Mae gwaed yn ochr dde'r galon yn cael ei bwmpio i'r ysgyfaint. Yn yr ysgyfaint, mae'r gwaed yn cyfnewid nwyon ac yn derbyn ocsigen o'r ysgyfaint ac yn rhoicarbon deuocsid. Wedyn, mae'r gwaed sy'n cynnwys llawer o ocsigen erbyn hyn, yn dychwelyd i ochr chwith y galon, lle caiff ei bwmpio drwy'r rhydwelïau i weddill y corff. Mae'r gwaed yn cludo ocsigen i'r corff felly, ac mae'n helcarbon deuocsid o'r corff. Wedyn, mae'r gwaed yn dychwelyd o'r corff trwy'r gwythiennau, gyda llai o ocsigen a mwy o garbon deuocsid; mae'r gwaed is-ocsigen hwn yn cyrraedd ochr dde'r galon, o ble mae'n cael ei bwmpio i'r ysgyfaint unwaith eto.
Yn ogystal â nwyon, mae'r gwaed yn cludo sylweddau eraill drwy'r corff. Er enghraifft: mae e'n cario sylweddau sy'n trawsgludo ynni o fwyd i'rcyhyrau;hormonau; a sylweddau gwastraff o'r corff, a dynnir o'r gwaed gan yr arennau.