedd dros 309,000 o Japaniaid yn byw yn Taiwan.
Saif ynys Taiwan tua 180kilometr i'r de-ddwyrain o Tsieina, ar draws Culfor Taiwan ac mae ganddo arwynebedd o 35,883 km2 (13,855 mi sgw). Mae cryn wahaniaeth rhwng dau draean dwyreiniol yr ynys a'r traean gorllewinol. Mae'r ochr ddwyreiniol yn bum rhes o fynyddoedd geirwon sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de. Mynydd uchaf Taiwan ydyYu Shan sy'n 3,952m o uchder. Ceir pum copa arall sydd dros 3,500 metr ar yr ynys. Dyma, felly bedwaredd ynys uchaf ar y Ddaear.[3]
Dynodirgwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol ganlythrennau italig. 1 Cydnabyddir ganDwrci yn unig. 2 Gyda'r mwyafrif o'i thir ynAffrica. 3 YnNe Orllewin Asia yn gyfan gwbwl, ond ystyrir yn rhan oEwrop am resymau hanesyddol, gwleidyddol, ac/neu diwylliannol. 4 Yn rhannol neu ddim o gwbwl yn Ewrop, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 5 Ystyrid weithiau yn rhan oOceania. 6 Gyda lleiafrif o'i thir yn Asia. 7 Ystyrid ynysforSocotra yn rhan o Affrica. 8 Gweinyddir gan Weriniaeth Pobl Tsieina. 9 Nid yn llwyr annibynnol.