Gwlad fawr yng ngogledd-ddwyrainAffrica ywGweriniaeth Swdan neuSwdan (hefydSudan neuSiwdan). Mae'n ffinio â'rAifft i'r gogledd,Eritrea acEthiopia i'r dwyrain,De Swdan i'r de,Gweriniaeth Canolbarth Affrica aTsiad i'r gorllewin aLibia i'r gogledd-orllewin. Mae'rMôr Coch yn gorwedd i'r gogledd-ddwyrain ac maeAfon Nîl yn llifo trwy'r wlad. Yn y Cyfrifiad Cenedlaethol diwethaf, roedd poblogaeth Swdan yn 40,533,330(2017)[1].
Hyd at ddechrau'r5ed ganrif, bron iawn, cefnogai'rYmerodraeth Rufeinig dylwyth y Nobatae, a ddefnyddiai deyrnasMeroë fel amddiffynfa rhwngyr Aifft a thylwyth yBlemmyae. Tua'r flwyddyn 350 OC, daeth annibyniaeth Meroë i ben, pan ddinistriwyd y ddinas gan fyddin oAbyssinia.
Erbyn y6ed ganrif, ymddangosodd tair gwladwriaeth newydd: Nobatia yn y gogledd, Muqurra yn y canolbarth, ac Alawa (oedd a'i phrifddinas ger safleKhartoum heddiw). Tua 540, anfonodd Theodora,ymerodres Bysantiwm, genhadwyr i hybu'rEfengylGristnogol yn Nobatia. Derbyniodd brenhinoedd Nubia awdurdod patriarchaideglwys Goptig yr Aifft.
Wedi sawl ymgais aflwyddiannus ar wladychiad milwrol, arwyddodd lluoedd Arabaidd o'r Aifft gyfres o gytundebau (AlBaqt) gyda'r Nubiaid. Bu'r cytundebau yn sail i berthynas yr Arabiaid a'r Nubiaid am gyfnod o dros 600 mlynedd. LledaenoddIslam trwy'r ardal yn raddol iawn, trwy briodi a masnachu gyda mewnfudwyr a masnachwyr Arabaidd. Ym1315, esgynodd tywysog o Fwslim o dras Nubiaidd i orsedd Dunqulah.
Ymddyngasodd dau grŵpArabeg eu hiaith, y Jaali a'r Juhayna. Yn gorfforol, roeddynt yn ddi-dor gyda'r boblogaeth gyn-Islamaidd. Mae elfennau Arabaidd a Nubiaidd i ddiwylliant gogledd Swdan sydd ohoni.
Yn 1820, daeth gogledd Swdan dan reolaethMuhammad Ali,rhaglaw yrYmerodraeth Otomanaidd yn yr Aifft. Gydag annogaeth o Brydain, ceisioddIsmail Pasha, estyn y ddylanwad Eifftaidd tua'r de yn y blynyddoedd 1863-1879.
YsgogwydMuhammad ibn Abdalla i arwain wrthryfel oherwydd cam-lywodraeth Eifftaidd a dymuniad i burháu Islam yn Swdan. Ym1885, lladdwyd y Cadfridog prydeinigCharles George Gordon, gadawodd yr Eifftiaid, a sefydlwyd wladwriaeth grefyddolMahdaidd newydd.