Crefft ymladd oCorea ywTaekwondo a ddatblygwyd yn ystod y1940au a'r1950au gan nifer o grefftwyr ymladd Coreaidd, a gyfunodd elfennau o Karate, creftau ymladd oTsieina ynghyd â thraddodiadau brodorol Taekkyeon, Subak, a Gwonbeop. Ffurfiwyd y corff rheoli hynaf yn 1976, sef Cymdeithas Taekwondo Corea, gan gynrychiolwyr y naw kwan (neu ysgol ymladd) wreiddiol.Yn y blynyddoedd cynnar, mabwysiadwyd y grefft ymladd gan fyddin De Corea, a chafodd hyn gryn effaith ar boblogrwydd Taekwondo drwy'r wlad.[1]