Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Swshi

Oddi ar Wicipedia
Amrywiaeth o nigiri swshi yn barod i'w fwyta.

Pryd bwyd poblogaidd oJapan ywswshi[1] (Japaneg:寿司,, neu) wedi ei wneud oreis wedi ei goginio a'i orchuddio neu lenwi â chynhwysion eraill, megispysgod neuteriacicyw iâr.

Yr enw ar bysgod amrwd wedi ei dorri mewn darnau bach ywsashimi, sydd yn wahanol i swshi. Ceir nifer o wahanol fathau o swshi, er enghraifftmakizushi (巻き) lle caiff y reis ei lapio gydagwymon wedi ei sychu (nori), neuinarizushi lle caiff y reis ei osod mewn poced otofu wedi ei ffrio.[2]

Maeth

[golygu |golygu cod]
Caiff swshi mewn siopau ynJapan eu gwerthu yn aml mewn bocsys plastig.

Mae prif gynhwysion naturiol swshi, pysgod amrwd a reis, yn isel mewn braster, ac yn cynnwysprotein,carbohydradau,fitaminau, amwynau. Ni ellir dweud yr un peth am swshi Gorllewinol sydd yn aml yn cynnwysmayonnaise,afocado, neugaws hufen.

Mae'r rhan fwyaf o fwyd môr yn isel mewn braster, gyda'r hynny o fraster sydd ynddo ynfraster annirlawn ac felly yn cynnwys lefelau uchel oOmega-3. Gan fod y pysgod mewn swshi yn aml yn amrwd, ni chaiff olew coginio ei ychwanegu i'r broses o'i baratoi.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. https://geiriaduracademi.org/
  2. Lee, Cherl-Ho; Steinkraus, Keith H; Reilly, P.J. Alan (1993).Fish fermentation technology (yn English). Tokyo: United Nation University Press.OCLC 395550059.Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ionawr 2021. Cyrchwyd17 Mehefin 2021.CS1 maint: unrecognized language (link)
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Swshi&oldid=11041421"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp