Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Stendhal

Oddi ar Wicipedia
Stendhal
FfugenwStendhal, Henri Stendhal, Stendalis, Louis Alexandre Bombet, Anastase de Serpière, Don Flegme, William Crocodile, Dominique Edit this on Wikidata
GanwydMarie-Henri Beyle Edit this on Wikidata
23 Ionawr 1783 Edit this on Wikidata
Grenoble Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mawrth 1842 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, hunangofiannydd, dyddiadurwr, cofiannydd, nofelydd, diplomydd, hanesydd celf Edit this on Wikidata
Blodeuodd1825 Edit this on Wikidata
Swyddauditor at the Conseil d'État, Consul of France Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Red and the Black, The Charterhouse of Parma, On Love, Memoirs of an Egotist, Mémoires d'un touriste, Vanina Vanini, Lucien Leuwen, Armance, The Life of Henry Brulard, Rome, Naples and Florence, Racine and Shakespeare, Italian Chronicles, Q17358554 Edit this on Wikidata
Arddullnofel seicolegol,nofel Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth,Rhamantiaeth Edit this on Wikidata
TadChérubin Beyle Edit this on Wikidata
MamHenriette Gagnon Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Q130762055 Edit this on Wikidata
llofnod

LlenorFfrangeg oFfrainc oeddStendhal, sefHenri Beyle (23 Ionawr178323 Mawrth1842).[1] Fe'i ystyrir yn un o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol yn llenyddiaeth Ffrainc felRhamantwr ac arloeswrrealaeth.

Bywgraffiad

[golygu |golygu cod]

Ganwyd Stendhal ynGrenoble, Ffrainc. Yn 1799 symudodd o Grenoble er mwyn astudio ym Mharis, ond yn fuan wedyn rhoddodd heibio astudio a dechreuodd ysgrifennu. Ei uchelgais cyntaf oedd ysgrifennudramâu, ond bu rhaid iddo ildio i bwysau gan ei deulu a chymryd swydd yn y Weinidogaeth Rhyfel. Mewn canlyniad, cafodd ei anfon iMilan ym Mai 1800. Cafodd ei swyno gan y bywyd milwrol (roeddNapoleon ar ei anterth),yr Eidal, byd yropera, serch a dedwyddwch. Yn wr swil o dueddiad rhamantaidd a oedd yn casáu rhagrith y gymdeithasfourgeois Ffrengig, sefydlodd er ei fwyn ei hun yr hyn a alwai yn "ddull ymarferol i gael dedwyddwch" (le bonheur), sef "Beylaeth".

Pan gollodd ei fywoliaeth gyda chwymp ymerodraeth Napoleon, ymroddodd yn llwyr i fywyd yr Eidal,cerddoriaeth achelf. Ysgrifennodd fywgraffiadauHaydn aMozart ac wedyn hanes paentio yn yr Eidal (Histoire de la peinture en Italie), a'rllyfr taithRome, Naples et Florence. Yn 1819, wedi ei siomi mewn carwriaeth gyda Matilde Dembowski, ysgrifennodd yr ysgrifDe l'amour sy'n ceisio dadansoddiseicolegcariad. Yn 1827, yn 44 oed, ysgrifennodd einofel gyntafArmance a ddilynwyd ganLe Rouge et le Noir. Daeth yn gonswl Ffrengig ynCivitavecchia ond parhaodd Stendhal i ysgrifennu: yno y dechreuodd ei ddauhunangofiant (Souvenir d'égotisme,Vie de Henry Brulard) a dwy nofel anorffenedig (Lucien Leuwen,Lamiel). Ar ymweliad i Baris ysgrifennodd ei nofelLa Chartreuse de Parme a enillodd gymeradwyaethHonoré de Balzac. Bu farw ym Mharis ar ôl cael trawiad calon yn y stryd ar 23 Mawrth 1842.

Llyfrau

[golygu |golygu cod]

Nofelau

[golygu |golygu cod]

Arall (detholiad)

[golygu |golygu cod]
  • Vies de Haydn, Mozart et Métastase (1815)
  • Histoire de la Peinture en Italie (1817)
  • Rome, Naples et Florence (1817 ac 1827)
  • De l'amour (1822)
  • Racine et Shakespeare (1823, 1825)
  • Vie de Rossini (1823)
  • Promenades dans Rome (1829)
  • Vie de Henry Brulard (1890), hunangofiant

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Green, F. C. (16 Mehefin 2011).Stendhal (yn Saesneg). Cambridge University Press.ISBN 978-1-107-60072-0.

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Stendhal&oldid=13119990"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp