Y tabl cyfnodol yw un o seiliau hanfodol yr wyddorcemeg, trwy gynnig dull o ddosbarthu, trefnu a chymharu'r elfennau. Mae'r tabl hefyd yn ddefnyddiol iawn ynffiseg,bioleg,peirianneg a diwydiant. Dangosir yr elfennau yn ôl trefn eurhif atomig ac mae'r elfennau sydd â phriodweddau tebyg yn gorwedd mewn colofnau. Gelwir y colofnau fertigol hyn yn Grwpiau ac yn aml, defnyddir rhif Rhufeinig ar eu cyfer. Gelwir y rhesi yn gyfnodau.
Mae'r "tabl cyfnodol llydan" hwn yn dilyn patrwm sydd bellach yn eithaf cyffredin ac sy'n gwahanu'r lanthaniadau a'r actinadau oddi wrth y gweddill o'r elfennau. Mae'n cynnwys yr "f-bloc". Mae'r tabl cyfnodol pellach (Saesneg:extended periodic table) yn ychwanegu'r 8fed a'r 9fed cyfnod a hefyd yn cynnwys yr "f-bloc" ac ychwanegu'r "g-bloc" posibl.
Datblygwyd y tabl cyfnodol modern gan y gwyddonyddDmitri Mendeleev cyn i wyddonwyr ddarganfodelectronau na’rniwclews. Defnyddiodd y dystiolaeth oedd i’w gael i roi’relfennau mewn patrymau synhwyrol. Defnyddiodd:
Masau’r atomau a oedd wedi cael eu darganfod.
Patrymau ymddygiad cemegol yr elfennau
Bwriad Mendeleev oedd dangos y patrymau ym mhriodweddau'r elfennau (eu 'cyfnodedd'). Mae adeiledd y tabl wedi datblygu ers hynny, wrth i elfennau newydd gael eu darganfod. Datblygwyd sawl gwahanol ffurf o arddangos y wybodaeth, er mwyn pwysleisio agweddau gwahanol o ymddygiad yr elfennau, ond maent oll wedi eu seilio ar y patrwm gwreiddiol gan Mendeleev.
Rhoddodd Mendeleev yr elfennau yn nhrefn eu masau, sydd yn rhoi’r un patrwm a threfn eurhifau atomig ar gyfer y mwyafrif o’r elfennau. Trefnodd y rhesi fel eu bod yn cynnwys elfennau gyda phriodweddau cyffelyb yn yr un golofn (grŵp). Sylwodd Mendeléev fod y patrymau yn holl bwysig, felly er mwyn sicrhau fod yr elfennau yn y llefydd addas gadawodd bylchau am elfennau y credai yr oeddent heb eto eu darganfod, a wnaeth gwrthdroi parau o elfennau er mwyn sicrhau fod eu priodweddau cemegol yn gywir i’r grŵp. Mae datblygiadau yntheori atomig wedi dangos bod ei syniadau am leoliadau’r elfennau yn gywir.
Gyda'r datblygiadau mewn theorïaumecaneg cwantwm modern, sy'n cynnwys trefniant electronau tu fewn i'r atomau, mae'n amlwg bod bob rhes lorwedd ("cyfnod") yn y tabl yn cyfateb i lenwi un plisgyn cwantwm o electronau. Yn nhabl gwreiddiol Mendeleev roedd y rhesi cyhyd â'i gilydd. Mae tablau modern yn cynnwys rhesi sy'n cynyddu mewn hyd wrth ddisgyn y tabl. Maent yn dosbarthu'r elfennau i blociaus,p,d acf i adlewyrchu eu hadeiledd electronig.
Prif werth y tabl cyfnodol yw ei allu i ragfynegi priodweddau cemegol elfen ar sail ei lleoliad yn y tabl. Dylid nodi bod y priodweddau hyn yn newid yn wahanol wrth fynd ar draws cyfnod (rhes) i'r newidiadau wrth symud i lawr grŵp.
Maegrŵp yndeulu o elfennau tebyg mewn colofn fertigol o'r tabl cyfnodol.
