Benthyciad o'r gairLladinsoldus yw 'swllt', a chofnodir y defnydd cyntaf o'r gair yn Gymraeg yn y13g:Ef a anfones ugein swllt i eglwys Grist yn Dulyn. (GwaithGruffudd ap Cynan). Yn yr ieithoedd Celtaidd, ceir: 'sols' (Hen Gernyweg), 'solt' (Hen Lydaweg) a 'saout' (a olygai 'gwartheg' mewn Llydaweg Canol a Diweddar).[4]
Gallai olygu unrhyw werth, ac yng ngwledydd Prydain, yn 1554, daeth i olygu un-ugeinfed (1/20ed) rhan o bunt, sef 12 ceiniog, gan olynu'rtestoon. Arferid ei ddynodi gyda'rnodiant mathemategols neu'r 'symbol 'solidus'/ (y slash) e.e.1/9 oedd "un swllt a naw ceiniog" a11/– fydai "un-ar-ddeg swllt". Mae'r defnydd o'r symbol solidus yn dal i gael ei ddefnyddio yng Nghenia heddiw, a cheir cynlluniau yn nwyrain Affrica i greu arian cyfred cyffredin, rhwng y gwledydd; yr enw a fathwyd ar ei gyfer yw 'swllt dwyrain Affrica'.[5]
Daeth i ben yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain ar 15 Chwefror 1971, pan newidiwyd i system ddegol. Yr hen ddull, hyd at y degoliad, o nodi'r gwerthoedd oedd:
Rhwng 1901 ac 1825, gwerth y swllt Gwyddelig oedd 13c, a'i lysenw oeddblack hog, oherwydd y gelwid y swllt Seisnig ynwhite hog. Roedd hyn, wrth gwrs yn rhan o ymdrech Lloegr i gyflyru'r Gwyddelod i gredu eu bod yn ddrwg a'r Saeson yn dda.