Sun Tzu |
---|
 |
Ganwyd | 孫武  c. 544CC  Qi  |
---|
Bu farw | Gusu  |
---|
Dinasyddiaeth | Qi, Wu  |
---|
Galwedigaeth | llenor, athronydd, person milwrol  |
---|
Adnabyddus am | Celfyddyd Rhyfel  |
---|
Tad | Sun Ping  |
---|
Plant | Sun Ming Zi  |
---|
Perthnasau | Sun Jian  |
---|
Awdur oTsieina oeddSun Tzu (Pinyin:Sūn Zǐ, "Meistr Sun", tua 544—496 CC). Mae'n adnabyddus fel awdur y llyfrSūnzǐ Bīngfǎ ("Celfyddyd Rhyfel"), llyfr eithriadol o ddylanwadol ar gelfyddyd filwrol.
Nid yw haneswyr yn cytuno a oedd Sun Tzu yn gymeriad hanesyddol ai peidio. Yn ôl yr hanesyddSima Qian, yn ysgrifennu yn yr2 CC, ganed Sun Tzu yng ngwladwriaeth Ch'i, a bu'n gadfridog i frenin teyrnasWu. Mae eraill yn dyddio'r llyfrSūnzǐ Bīngfǎ i gyfnod ddiweddarach, sefCyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar (403–221 CC), ar sail ei ddisgrifiad o ryfel.
Dyma rai o ddyfyniadau oSūnzǐ Bīngfǎ:
知彼知己,百戰不殆;不知彼而知己,一勝一負;不知彼,不知己,每戰必殆 Os ydym yn adnabod y gelyn ac yn adnabod ein hunain ni chawn ein curo o fewn can brwydr, os nad ydym yn adnabod y gelyn ond yn adnabod ein hunain, cewn un fuddugoliaeth am bob goresgyniad, os nad ydym yn adnabod nid y gelyn na ni ein hunain, byddem yn colli pob brwydr.
是故百戰百勝,非善之善者也;不戰而屈人之兵,善之善者也 Nid yw brwydro canwaith ac ennill canwaith yn gystal camp a chael gafael o luoedd y gelyn heb ymladd o gwbl.