Dinas hynaf a fwyaf poblogAwstralia acOceania ywSydney (anaml y gelwirSidney yn Gymraeg;[1] prifddinas talaithDe Cymru Newydd.[2]Dharugeg:Gadi) Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, roedd y boblogaeth yn 5,367,206 yn 2020. Tyfodd y ddinas oddeutu baePorth Jackson ac fe'i lleolir ar arfordir dwyreiniolAwstralia ar lan yCefnfor Tawel. Mae'r ddinas fetropolis, ehangach yn 70 km (43.5 mi).
Mae'n ganolfan fasnachol, ddiwydiannol a diwylliannol a dyfodd o gwmpas ei phorthladd a chysylltir dwy ran y ddinas ganBont Harbwr Sydney dros fae Port Jackson,pont rychwant unigol a godwyd yn1932. Mae'r ddinas yn enwog am eithŷ opera, a agorwyd yn1973.
Digwyddodd rhuthr aur yn yr ardal ym 1851, a thros y ganrif nesaf, trawsnewidiodd Sydney o fod yn ardal drefedigaethol Brydeinig i fod yn ganolfan ddiwylliannol ac economaidd fyd-eang o bwys. Ar ôl yrAil Ryfel Byd, profodd y ddinas lawer o fudo torfo, a daeth yn un o'r dinasoedd mwyaf amlddiwylliannol yn y byd.[3] Ar adeg cyfrifiad 2011, roedd mwy na 250 o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad yn Sydney.[4] Yng Nghyfrifiad 2016, roedd tua 35.8% o'r preswylwyr yn siarad iaith heblaw Saesneg gartref.[5] Ar ben hynny, nododd 45.4% o'r boblogaeth eu bod wedi'u geni dramor, ac mae gan y ddinas y drydedd boblogaeth fwyaf o ddinasyddion a anwyd dramor - mwy nag unrhyw ddinas yn y byd ar ôlLlundain aDinas Efrog Newydd.[6][7] Rhwng 1971 a 2018, collodd Sydney cyfanswm o 716,832 o bobl i weddill Awstralia[8] ond mae ei phoblogaeth wedi parhau i dyfu, yn bennaf oherwydd mewnfudo.
MaeAwstraliaid Brodorol wedi byw yn ardal Sydney am o leiaf 30,000 o flynyddoedd, ac mae miloedd o engrafiadau, paentiadau ac ysgythriadau wedi goroesi ledled yr ardal, gan ei wneud yn un o'r cyfoethocaf ynAwstralia o ran safleoeddarchaeolegol Brodorol. Roedd tua 29 grwpy Genedl Eora yn byw yn y rhanbarth pan ddaeth yr Ewropead cyntaf.[9] Yn ystod ei fordaith gyntaf yn yMôr Tawel ym 1770, daeth yr Is-gaptenJames Cook a'i griw - yr Ewropeaid cyntaf - i siartio arfordir dwyreiniol Awstralia, gan lanio ymMae Botany ac ysbrydoli diddordeb Lloegr yn yr ardal. Ym 1788, sefydlwyd Sydney ynBritish penal colony, dan arweiniadArthur Phillip, yr anheddiad Ewropeaidd cyntaf yn Awstralia. Enwodd Phillip yr anheddiad 'Sydney' ar ôl Thomas Townshend, Is-iarll 1af Sydney.[10] Daeth cludiant iDe Cymru Newydd fel cosb i ben yn fuan ar ôl i Sydney gael ei hymgorffori fel dinas ym 1842.
Tyfodd dref o'r sefydliad gwreiddiol, efo'r swyddfeydd pwysicaf ar ei hochr ddwyreiniol. Datblygodd y dref yn sylweddol o dan reolaethLachlan McQuarrie, llywodaethwr y dref rhwng 1810 a 1821. Daeth cludiant y carcharorion i ben ym 1840. Daeth hela morfilod a'r diwydiant gwlan yn bwysig.
Sefydlwyd Dinas Sydney ym 1842. Darganfywyd aur ynAwstralia ym 1851, a daeth llawer o bobl i'r ardal o Ewrop, gogleddAmerica aTsieina. Erbyn diwedd y pedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd Sydney boblogaeth o dros hanner miliwn.[11]
Pont Harbwr SydneyFferri'n mynd heibio'r Tŷ OperaArwyddion dwyieithog yn Sydney.
Mae dinas Sydney wedi'i chodi ar graigTriasig, yn bennaf, gyda phethcraig igneaidd diweddar a 'gyddfau' folcanig. Ffurfiwyd Basn Sydney pan ehangodd cramen y Ddaear gan ymsuddo, a llenwi âgwaddod yn y cyfnod Triasig cynnar.[12] Cafodd y tywod a drodd erbyn heddiw'n dywodfaen ei olchi yno gan afonydd o'r de a'r gogledd-orllewin a'i osod rhwng 360 a 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP). Mae gan y tywodfaen lensys siâl a gwelyau afon yn llawnffosiliau.[12]
Mae bio-ardal Basn Sydney yn cynnwys nodweddion arfordirol megis clogwyni, traethau ac aberoedd. Cerfiwyd dyffrynnoedd afonydd dwfn o'r enw "rias" yn ystod y cyfnodTriasig yng nhywodfaen Hawkesbury yn y rhanbarth arfordirol lle mae Sydney bellach. Gorlifodd lefel y môr rhwng 18,000 a 6,000CP i ffurfio aberoedd a harbyrau dwfn.[12] Mae Port Jackson, sy'n fwy adnabyddus fel Harbwr Sydney, yn un o'r fath rias.[13] Mae Sydney'n cynnwys dau brif fath o bridd; priddoeddtywodlyd (sy'n tarddu o dywodfaen Hawkesbury) achlai (sy'n dod o siâl a chreigiau folcanig), er y gall rhai priddoedd fod yn gymysgedd o'r ddau.[14]
Coetiroedd glaswelltog agored yw'r cymunedau planhigion mwyaf cyffredin yn rhanbarth Sydney[15] a rhai pocedi o goedwigoedd sgleroffyl sych, sy'n cynnwys coedewcalyptws, casuarinas, melaleucas, corymbias ac angophoras, gyda llwyni (yn nodweddiadol wattles, callistemons, grevilleas a bankias), a glaswellt lled-barhaus yn yr is-haen.[16][17]
Mae planhigion yr ardal hon yn tueddu i fod â dail garw a phigog, gan eu bod yn cael eu tyfu mewn ardaloedd sydd â phridd cymharol anffrwythlon. Mae Sydney hefyd yn cynnwys ychydig ardaloedd o goedwigoedd sgleroffyl, gwlyb sydd i'w cael yn yr ardaloedd uchel yn y gogledd a'r gogledd-ddwyrain. Diffinnir y coedwigoedd hyn gan ganopïau coed syth, tal gydag isdyfiant llaith o lwyni dail meddal, rhedyn coed a pherlysiau.[18]