Crwst o ddalennau teneuon odoes o amgylch llenwad meddal ywstrwdel[1] (Almaeneg:Strudel, seftrobwll) sydd yn tarddu o goginiaethCanolbarth Ewrop. Gwneir fel rheol ar ffurf rhôl hir, yn aml wedi ei phlygu mewn siâp pedol neu dorch, ac wedipobi câi'r strwdel ei dorri'n sleisiau er mwyn ei fwyta, naill ai yn boeth neu'n oer.[2]
Cymysgirblawd,wyau, ychydig ofenyn, a chymhareb uwch na'r arfer o ddŵr i wneud toes sidanaidd a ellir ei rolio neu dynnu'n denau iawn. Dodir y toes ar liain, gydag ychydig o flawd, ar fwrdd mawr er mwyn ei dynnu gyda'r dwylo, ac yn draddodiadol dywedir bod yn rhaid ei ymestyn cymaint fel bod modd darllen papur newydd trwyddi. Er mwyn troi'r toes yn rhôl hir, caiff ei frwsio gyda menyn toddi a thaenirbriwsion bara arno cyn gosod y llenwad ar hyd ben y ddalen. Codir y lliain fel bo'r toes yn rholio i fyny ar ochr arall y bwrdd. Câi'r rholyn ei droi'n siâp droelleg, fel arfer, a rhoddir rhagor o fenyn toddi arno cyn ei roi yn y ffwrn i'w bobi.[2]