System cylchoedd steroid: Dangosir system cylchoedd rhiant steroid ABCD (fframwaith hydrocarbon) gyda llythrennu (cylchoedd) a rhifo (atomau) wedi eu cymeradwyo gan IUPAC.:1785f
Cyfansoddyn organig ywsteroid ac mae iddo bedwar cylch sydd wedi eu trefnu mewn cyfluniad moleciwlaidd penodol. Ymhlith yr enghreifftiau amlwg y mae colesterol lipid dietegol, yr hormonau rhyw estradiol a thestosteron:10-19 a'r cyffur gwrthlidiol decsamethason.[1][2] Ceir dwy brif swyddogaeth fiolegol i steroidau: mae rhai steroidau (megiscolesterol) yn chwarae rhan allweddol mewn cellbilennau ac yn newid hylifedd pilenni, gweithreda llawer o steroidau hefyd fel moleciwlau signalau sy'n actifadu derbynyddion hormonau steroid.
Mae strwythur craidd steroid yn cynnwys dau ar bymtheg oatomau carbon sydd wedi'u bondio mewn pedwar cylch "ymdoddedig": tri chylch yn cynnwys chwe aelod seiclohecsan (cylchoedd A, B a C yn y darlun) ac un cylch o bum aelod cyclopentane (cylch D). Mae steroidau'n amrywio yn ôl grŵp swyddogaethol, nodwedd sydd ynghlwm a'r strwythur craidd uchod, ynghyd â chyflwr ocsidiad y cylchoedd. Math o steroid yw sterolau, ac maent yn cynnwyshydrocsyl yn safle tri'r darlun a deillia eu sgerbwd o cholestane.:1785f[3] Gallant hefyd amrywio'n sylweddol wedi newidiadau i strwythur y cylch (er enghraifft, holltau yn y cylchoedd sy'n cynhyrchu secosteroidau, fel fitamin D3).
Gellir canfod cannoedd o steroidau mewnplanhigion,anifeiliaid affyngau. Mae'r holl steroidau yn cael eu cynhyrchu mewncelloedd o'r sterols lanosterol (anifeiliaid a ffyngau) neu cycloartenol (planhigion). Deillia lanosterol a cycloartenol o cylcheiddiad y sgwâr triterpene.[4][5]
↑"Lanosterol biosynthesis".Recommendations on Biochemical & Organic Nomenclature, Symbols & Terminology. International Union Of Biochemistry And Molecular Biology.
"The nuclear pregnane X receptor: a key regulator of xenobiotic metabolism". Endocrine Reviews23 (5): 687–702. Oct 2002. doi:10.1210/er.2001-0038. PMID12372848.