Steve Rixon | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 25 Chwefror 1954 ![]() Albury, De Cymru Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | Awstralia ![]() |
Galwedigaeth | cricedwr ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm criced cenedlaethol Awstralia ![]() |
Cyn-chwaraewrcriced oAwstralia ywStephen John Rixon (ganwyd25 Chwefror1954).
Ganwyd Rixon ynAlbury, De Cymru Newydd. Chwaraeodd mewn 13 Test a 6 gêm Un Dydd Rhyngwladol rhwng1977 ac1985. Dechreuodd chwarae ardîm Awstralia fel ceidwad wiced ym1977–1978 ar ôl iRodney Marsh ymuno âCriced Cyfres y Byd, a collodd ei le pan ddychwelodd Marsh i'r tîm. Dychwelodd Rixon i'r tîm yn1984–1985 wedi ymddeoliad Marsh ac roeddWayne Phillips wedi ei anafu.
Ymunodd Rixon â taith gwrthryfelaDe Affrica ym1985–1986, ond nid oedd yn gallu ail-ymuno â'r tîm cenedlaethol pan ddychwelodd.
Ers ymddeol, mae Rixon wedi bod yn hyfforddwr ar gyferTîm criced Seland Newydd,De Cymru Newydd,Surrey, ac yn bresennol,The Scots College, Sydney. Mae hefyd yn hyfforddi'rHyderabad Heroes yngNghyngrhair Criced India.
Bu adroddiadau fod ganddo ddiddordeb mewn cymryd drosodd fel hyfforddwrTîm criced Awstralia pan fyddai'r hyfforddwr,John Buchanan yn gadael ar ôlcyfres Lludw2006–2007, ond ni apwyntiwyd ef, a cymeroddTim Nielsen y swydd.