Agweddgyfriniol oIslam ywSwffïaeth neutaṣawwuf (Arabeg:تصوّف) sy'n canolbwyntio arysbrydolrwydd Islamaidd,defodaeth,asgetigiaeth ac esoterigiaeth.[1][2][3][4][5] Gelwir dilynwr y traddodiad hwn ynṣūfī (صُوفِيّ). Gelwir Swffïaeth yn aml ynenwad Islamaidd, ond mae'n gywirach i'w disgrifio fel dimensiwn neu agwedd o'r crefydd.[6]
Fe'i diffiniwyd fel "cyfriniaeth Islamaidd",[7][8] "mynegiant cyfriniol o'r ffydd Islamaidd", "dimensiwn mewnol Islam",[9][10] "ffenomen o gyfriniaeth o fewn Islam",[11] y "prif amlygiad a'r crisialu pwysicaf a mwyaf canolog" o arferion cyfriniol yn Islam,[12] a "mewnoli a dwysáu ffydd ac arferion Islamaidd".[13]
Cyfeirir at Ymarferwyr Swffïaeth fel "Swffisiaid" (oصُوفِيّ ,ṣūfīy), ac yn hanesyddol roedd yn perthyn i "urdd" a elwir yntariqa (lluosog:ṭuruq) - cynulleidfaoedd wedi'u ffurfio o amgylchwali meistr mawr a fyddai'r olaf mewn cadwyn o athrawon olynol a allant olrhain eu llinach hyd atMuhammad.
Mae athrawiaethau a sefydliadau Swffïaeth yn ategu fframwaith sylfaenol arferion Islam. Er bod Swffïaeth yn cadw at y gyfraith Islamaidd yn llym ac yn perthyn i wahanol ysgolion cyfreitheg a diwinyddiaeth Islamaidd, maent wedi'u huno gan eu gwrthwynebiad i gyfreithlondeb sych. Mae ffocws pwysig addoliad y Swffiaid yn cynnwysdhikr, yr arfer o gofio Duw.[14]
Daeth Swffïaeth i'r amlwg yn gynnar yn hanes Islam, yn rhannol fel adwaith yn erbyn bydolrwydd Califfiaeth Umayyad cynnar (661–750),[15] a chwaraeodd Swffïaeth ran bwysig yn hanes Islam trwy eu gweithgareddau cenhadol ac addysgol.
Er gwaethaf dirywiad cymharol Swffïaeth yn ycyfnod modern, mae wedi parhau i chwarae rhan bwysig yn ybyd Islamaidd, ac mae hefyd wedi dylanwadu ar wahanol fathau o ysbrydolrwydd yn y Gorllewin.[16][17]
Mae'r gair Arabegtasawwuf (yn llythrennol: bod neu ddod yn Swffi), a gyfieithir yn gyffredinol i'r Gymraeg fel 'Swffïaeth', yn cael ei ddiffinio'n gyffredin gan awduron y Gorllewin fel 'cyfriniaeth Islamaidd'. Mae'r term Arabegsufi wedi cael ei ddefnyddio mewn llenyddiaeth Islamaidd gydag ystod eang o ystyron, gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr Swffïaeth.[18] Roedd testunau Clasurol Swffïaeth, a bwysleisiodd ddysgeidiaeth ac arferion penodol yCorân a'rsunnah (dysgeidiaeth ac arferion enghreifftiol y proffwyd IslamaiddMuhammad), yn rhoi diffiniadau otasawwuf a ddisgrifiodd nodau moesol ac ysbrydol ac a oedd yn gweithredu fel offer add. . Yn lle hynny, defnyddiwyd llawer o dermau eraill a oedd yn disgrifio rhinweddau a rolau ysbrydl mewn cyd-destunau mwy ymarfero.[18]
Mae rhai ysgolheigion modern wedi defnyddio diffiniadau eraill o Swffïaeth, megis "dwysáu ffydd ac ymarfer Islamaidd" a "phroses o wireddu delfrydau moesegol ac ysbrydol".
