Gwlad yng ngorllewinAsia, yn yDwyrain Canol a'rLefant ywGweriniaeth Arabaidd Syria neuSyria (Arabeg:الجمهورية العربية السورية). Y gwledydd cyfagos ywLibanus i'r gorllewin,Israel i'r de-orllewin,Gwlad Iorddonen i'r de,Irac i'r dwyrain aThwrci i'r gogledd. Fodd bynnag, mae'r anghydfod am union leoliad y ffin rhwng Syria ac Israel ac amUcheldiroedd Golan heb ei ddatrys. Yn y gorllewin mae gan y wlad arfordir ar yMôr Canoldir. Y brifddinas ywDamascus, sy'n un o'r dinasoedd hynaf yn y byd.[1]
Roedd yr enw "Syria" yn cyfeirio'n hanesyddol at ranbarth ehangach a oedd, yn fras, yn gyfystyr â'rLefant ac a elwir yn Arabeg felAsh-Sham.[2] Yn ddaearyddol, mae'r wladwriaeth fodern yn cynnwys nifer o deyrnasoedd ac ymerodraethau hynafol, gan gynnwys gwareiddiadEblan yn y 3ydd mileniwmCC.[3][4] Mae Damascus acAleppo yn ddinasoedd o arwyddocâd diwylliannol mawr. Damascus oedd cartref CaliffiaethUmayyad a phrifddinas daleithiol Swltaniaeth Mamluk ynyr Aifft.[5] Sefydlwyd gwladwriaeth fodern Syria yng nghanol yr20g ar ôl canrifoedd o reolaeth yrOtomaniaid, fel Mandad Ffrengig. Enillodd annibyniaethde jure fel gweriniaeth seneddol yn 1945 pan ddaethGweriniaeth Gyntaf Syria yn un o sylfaenwyr yCenhedloedd Unedig, gweithred a ddaeth â Mandad Ffrainc i ben yn gyfreithiol. Aethmilwyr Ffrainc adref yn Ebrill 1946, gan roi annibyniaethde facto i'r genedl.
ErsGwanwyn Arabaidd 2011, mae Syria wedi bod mewnrhyfel cartref amlochrog gyda sawl gwlad yn cymryd rhan, gan arwain at argyfwng ffoaduriaid lle dadleoliwyd mwy na 6 miliwn o bobl o'r wlad. Ymyrrodd sawl gwlad ar ran gwahanol garfanau a oedd yn gwrthwynebu Islamiaeth. Yn hwyr yn 2024 cafwyd sawl ymosodiad (wedi eu harianu gan UDA a gwledydd y Gorllewin) at gipio Damascus a syrthiodd cyfundrefn Assad dros nos.[6]
Gellir olrhain hanes Syria i 10,000 o flynyddoedd yn ôl a gellir canfod llawer iawn o arteffactau a naddwyd o garreg o'r adeg honno. Tua 3,000 C.C. sefydlwyd gwareiddiad yr Ebla. Gellir gweld fod y rhan hon o'r Dwyrain Canol wedi bod mewn cysylltiad ag arweinyddionyr Aifft e.e. ceir anrhegion gan Ffaros yr Aifft sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod hwn. Ers yr Henfyd hyd at yr oes fodern, bu lleoliad Syria yn y Lefant yn groesffordd i ymerodraethau ac o bwys strategol i benaduriaid lleol ac archbwerau rhyngwladol ill dau. Teyrnasodd brenhinoedd y Dwyrain Agos yn ystod cyfnodau’r Arameaid, yr Asyriaid a’r Babiloniaid. Daeth o dan reolaeth y Groegiaid yn sgil conwestAlecsander Fawr yn 322 CC, ac yn rhan o’rYmerodraeth Rufeinig Ddwyreiniol yn 64 CC.
Daeth Islam i Syria yn y 7g, ac o hynny ymlaen roedd y wlad yn diriogaeth i gyfres o ymerodraethau Mwslimaidd: yr Umayyad, yr Abasiaid, y Tuluniaid, yr Ikshidiaid, y Fatimiaid, yr Hamdaniaid, yr Ayyubiaid, y Seljwciaid, y Mamlwciaid, a’rOtomaniaid. Wedi chwalfa’r Ymerodraeth Otomanaidd yn sgil diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Syria dan ddylanwad y Ffrancod fel rhan o’r Mandad Ffrengig dros Syria a Libanus.
