Organ ar ffurf bag ogyhyrau ydy'rstumog, ac fe'i ceir yn y rhan fwyaf ofamaliaid. Organ sy'n dal bwyd a'i dreulio'n rhannol fel rhan o'rsystem dreulio. Daw o'r gair Lladinstomachus (Groeg - στόμαχος), sy'n golygu "stumog", "gwddf" neu "falchder".[1]
Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio'n bennaf ar stumogau dynol, er bod cryn debygrwydd rhyngddo â'r rhan fwyaf oanifeiliaid,[2] ar wahân i'r fuwch sy'n hollol wahanol.[3]
Mae tri phrif bwrpas i'r stumog: lladdbacteria, torri'r darnau bwyd yn ddarnau llai er mwyn cael mwy o arwynebedd a chynnal y bwyd am oriau a'i ollwng yn araf ac yn gyson. Ceir hylif asidig cryf ynddo i wneud y gwaith hwn,asid hydroclorig ydy hwnnw gyda pH o rhwng 1 a 2 - yn dibynnu ar ffactorau megis pa ran o'r diwrnod ydyw, y swm o fwyd a fwytawyd, cynnwys arall megiscyffuriau a ffactorau eraill. Yn yr hylif hwn y torrir ymoleciwlau mawr yn rhai llai, fel y rhan gyntaf o'r broses dreulio - cyn gwthio'r bwyd i'r cam nesaf sef ycoluddyn bach. Mae'r stumog ddynol yn creu rhwng 2.2 a 3 litr o'r asid gastrig hwn y dydd. Mae mwy ohono'n cael ei greu fin nos nac yn y bore. Gall y stumog ddal rhwng 2 a 4 litr o fwyd, gan ymestyn pan fo raid.