Cyflwynwyd y term Swffïaeth (Sufism) yn wreiddiol i ieithoedd Ewropeaidd yn y 18g gan ysgolheigion Dwyreiniol, a oedd yn ei weld yn bennaf fel athrawiaeth ddeallusol a thraddodiad llenyddol a oedd yn groes i'r hyn a welent fel undduwiaeth Islam. Mewn defnydd ysgolheigaidd modern mae'r term yn disgrifio ystod eang o ffenomenau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol a chrefyddol sy'n gysylltiedig â Swffïaeth.
Ymddengys mai ystyr gwreiddiolsufi oedd "un sy'n gwisgo gwlân (ṣūf)", ac mae'r Gwyddoniadur Islam yn diystyru rhagdybiaethau etymolegol eraill. Yn draddodiadol, cysylltid dillad gwlân ag asgetigau a chyfrinwyr. Gwrthododd Al-Qushayri acIbn Khaldun bob posibilrwydd heblawṣūf ar sail ieithyddol.
Gellir cymharu hyn gyda'r enwau 'yBrodyr Duon' a'r 'Brodyr Llwydion', sef mynachod yng Nghymru a gwledydd eraill a elwid ar ôl lliw'r gwlân a wisgant.
Mae esboniad arall yn olrhain yr enw i'r gairṣafā (صفاء), sydd ynArabeg yn golygu "purdeb". Cyfunwyd y ddau esboniad gan y Sufial-Rudhabari (m. 322 AH), a ddywedodd, " Y Swffi yw yr hwn sy'n gwisgo gwlan ar ben purdeb."[19][20]
Ernst, Carl W. (2010). "Muḥammad as the Pole of Existence". In Brockopp, Jonathan E. (gol.).The Cambridge Companion to Muhammad. Cambridge University Press. tt. 123–138.ISBN9781139828383.
↑Martin Lings,What is Sufism? (Lahore: Suhail Academy, 2005; first imp. 1983, second imp. 1999), p.15
↑Titus Burckhardt,Art of Islam: Language and Meaning (Bloomington: World Wisdom, 2009), p. 223
↑Seyyed Hossein Nasr,The Essential Seyyed Hossein Nasr, ed. William C. Chittick (Bloomington: World Wisdom, 2007), p. 74
↑Martin Lings,What is Sufism? (Lahore: Suhail Academy, 2005; first imp. 1983, second imp. 1999), p.12: "Mystics on the other hand-and Sufism is a kind of mysticism-are by definition concerned above all with 'the mysteries of the Kingdom of Heaven'".
↑ Compare:Nasr, Seyyed Hossein (2007).Chittick, William C. (gol.).The Essential Seyyed Hossein Nasr. The perennial philosophy series. Bloomington, Indiana: World Wisdom, Inc. t. 74.ISBN9781933316383. Cyrchwyd2017-06-24.Sufism is the esoteric or inward dimension of Islam [...] Islamic esoterism is, however [...] not exhausted by Sufism [...] but the main manifestation and the most important and central crystallization of Islamic esotericism is to be found in Sufism.
↑Sedgwick, Mark (2012). "Neo-Sufism". In Hammer, Olav; Rothstein, Mikael (gol.).The Cambridge Companion to New Religious Movements. Cambridge University Press.
↑18.018.1Chittick, William C. (2009)."Sufism. ṢūfĪ Thought and Practice". In Esposito, John L. (gol.).The Oxford Encyclopedia of the Islamic World. Oxford: Oxford University Press. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2010-06-03. Cyrchwyd2022-01-23.
↑The Naqshbandi Sufi Tradition Guidebook of Daily Practices and Devotions, p. 83, Muhammad Hisham Kabbani, Shaykh Muhammad Hisham Kabbani, 2004