Enillodd y wlad ei hannibyniaeth ar Ffrainc wedi’r Ail Ryfel Byd a sefydlwyd Gweriniaeth Arabaidd Syria ym 1946. Unodd â'r Aifft i ffurfio'rWeriniaeth Arabaidd Unedig rhwng 1958 a 1961.
DaethHafez al-Assad yn arlywydd y wlad yn Nhachwedd 1970 a bu mewn grym hyd at ei farwolaeth yn 2000 pan etholwyd ei fabBashar al-Assad yn arlywydd, ac yntau'n 34 oed. Mae ef, fel oedd ei dad o'i flaen, yn aelod oBlaid y Ba'ath. Er iddo gyhoeddi y byddai'n dod a newidiadau chwyldroadol a democrataidd i'r wlad, ychydig iawn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd.
Bu Syria o dan Gyfraith Argyfwng rhwng 1963 a 2011. Mae'n aelod o'rCenhedloedd Unedig. Mae hefyd yn aelod o'rGynghrair Arabaidd, ond diarddelwyd y wlad o'r gynghrair honno yn2011.[7]
Y sefyllfa fel ag yr oedd yn Syria, Medi 2015Gwrthdystiad Pro-Assad yn Namascus ar ôl ymosodiad taflegrau yr Unol Daleithiau yn Ebrill 2018
Rhwng Chwefror 2011 a Chwefror 2017 bu farw 470,000 o bobl[8] 7.6 miliwn a chafwyd a ffodd dros 5 miliwn o bobl o'r wlad yn ôlUNHCR),[9] ac felly anodd iawn yw amcangyfrif union boblogaeth y wlad.
Ar 26 Chwefror 2011 cafwyd sawl protest yn erbyn y llywodraeth; roedd hyn yn dilyn protestiadau drwy'r Dwyrain Canol a adwaenir fel "y Gwanwyn Arabaidd" a gychwynwyd ynTiwnisia ar 17 Rhagfyr 2010 - yn ninasSidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun hyd farwolaeth gan gychwyn cyfres o brotestiadau gan y werin. Roedd y protestwyr yn Syria yn galw am newidiadau gwleidyddol ac am adnewydduhawliau dynol; galwyd hefyd am ddod â'r Gyfraith Argyfwng i ben. Cafwyd protest mawr ar 18-19 Mawrth 2011 a honnir bod yr awdurdodau wedi lladd ac anafu protestwyr. Wedi hynny bu rhagor o brotestiadau; yn ôl rhai, roedd byddin Syria wedi saethu unigolion ac aelodau'r protestiadau hyn mewn sawl ardal. Credir hefyd fod ambell ran o'r fyddin wedi troi at y chwyldroadwyr.
Yng ngwanwyn 2011, yn fuan ar ôl i'r protestiadau ddechrau, dechreuodd sawl grŵp arfog ymladd yn erbyn y llywodraeth; bu llywodraeth Syria'n llawdrwm, gan ddefnyddio'r fyddin i geisio trechu'r gwrthryfelwyr arfog.[10][11]. Yn 2011 unodd rhai o'r gwrthryfelwyr dan faner "Byddin Rhyddid Syria" ac fe'u cefnogwyd gan lywodraethau Ewrop a UDA.
Yn ôl sawl ffynhonnell, gan gynnwys yCenhedloedd Unedig, roedd rhwng 14,005 a 19,770 o bobl wedi marw erbyn haf 2012, gyda thua hanner y nifer hwn yn sifiliaid.[12] Yn ôl y CU, erbyn Mehefin 2012 roedd hi bellach yn gyflwr oryfel cartref yn y wlad, gyda byddin y llywodraeth wedi colli llawer o ardaloedd i Fyddin Rhyddid Syria a grwpiau arfog eraill.[13] Ymunodd sawl grŵp arfogjihadaidd yn y rhyfel gan gynnwysJabhat al-Nusra ('Ffrynt al-Nusra') sy'n deyrngar ial-Qaeda ac a ystyrir yn fudiad terfysgol gan yr Unol Daleithiau. Daw llawer o ryfelwyr Jabhat al-Nusra o wledydd eraill ar draws y byd Islamaidd a thu hwnt. Eu bwriad yw sefydlu cyfraithsharia yn y wlad fel rhan o'r 'califfaeth' Islamaidd.
Yn Awst 2013 dywedodd John Kerry (UDA) fod Bashar al-Assad wedi defnyddio arfau cemegol yn erbyn sifiliaid[14] a chafwyd sawl cyhuddiad yn y 2000-2010au fodhawliau dynol sylfaenol wedi'u torri gan y Llywodraeth; yn ôl yCenhedloedd Unedig (ar 9 Tachwedd 2011) lladdwyd dros 3500 gyda 250 ohonynt yn blant nifer o'r rheiny, yn enwedig bechgyn, wedi'u treisio gan filwyr Bashar al-Assad.[15][16]
Erbyn Awst 2014 credir bod 191,369 wedi marw yn y gwrthryfel.
Bu ganRwsia gysylltiad agos gyda Syria ers y 1960au ac yn Haf 2015 symudwyd o leiaf 2,000 o bersonnel i'r wlad a llawer o arfau, llongau ac awyrennau. Ar ddiwrnod olaf Medi 2015 gollyngodd awyrennau Rwsia fomiau ar ISIS. Honodd UDA i'r bomiau gael eu gollwng ar sifiliaid a gwrthrefelwyr eraill, rhai ohonynt yn grwpiau a gefnogwyd gan Brydain.[17]
Ffyrnigwyd UDA a'u cynghreiriaid gan y ffaith i Rwsia dderbyn gwahoddiad gan Lywodraeth Syria i'w cynorthwyo i amddiffyn y wlad. Arwyddodd Rwsia hefyd 1,571 o 'gytundebau' gydag arweinwyr lleol - a oedd yn cytuno i gefnogi Llywodraeth y wlad.[18]
Yn dilyn Gwrthryfel 2024 daeth y cysylltiadau hyn i ben i bob pwrpas.
Yn ogystal â'r brifddinasDamascus y dinasoedd pwysicaf yn Syria ywHoms,Hama acAleppo. Y prif afonydd ywAfon Ewffrates, sy'n rhedeg ar draws y wlad yn y gogledd-ddwyrain, acAfon Orontes yn y canolbarth. Yn y de-ddwyrain ceirDiffeithwch Syria sy'n ymestyn o fryniauJabal ad Duruz dros y ffin i Wlad Iorddonen a gorllewin Irac. Mae rhan oFynydd Libanus yn gorwedd yn Syria ac yn nodi'r ffin rhyngddi a Libanus ei hun. Mae gan Syria lain o arfordir ar lanMôr y Canoldir yng ngogledd-orllewin y wlad.
Mae 74% o'r boblogaeth ynFwslemiaid, gyda 13% ohonyn nhw'nShia ac Alawitiaid, 10% ohonyn nhw'nGristnogion a 3% yn Druze. Ers yr 1960au dominyddiwyd gwleidyddiaeth y wlad gan leiafrif Alawitaidd yn y fyddin. Mae 90% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid ac mae hyn yn cynnwys Arabiaid,Cyrdiaid,Adyghe (neu Circasiaid) ac eraill. Mae 10% yn Gristnogion ac mae hyn yn cynnwys Arabiaid, Syriacs acArmeniaid. Mae lleiafrifoedd ethnic y wlad yn cynnwys y Cwrdiaid, yr Armeniaid, y Twrciaid Syriaidd a'r Circasiaid.[19]
Arabeg yw'r iaith swyddogol ond mae rhai pobl yn medruFfrangeg yn dda yn ogystal. Mae mwyafrif y dinesyddion yn ddilynwyrIslam, a'r rhan fwyaf ynSunni ond gyda lleiafrifShia hefyd. Ceir cymunedauCristnogol a rhaiIddewon yn ogystal.
Dynodirgwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol ganlythrennau italig. 1 Cydnabyddir ganDwrci yn unig. 2 Gyda'r mwyafrif o'i thir ynAffrica. 3 YnNe Orllewin Asia yn gyfan gwbwl, ond ystyrir yn rhan oEwrop am resymau hanesyddol, gwleidyddol, ac/neu diwylliannol. 4 Yn rhannol neu ddim o gwbwl yn Ewrop, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 5 Ystyrid weithiau yn rhan oOceania. 6 Gyda lleiafrif o'i thir yn Asia. 7 Ystyrid ynysforSocotra yn rhan o Affrica. 8 Gweinyddir gan Weriniaeth Pobl Tsieina. 9 Nid yn llwyr annibynnol.