Sir hanesyddol yng ngogleddLloegr oeddSwydd Efrog (Saesneg:Yorkshire) a'r fwyaf yng ngwledydd Prydain o ran ei harwynebedd.Caer Efrog (York) oedd ei phrifddinas. Cadwyd yr enw "Swydd Efrog" wedi i'r sir ddiflannu fel endid gweinyddol ym 1974, ac edrychir arno, bellach, fel enw rhanbarth yn ogystal â sir draddodiadol, hanesyddol.[1] Yn adegRhyfel y Rhosynnau gelwid ei thrigolion yn"Iorciaid".
Cyn 1974 rhannwyd Swydd Efrog yn dairsir seremonïol (neu"Riding"); daw'r gairRiding o'r darddiad LlychlynaiddThrethingr, a olygai "tair rhan":
Yn dilyn yr ad-drefnu ychwanegwyd De Swydd Efrog a newidiwyd y ffiniau.
Oherwydd ei maint, ceir ynddi lawer o faesydd gwyrdd, a ystyrir ymhlith y gwyrddaf yn Lloegr, yn enwedig ardaloedd fel yrYorkshire Dales a Rhostiroedd Gogleddd Swydd Efrog.[2]
Symbol Swydd Efrog yw rhosyn gwyn, a chynrychiolir Efrog (y rhabarth) gan faner ac arni rosyn gwyn ar gefndir glas, yn symbol o'rIorciaid,[3] a dderbyniwyd gan Sefydliad Baner Prydain ar 29 Gorffennaf 2008.[4] Cynhelir 'Diwrnog Efrog' (Yorkshire Day) ar y 1af o Awst yn flynyddol, pan ddethlir hanes, tafodiaeth a diwylliant unigryw yr ardal.[5]
Fel llawer o enwau lleoedd yng ngogledd a gorllewin lloegr, cael llawer o enwauCeltaidd (neu Frythoneg). Daw'r gair "Efrog" o un o ddau air Brythoneg: naill ai "Ebruac" (enw personol) neu "Eburacon" (yr ywen). Benthyciwyd y gair hwn gan y Rhufeiniaid gan ei Ladineiddio'n "Eboracum" ac yna'n ddiweddarach gan yLlychlynwyr yn "Iorvik". Benthyciwyd ef yn ei ffurf bresennol, Saesneg 'York' yn y13g.[6]
Ceir llawer o enwau trefi, pentrefi, afonydd, bryniau ac ardaloedd eraill (Saesneg) sy'n tarddu o'r Frythoneg gan gynnwys yr enwau lleoedd : Cammock (cam), Craddock (Caradog), Crayke (craig), Ecclesfield (eglwys), Glaisdale (glas), Leeming (lemanio = llwyfen heddiw), Penistone (pen, allt), Rossington (rhos). Ceir hefyd nifer o afonydd o darddiad Brythoneg: Derwent (deren), Don (dan, yr un gwreiddyn a Dan-ube yn Ewrop), Dove (du), Esk (isca), Kyle (cul, cyfyng), Laver (llafar), Lune (llanw), Nidd (yr un gair a 'Nedd'), Rother (rhy+dwfr), Tame (tywyll), Tees (chwyrn) ac Ure (dŵr).
Bu dwy garfan oGeltiaid yn byw yn Swydd Efrog: yBrigantes a'rParisi, am filoedd o flynyddoedd cyn dyfodiad y Rhufeiniaid. Rheolai'r Brigantes fwy o diriogaeth nag unrhyw lwyth arall ar ynysoedd Prydain: Gogledd a Gorllewin Swydd Efrog erbyn heddiw, ac yn fwy na phosib, y rhan fwyaf o Ogledd Lloegr. Yng Ngorllewin Swydd Efrog roedd y Parisi,Gâl a oedd, fwy na thebyg yr un pobl a'r rhai hynny oedd yn byw yn ardalParis.[7] Ni ddiflanodd y bobl hyn dros nos pan gyrhaeddodd yRhufeiniaid, credir iddynt fyw yn gyfochrog â nhw. Ymhlith arweinyddion mwyaf nodedig Celtiaid Efrog mae Cartimandua a'i gŵr Venutius. Yn ôl rhai awduron Rhufeinig o'r cyfnod, y Brigantes oedd y rhyfelwyr mwyaf ffyrnig ynysoedd Prydain.[8]
Y term a ddefnyddir ar y Celt yng Nghyfnod hwyr y Rhufeiniaid, ac wedi hynny yw 'Brython', a chafwyd brwydrau enbyd yng Ngogledd Lloegr wedi crebachu'r gorsegyniad Rhufeinig - yn enwedig gan yr hyn a elwir heddiw'n 'Saeson'. Ymhlith y brwydrau pwysicaf y mae honno yn 577 pan ymosododdUrien BreninRheged arYnys Medgawdd (Lindisfarne) gan warchae ar Deoric breninBrynaich. Ceir llawer o gerddi o'r adeg hon yn cofnodi'r brwydrau hyn: gwelerCanu Taliesin. Yn 595 ymosododd Gwŷr y Gogledd arDeifr, teyrnas a'i chanolbwynt yng Nghaer Efrog (Dinas Efrog, bellach) a sgwennoddAneirinarwrgerdd am arwyr y frwydr hon, sefy Gododdin. Wedi Brwydr Catraeth, unwyd Brynaich a Deifr ganÆthelfrith (593-616), brenin cyntaf Northumbria. Yn yr hanner canrif a ddilynodd hynny, ymledodd ei deyrnas dros y rhan fwyaf o'rHen Ogledd.
Gorchfygwyd y Brigantes gan y Rhufeiniaid dan arweiniad Quintus Petillius Cerialis, mewn brwydr bwysig yn 71 AD.[9] SefydlwydDinas Efrog ('Eboracum') yn prifddinasBritannia Inferior ac yn gyd-Brifddinas Prydain gyfan, gyda Llundain.[10] Am ddwy flynedd, cyn marwolaeth yr YmerawdwrSeptimius Severus, gweinyddwydYmerodraeth Rhufain ganddo o Eboracum.[11]
Gwaith cerfiedig carreg
Ffordd Rufeinig ger Bainbridge
Arian Rhufeinig a ganfuwyd yng Ngogledd Swydd Efrog (364-378 OC)
Cerflun Rhufeinig o Cautopates (43-307 OC); Gogledd Swydd Efrog
Llestr clai (100-400 OC) a ganfuwyd yn Nwyrain Swydd Efrog
Cyrhaeddodd byddin oLlychlynwyrDanaidd ardalDeifr aNorthumbria yn 866 AD.[12] Gorchfydwyd yr ardal a gwnaed Dinas Efrog, unwaith eto, yn brifddinas, a alwyd ganddynt ynJórvík.[13]
Aeth y Llychlynwyr ymhellach na hyn, gan sicrhau eu gafael yn yr hyn a elwir heddiw ynDdaenfro.[14]
Parhaoedd BrenhiniaethJórvík am gan mlynedd, a throsglwyddwyd yr awenau o ddwylo Danaidd Halfdan Ragnarsson, i ddwylo NorwyaiddEric Bloodaxe yn niwedd y cyfnod hwn. Daeth BrenhiniaethWessex yn fwy a mwy grymys, ond gan adael llawer o ymreolaeth y Gogledd yn eu dwylo eu hunain gan gynnwys deddfu, a gan barchu nifer o draddodiadau Llychlynaidd.[15]
Pan dowlwydRhisiart III oddi ar orsedd Lloegr yn 1399, cynyddodd y gystadleuaeth a'r atgasedd rhwng yrIorciaid a'rLancastriaid - dwy gangen o deulu'rPlantagenet. Brwydrodd y ddau deulu mewn cyfres o frwydrau a elwir heddiw ynRhyfel y Rhosynnau, a ddaeth i ben ymMrwydr Maes Bosworth pan goronwydHarri Tudur yn Harri VII. Efallai mai'r frwydr ffyrnicaf a gwaethaf o ran nifer y meirw oedd Brwydr Towton ac roeddBrwydr Wakefield yr un mor allweddol. Y brenin olaf o deulu'r Iorciaid ar orsedd Lloegr oedd Richard III. Drwy briodi un o'r Iorciaid,Elisabeth o Efrog, daeth y brwydro i ben. Hyd heddiw, ceir elfen o'r cystadlu hwn e.e. gelwir un gêm criced rhwng yr Iorciaid a'r Lancastriaid (neu Swydd Efrog yn erbynSwydd Gaerhirfryn!) yn "Gêm y Rhosynnau"; felly hefyd pan foManchester United yn chwarae yn erbynLeeds, ceir "Rhyfel y Rhosynnau".
Yn draddodiadol, ffiniau gogleddol Efrog oedd Afon Tees, ac yn y De: yr arfordir, aber yrHumber ac afonydd Don a Sheaf. Y ffin orllewinol yw llethrau'r Pennines, wrth iddynt gyfarfod ag Afon Tees. Ceir sawl sir yn ffinio gydag Efrog:Swydd Durham,Swydd Lincoln,Swydd Nottingham,Swydd Derby,Swydd Gaer,Swydd Gaerhirfryn a'r sir draddodiadol Westmorland.
Ceir perthynas agor rhwng ardaloedd topograffig, daearegol a'r cyfnod pan gawsant eu ffurfio. Ffurfiwyd cadwen mynyddoedd y Pennines ynOes y Glo (neu'r 'Oes Garbonifferaidd');Permo-Triasig yw'r dyffryn sy'n gorwedd yng nghanol Efrog aChretasaidd yw'r ucheldir calchog.
Llifa'r afonydd canlynol drwy Efrog ac i'r môr:Afon Ouse, gydagAfon Swale yn gangen ogleddol iddi (Swaledale), a'r afonyddUre,Wharfe,Aire,Calder,Don,Esk,Hull aDerwent - mae llawer o'r rhain yn enwauBrythoneg, prawf pellach y bu'r Brythoniaid unwaith yn byw yma.
Llysenw rhanbarth Efrog yw"God's Own County".[1][16][17]
Mae'r mannau naturiol, agored hyn yn cynnwys Rhostiroedd Gogledd Swydd Efrog a'rYorkshire Dales, daubarc cenedlaethol sy'n rhan oBarc Cenedlaethol y Peak District. Dynodwyd Nidderdale a Bryniau Howardian ynArdaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.[18] Dynodwyd safleoedd arfordirolSpurn Point,Flamborough Head a Gogledd Rhostiroedd Efrog hefyd fel triArfordir Treftadaeth.[19][20]
Ers tua 2006 mae'r symudiad dros lywodraeth ranbarthol, neu ryw elfen o hunanlywodraeth i Swydd Efrog wedi tyfu; mae un blaid wleidyddol, yYorkshire Party, yn cynrychioli'r symudiad i adfer y ffiniau traddodiadol (ers ad-drefnu, 1974) ac i ffurfio senedd Gwlad Efrog[21]. Ond nid yw'r syniadau hyn yn newydd.
Yn ystod tymor y Prif WeinidogWilliam Pitt (1759 – 1806) codwyd y posibilrwydd o roi statws hunanlywodraeth i Swydd Efrog, yn dilyn trafodaethau ar sofraniaethIwerddon. Codwyd y mater eto ganWinifred Ewing (SNP) ac yna gan Richard Wainwright, AS dros Colne Valley a ddywedodd ar lawr yTŷ Cyffredin:Independence in Yorkshire expresses itself in a markedly increasing determination to establish self-reliance.[22]
Ar ddechrau'r20g mynnodd yr Athro F. W. Moorman fod yr Ioriaid yn bobl dra gwahanol i'r Saeson; datblygwyd ei syniadau ymhellach gan Herbert Read a nododd fod Swydd Efrog wedi'i hynysu oddi wrth gweddill Lloegr gan gorsydd, ac iddi ddatblygu ar wahân iddi. Mynnodd:There is something characteristic about the very physiognomy of the Yorkshireman. He is much more of a Dane or a Viking than a Saxon.[23]
Yn 1998 sefydlwydThe Campaign for Yorkshire i fynnu Cynulliad rhanbarthol fel yr Alban a Chymru,[24] a elwir weithiau'nYorkshire Parliament.[25] Noda'r mudiad mai ei amcanion yw:
Yorkshire and the Humber has distinctive characteristics which make it an ideal test bed for further reform. It has a strong popular identity. The region follows closely the historic boundaries of the three Ridings, and there is no serious debate about boundaries. It possesses strong existing regional partnerships including universities, voluntary and church associations. All this makes it realistic to regard Yorkshire and the Humber as the standard bearer for representative regional government.[26]
Yn hanesyddol, y brif wythien sy'n cludo cerbydau i Swydd Efrog yw'rGreat North Road, sef yr A1, a daw'r A19 oDoncaster.[27] Daw'r M62 o gyfeiriad Manceinion aLerpwl,[28] athraffordd yr M1 o Dde Lloegr.
Maes AwyrDwyrain Canolbarth Lloegr neuEast Midlands Airport sy'n gwasanaethu anghenion teithio awyr yr ardal, yn bennaf ond ceir hefyd yLeeds Bradford International Airport sydd wedi datblygu cryn dipyn ers 1996. MaeDoncaster Sheffield Airport,Finningley a arferid ei alw'nRobin Hood Airport Doncaster Sheffield yn gwasanaethu De Swydd Efrog.[29]
Agorwyd Maes Awyr Sheffield yn 1997 ond caewyd ef yn Ebrill 2008.
↑Hansard Parliamentary Papers, HC Deb, 18 Rhagfyr 1975, vol. 902, cc1832-52
↑Read, Herbert (31 Ionawr 1929). "Review of Frederic Richard Pearson,Yorkshire".The Times Literary Supplement. t. 79.
↑Hazell, Robert (2000).The State and the Nations: The First Year of Devolution in the United Kingdom. London: Imprint Academic. t. 118.
↑"Where there's muck".The Independent. 18 Mawrth 1999. t. 3.
↑Campaign for Yorkshire literature, quoted in Robert Hazell,The State and the Nations: The First Year of Devolution in the United Kingdom (Llundain: Imprint Academic, 2000) t.140