![]() Ysgol Gynradd Sychdyn | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1892°N 3.1389°W ![]() |
Cod OS | SJ240664 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref bychan yngnghymunedLlaneurgain,Sir y Fflint,Cymru, ywSychdyn.[1][2] Saif ar briffordd yrA5119, tua dwy filltir i'r gogledd o'rWyddgrug.
Cynrychiolir yr ardal hon ynSenedd Cymru ganHannah Blythyn (Llafur)[3] ac ynSenedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]
Mae Sychdyn wedi ei amgylchynu gan dir fferm a choedwigoedd. Mae'n gartref i nifer o cymudwyr sy'n gweithio gerllaw yngNghaer,Lerpwl neuWrecsam. Maetafarn y 'Cross Keys', siop SPAR,swyddfa bost,capel, ysgolmarchogaeth, acysgol gynradd yn y pentref.
Mae Neuadd Goffa Sychdyn, a adeiladawyd yn 1911, yn gartref i nifer o gymdeithasau gan gynnwys Clwb Ieuenctid a'r "Red Dragon Lans". Gellir llogi'r neuadd ar gyfer achlysuron arbennig. Mae gan Sychdyn hefyd lawnt fowlio, cae pêl-droed a maes ar gyfer pop tywydd a all ei fwcio ar gyfer cynnal gemau. Eir trwy'r Arch Coffa Rhyfel er mwyn cyrraedd y lawnt bowlio, sy'n coffau'r rheiny a gollodd eu bywydau yn ymladd yn y lluoedd arfog.
Mae'r plas gwledig "Soughton Hall", sy'n sefyll i'r gogledd o'r pentref, wedi cael ei droi'n westy. Mae gwesteion o nod yn cynnwysLuciano Pavarotti,Michael Jackson aJuan Carlos I, Brenin Sbaen. Safai "Lower Soughton Hall" tua milltir i'r de o "Soughton Hall", ac mae'n gartref i'r chwarawr pêl-droed,Michael Owen.
Cynhelir carnifal Sychdyn yn flynyddol er mwyn codi arian tuag at cynnal mae chwarae'r pentref. Croronir y Frenhines Rhosyn ar ôl gorymdaith drwy'r pentref.
Mae Clwb Pêl-droed Sychdyn yn chwarae yng Nghyngrair Gyntaf Clwyd.
Daw'r enw "Sychdyn" o'r enw Saesneg CanolSoughton =South Town, sy'n golygu "tref y de".
CynhalioddLlywelyn ap Gruffudd,Tywysog Cymru, sesiwn o'ilys ar gylch yno ar27 Awst1275.
Trefi
Bagillt ·Bwcle ·Caerwys ·Cei Connah ·Y Fflint ·Queensferry ·Saltney ·Shotton ·Treffynnon ·Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu ·Afon-wen ·Babell ·Bretton ·Brychdyn ·Brynffordd ·Caergwrle ·Carmel ·Cefn-y-bedd ·Cilcain ·Coed-llai ·Coed-talon ·Cymau ·Chwitffordd ·Ewlo ·Ffrith ·Ffynnongroyw ·Gorsedd ·Gronant ·Gwaenysgor ·Gwernymynydd ·Gwernaffield ·Gwesbyr ·Helygain ·Higher Kinnerton ·Yr Hôb ·Licswm ·Llanasa ·Llaneurgain ·Llanfynydd ·Llannerch-y-môr ·Maes-glas ·Mancot ·Mostyn ·Mynydd Isa ·Mynydd-y-Fflint ·Nannerch ·Nercwys ·Neuadd Llaneurgain ·Oakenholt ·Pantasaph ·Pant-y-mwyn ·Penarlâg ·Pentre Helygain ·Pen-y-ffordd ·Pontblyddyn ·Pontybotgyn ·Rhes-y-cae ·Rhosesmor ·Rhyd Talog ·Rhyd-y-mwyn ·Sandycroft ·Sealand ·Sychdyn ·Talacre ·Trelawnyd ·Trelogan ·Treuddyn ·Ysgeifiog