Ystyrir grwpiau yn un o brif nodweddion defnyddiol y tabl cyfnodol. Mae bron pob grŵp yn cynnwys elfennau tebyg, gyda phatrymau ym mhriodweddau'r elfennau wrth fynd i lawr grŵp. Rhoddir enwau i nifer o'r grwpiau hyn, yn cynnwys yMetelau alcalïaidd (grŵp 1), yrHalogenau (grŵp 7) a'rnwyon nobl (grŵp 0). Mae rhai grwpiau, yn enwedig yn y bloc-p, yn dangos llai o debygrwydd ymysg yr elfennau felly nid oes enw ychwanegol (e.e.Grŵp 14 aGrŵp 15). Gall theorïaumecaneg cwantwm modern o adeiledd atomig egluro'r patrymau hyn. Mae pob elfen yn yr un grŵp yn cynnwys yr un nifer o electronau yn eu plisgfalens (y plisg allanol) sy'n rheoli eu priodweddau cemegol.
Maecyfnod yn rhes lorwedd o elfennau yn y tabl cyfnodol.
Nid yw'r patrymau ymysg elfennau yn yr un cyfnod mor amlwg â'r patrymau a welir yn y grwpiau fertigol yn ybloc-s a'rbloc-p. Yn ybloc-d (Metelau trosiannol) ac yn enwedig yn ybloc-f (actinadau alanthanidau) mae'r elfennau yn yr un cyfnod yn dangos priodweddau cyffelyb sylweddol.
Defnyddiwyd y term "blociau" yn gyntaf gan y Ffrancwr,Charles Janet.[1] Ceir 4 bloc, ac mae'r elfennau wedi eu gosod yn y blociau hyn yn ôl lleoliad yr electron olaf sydd ganddynt yn yr is-gragen allanol. Y blociau ydyw: bloc-s, bloc-p , bloc-d, a bloc-f.
Y nwyon nobl yw holl elfennau grŵp 0 (neu 18, 8 os ni chynhwysir y metelau trosiannol) sydd yn elfennau gyda phlisg falens llawn. Nid oes angen iddynt adweithio er mwyn cyrraedd adeiledd electronig sefydlog, felly maent yn elfennau monatomig anadweithiol. Maent oll yn nwyon gyda'i berwbwyntiau yn cynyddu i lawr y grŵp.Heliwm yw'r elfen leiaf adweithiol, gydag adweithedd yr elfennau yn cynyddu lawr y grŵp, felly mae modd achosi adweithiau gyda'r nwyon nobl trymaf, ond rhaid defnyddio sylweddau adweithiol iawn fel fflworin.
Mae grŵp 17, neu'rhalogenau, yn elfennau sydd angen un electron ychwanegol er mwyn cyrraedd plisgyn falens llawn. Maeelectronegatifedd yr elfennau yn uchel, afflworin yw'r elfen fwyaf electronegatif o'r holl elfennau, ac felly mae ganddynt y tuedd i ffurfio anionau halid, sef F-, Cl-, Br- ac I-.
Yn y metelau trosiannol (grwpiau 3 i 12) nid yw'r gwahaniaethau rhwng y grwpiau yn sylweddol, ac mae'r adweithiau'r elfennau yn dangos cyffelybrwydd rhwng yr elfennau yn yr un cyfnod yn ogystal â'r cyffelybrwydd rhwng yr elfennau yn yr un grŵp.
Mae'r lanthanidau (elfennau 57-71) a'r actinidau (elfennau 89-103) yn gyfresi o elfennau ym mloc-f y tabl cyfnodol. Mae'r elfennau yn cael eu darganfod gyda'i gilydd yn eu mwynau gan eu bod yn elfennau tebyg. Mae priodweddau'r holl lanthanidau yn gyffelyb, a welir yr un cyffelybrwydd ym mhriodweddau'r actinidau. Mae hwn yn fwy nodweddiadol na'r cyffelybrwydd ym mhriodweddau'r metelau trosiannol. Mae eu priodweddau tebyg yn gwneud arunigo'r metelau o'u cymysgeddau yn anodd iawn.
Adeiledd electromagnetig yr atomau a'r tabl cyfnodol
Y prif ffactor sy'n rheoli priodweddau cemegol unrhyw elfen yw ffurfweddelectromagnetig yr atomau ynddi, yn enwedig yr electronau yn yplisgyn falens. Bydd unrhyw atom gyda phedwar electron falens yn ei is-blisgynp yn ymddwyn yn debyg, gyda bloc yr elfen yn cael ei reoli gan yr is-blisgyn, a'r grŵp yn cael ei reoli gan y nifer o electronau yn y plisgyn falens.
Mae'r nifer o blisg sy'n cael eu defnyddio mewn atom yn rheoli cyfnod yr elfen. Caiff pob plisgyn ei rannu i is-blisg, sy'n cael eu llenwi yn y drefn ganlynol yn ôlEgwyddor Aufbau, a hwn sy'n arwain at adeiledd y tabl cyfnodol.