Wyneb cloc arNeuadd y Ddinas, Caerdydd, Fel sy'n arferol gyda chlociau ar adeiladau cyhoeddus, defnyddir rhifolion Rhufeinig i nodi'r oriau. Sylwch fod y "pedwar" yn cael eu dangos fel IIII ac nid IV: dyma'r ffurf arferol ar wynebau cloc.
System o ysgrifennu rhifau gan ddefnyddio llythrennau'rwyddor Ladin ywsystem rhifolion Rhufeinig.
Tarddodd y system ynRhufain hynafol ac a pharhaodd fel y ffordd arferol o ysgrifennu rhifau ledled Ewrop ymhell i'rOesoedd Canol Diweddar. Parhawyd i ddefnyddio rhifolion Rhufeinig ymhell ar ôl dirywiadyr Ymerodraeth Rufeinig. O'r 14g ymlaen, dechreuwyd eu disodli yn y mwyafrif o gyd-destunau ganrhifolion Arabaidd, sy'n fwy cyfleus. Fodd bynnag, graddol oedd y broses hon, ac mae rhifolion Rhufeinig yn dal i gael eu defnyddio mewn rhai cyd-destunau penodol hyd heddiw.
Cynrychiolir niferoedd yn y system gan gyfuniadau o lythrennau o'r wyddor Ladin. Mae defnydd modern yn cyflogi saith symbol, pob un â gwerth cyfanrif sefydlog:
Symbol
I
V
X
L
C
D
M
Gwerth
1
5
10
50
100
500
1,000
Darllenir rhifolion Rhufeinig o'r chwith i'r dde. Os dilynir symbol gan symbol arall sydd â'r un gwerth, neu os yw'n cael ei ddilyn gan symbol â gwerth is, yna mae'n cael ei ychwanegu at y cyfanswm; e.e.
III = 1 + 1 + 1 = 3
VI = 5 + 1 = 6
LXXXII = 50 + 10 + 10 + 1 + 1 = 82
CCI = 100 + 100 + 1 = 201
MMXV = 1,000 + 1,000 + 10 + 5 = 2015
Fodd bynnag, os dilynir symbol gyda symbol â gwerth uwch, yna caiff ei dynnu o'r cyfanswm; e.e.
IV = -1 + 5 = 4
IX = -1 + 10 = 9
XXIX = 10 + 10 - 1 + 10 = 29
XIV = 10 - 1 + 5 = 14
CXLVII = 100 - 10 + 50 + 5 + 1 + 1 = 147
Hynny yw, os yw I yn mynd o flaen V neu X, neu os yw X yn mynd o flaen L neu C, neu os yw C yn mynd o flaen D neu M, yna mae'r symbol gwerth is yn cael ei dynnu o'r cyfanswm. Dyma'r unig dynnu "swyddogol" sy'n digwydd. Felly, ni chaniateir tynnu I o L, C, D neu M. (Dylid ysgrifennu 49 fel XLIX ac nid fel IL; dylid ysgrifennu 99 fel XCIX ac nid fel IC; dylid ysgrifennu 1999 fel MCMXCIX ac nid fel MIM.) Fodd bynnag, dros 2,000 o flynyddoedd o ddefnydd, darganfyddir eithriadau i'r system o bryd i'w gilydd.